Monitro problemau gwasanaeth i gwsmeriaid a'u datrys
Trosolwg
Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n ymwneud â Delio â Phroblemau, Ymholiadau a Chwynion. Mae'n ymwneud â monitro problemau gwasanaeth i gwsmeriaid a'u datrys. Mae'n ymwneud â'r ymddygiadau, y prosesau a'r dulliau gweithredu sydd fwyaf effeithiol wrth ymdrin â phroblemau gwasanaeth i gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.
Rydych yn darparu ac yn trefnu gwasanaeth i gwsmeriaid, ond bydd rhai o'ch cwsmeriaid yn cael problemau a gallwch sylwi ar y rhain a'u datrys cyn i'ch cwsmeriaid hyd yn oed wybod amdanynt. Rydych hefyd yn cymryd rhan mewn newid systemau er mwyn osgoi problemau sy'n codi dro ar ôl tro mewn gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae rhai cwsmeriaid yn asesu ansawdd eich gwasanaeth cwsmeriaid ar sail y ffordd yr ydych yn datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydych yn creu argraff ar gwsmeriaid ac yn adeiladu eu teyrngarwch drwy ddatrys problemau ac y creu argraff arnynt mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosibl pe bai popeth wedi mynd yn esmwyth. Weithiau efallai y byddwch yn gofyn am gymorth arbenigol os nad oes modd datrys problem. Rydych hefyd yn rheoli eich cwsmeriaid pan maent yn disgwyl mwy nag y gall eich sefydliad ei gynnig neu am nad yw gweithdrefnau eich gwasanaeth wedi'u dilyn.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithiwr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n monitro ac yn datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymateb i broblemau gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddilyn canllawiau sefydliadol
- gwrando'n ofalus ar eich cwsmeriaid pan maent yn codi problemau
- gofyn i'ch cwsmeriaid am y broblem i wneud yn siŵr eich bod yn deall
- nodi problemau gyda systemau a gweithdrefnau cyn iddynt ddechrau effeithio ar eich cwsmeriaid
- datrys problemau gyda systemau a gweithdrefnau gwasanaeth a allai effeithio ar gwsmeriaid cyn iddynt ddod yn ymwybodol ohonynt
- hysbysu rheolwyr a chydweithwyr o'r camau a gymerwyd i ddatrys problemau gyda systemau a gweithdrefnau
- nodi problemau sy'n digwydd dro ar ôl tro gyda gwasanaeth i gwsmeriaid
- cymharu'r atebion ar gyfer delio â phroblemau sy'n digwydd dro ar ôl tro gyda gwasanaeth i gwsmeriaid a manteision ac anfanteision pob un o'r rhain
- dewis yr ateb gorau ar gyfer datrys problem sy'n digwydd dro ar ôl tro gyda gwasanaeth i gwsmeriaid, gan gydbwyso disgwyliadau cwsmeriaid ag anghenion eich sefydliad
- cael cymeradwyaeth ar gyfer yr ateb gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i leihau'r siawns y bydd problemau'n cael eu hailadrodd
- gweithredu'r ateb y cytunwyd arno a'i fonitro i gael llai o broblemau sy'n codi eto
- gweithio gyda chydweithwyr i nodi a chadarnhau'r opsiynau i ddatrys problem gwasanaeth i gwsmeriaid
- gwerthuso manteision ac anfanteision pob opsiwn i'ch cwsmer a'ch sefydliad
- dewis yr opsiwn gorau i ddiwallu anghenion eich cwsmeriaid a'ch sefydliad
- trafod yr opsiynau ar gyfer datrys y broblem gyda'ch cwsmeriaid a chytuno arnynt
- gofyn am gymorth arbenigol i ddatrys problemau cwsmeriaid, pan fo angen
- cymryd camau i roi'r opsiwn y cytunwyd arno gyda'ch cwsmeriaid ar waith
- gweithio gyda chydweithwyr a chwsmeriaid i wneud yn siŵr bod unrhyw addewidion sy'n ymwneud â datrys y broblem yn cael eu cadw
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch cwsmeriaid am yr hyn sy'n digwydd i ddatrys eu problem
- cadarnhau gyda'ch cwsmeriaid bod y broblem wedi'i datrys i'w boddhad nhw
- rhoi rhesymau clir i'ch cwsmer pan na allwch ddatrys y broblem i'w boddhad
- dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithdrefnau a systemau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â phroblemau gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i wrando ar gwsmeriaid pan maent yn codi pryderon i ddangos empathi a dealltwriaeth
- y mathau o gwestiynau sy'n helpu i gasglu gwybodaeth am broblemau a theimladau cwsmeriaid amdanynt
- eich gweithdrefnau a'ch systemau sefydliadol ar gyfer nodi problemau sy'n codi dro ar ôl tro gyda gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut mae datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid yn llwyddiannus yn cyfrannu at deyrngarwch cwsmeriaid allanol a gwell perthynas waith gyda phartneriaid gwasanaeth neu gwsmeriaid mewnol
- y dulliau a ddefnyddir i nodi problemau sy'n codi dro ar ôl tro gyda gwasanaeth
- sut i ddatblygu atebion posibl i broblemau gyda chydweithwyr
- pwysigrwydd cydbwyso disgwyliadau cwsmeriaid ag anghenion eich sefydliad
- sut i drafod gyda chwsmeriaid a'u sicrhau wrth i'w problemau gael eu datrys o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt
- y cyfleoedd a'r potensial i fonitro a datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid gan gasglu a rhannu gwybodaeth o bell megis ar y cyfryngau cymdeithasol
- sut i leddfu sefyllfaoedd a allai achosi straen sy'n gysylltiedig â phroblemau gwasanaeth i gwsmeriaid
- cyfyngiadau'r hyn y gallwch ei gynnig i'ch cwsmeriaid o ran gwasanaethau a chynhyrchion eich sefydliad
- y mathau o gamau ac ymddygiadau a allai waethygu problem cwsmeriaid a sut i osgoi'r rhain
- sut i ddewis y dull cyfathrebu mwyaf effeithiol wrth ddelio â phroblemau gwasanaeth i gwsmeriaid
- sut i ddefnyddio cyfathrebu o bell gyda chwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol wrth ddatrys problemau cwsmeriaid
- y mathau o gymorth arbenigol i ddatrys problemau cwsmeriaid, pan fo angen
- y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal