Defnyddio meddalwedd pwrpasol ar gyfer delio â chwsmeriaid

URN: INSCS023
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Chyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid.  Mae'n ymwneud â defnyddio meddalwedd pwrpasol ar gyfer delio â chwsmeriaid. Mae'n cynnwys cynllunio, trefnu a rheoli gweithrediadau gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys ymddygiadau a phrosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar brofiad y cwsmer yn ystod y Broses o Gyflwyno Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Darperir gwasanaeth cwsmeriaid yn aml drwy ddefnyddio meddalwedd bwrpasol wrth ddelio â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein. Rydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd o gwmpas y system yn gyflym drwy ddilyn y llwybrau a argymhellir a defnyddio elfen ymarferol y system.  Nid yw cwsmeriaid yn ymwybodol o fanylion y system rydych yn ei defnyddio ac rydych yn rhoi gwybod iddynt am y gwahanol gamau rydych yn eu cymryd.  Mae eich defnydd o'r system yn sicrhau eich bod yn cadw cofnodion o'r trafodiad fel y gall fynd rhagddo yn llwyddiannus i'r camau nesaf.  Yn bennaf oll, boddhad cwsmeriaid sy'n gorfod gyrru'r rhyngweithio ac ni ddylai ymddangos fel pe bai'n ddibynnol ar ofynion y feddalwedd.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gyfrifol am ddefnyddio meddalwedd pwrpasol wrth ddelio â chwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael mynediad at system feddalwedd eich sefydliad gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi unigryw
  2. dod o hyd i'ch ffordd i'r meddalwedd bwrpasol ar gyfer rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid i wneud yn siŵr bod mynediad gennych at yr holl feysydd sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich rôl
  3. dod yn fwy cyfarwydd â llawlyfr y feddalwedd, sgriniau cymorth neu linellau cymorth i wybod ble i ddod o hyd i gymorth technegol pan fo angen
  4. paratoi eich man gwaith i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio'r meddalwedd pwrpasol
  5. nodi eich cwsmeriaid a'r gwasanaethau neu gynhyrchion y maent am eu defnyddio
  6. dilyn gweithdrefnau sefydliadol i fynd drwy'r system i ymateb i anghenion cwsmeriaid
  7. defnyddio nodweddion chwilio neu nodweddion arbenigol eraill o fewn y feddalwedd i ymateb i geisiadau cwsmeriaid
  8. cofnodi cofnodion newydd gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddefnyddio'r system feddalwedd bwrpasol
  9. diwygio cofnodion gwasanaeth i gwsmeriaid yn y system feddalwedd bwrpasol
  10. cyfathrebu â'ch cwsmeriaid pan fydd y system feddalwedd yn defnyddio iaith nad yw'n dechnegol
  11. dilyn gweithdrefnau sefydliadol i lywio sgyrsiau cwsmeriaid sy'n dilyn llwybrau a dilyniannau'r feddalwedd bwrpasol
  12. dehongli negeseuon gwall a chymryd camau o ganlyniad iddynt i gefnogi eich gwasanaeth i gwsmeriaid
  13. cyfeirio eich cwsmer at gydweithwyr os na allwch gwblhau trafodion
  14. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y drefn ar gyfer mewngofnodi ar system feddalwedd bwrpasol eich sefydliad
  2. pensaernïaeth a daearyddiaeth y system feddalwedd bwrpasol a sut i ddod i hyd i'ch ffordd o'i chwmpas i gael mynediad at yr hyn sydd ei angen arnoch
  3. y gwahanol lwybrau sgrîn neu ddewislen y gellir eu dilyn i fodloni gofynion cwsmeriaid a sut i strwythuro eich sgyrsiau cwsmeriaid i gyd-fynd â'r rhain
  4. y ffynonellau cymorth a chefnogaeth ar gyfer y feddalwedd bwrpasol gan gynnwys llawlyfrau, sgriniau cymorth a llinellau cymorth
  5. pwysigrwydd paratoi man gwaith cyn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar eich gwaith
  6. cwsmeriaid eich sefydliad a'r gwasanaethau a'r cynhyrchion y gallwch eu cynnig iddynt
  7. y nodweddion chwilio neu ymchwilio eraill o fewn y system feddalwedd bwrpasol
  8. sut i gwblhau cofnodion cwsmeriaid newydd a chasglu gwybodaeth gan ddilyn prosesau a chanllawiau eich sefydliad
  9. y dulliau a ddefnyddir i ddiwygio a diweddaru cofnodion am wasanaeth i gwsmeriaid yn y system feddalwedd bwrpasol
  10. pwysigrwydd osgoi jargon a therminoleg system wrth gyfathrebu â chwsmeriaid
  11. sut i ymateb i negeseuon gwall wrth ddefnyddio system feddalwedd bwrpasol
  12. y pwyntiau atgyfeirio a'r ffynonellau gwybodaeth pan na allwch ddiwallu anghenion cwsmeriaid drwy ddefnyddio'r system feddalwedd bwrpasol
  13. y cysylltiadau rhwng y system feddalwedd bwrpasol a rhwydweithiau agored neu blatfformau cyfryngau cymdeithasol a allai fod yn berthnasol i gyfathrebu â'ch cwsmeriaid
  14. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSB7

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

meddalwedd bwrpasol; canolfannau cyswllt; ffôn; ar-lein; ymarferoldeb; gwasanaeth i gwsmeriaid; cyfathrebu; datrys problemau; gweithio gydag eraill; gwaith tîm; rhoi gwybodaeth; derbyn gwasanaethau gwybodaeth