Darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda thîm

URN: INSCS014
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig ag Argraff a Delwedd. Mae'n ymwneud â darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda thîm. Mae'n cynnwys maes sy'n cwmpasu'r ymddygiadau a'r prosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar y ffordd y mae eich cwsmer yn eich ystyried chi a'ch sefydliad. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Mae gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn ymdrech gan dîm.  Rydych yn ennill teyrngarwch cwsmeriaid ac yn ei gynnal drwy gyd-dynnu â'r holl staff eraill sy'n helpu i drefnu sut y cyflwynir gwasanaethau neu gynhyrchion, rhyngweithio â'r cwsmer, neu gefnogi gweithgareddau gwasanaeth i gwsmeriaid.  Mae eich tîm yn cynnwys cydweithwyr, uwch-reolwyr a phartneriaid gwasanaethau sy'n gweithio mewn adrannau eraill neu sefydliadau allanol sy'n cyfrannu at gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid.  Er mwyn cyflawni nodau ac amcanion eich sefydliad ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid, byddwch yn meithrin perthynas waith effeithiol gyda'r holl aelodau hyn o'r tîm i gael eu cydweithrediad a'u cefnogaeth. Rydych yn 'gyfaill' i gydweithwyr i gefnogi eu datblygiad pan fo angen.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda thimau mewnol neu allanol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi strategaethau tîm ar gyfer darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda chydweithwyr
  2. rhannu gwybodaeth i wella gwasanaeth i gwsmeriaid
  3. annog, derbyn ac ymateb yn gadarnhaol i adborth gan gydweithwyr ar berfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
  4. delio â gwrthdaro a'i ddatrys drwy gydweithio â chydweithwyr
  5. adolygu strategaethau gwaith tîm ar gyfer darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda chydweithwyr
  6. nodi partneriaid allweddol sy'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid
  7. cytuno ar ddulliau darparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid gyda phartneriaid gwasanaethau
  8. datblygu a chynnal perthynas waith gyda phartneriaid gwasanaethau
  9. sicrhau bod eich ymrwymiadau i bartneriaid gwasanaethau yn cael eu cyflawni
  10. gwirio bod ymrwymiadau partneriaid gwasanaethau i chi yn cael eu cyflawni fel y cytunwyd
  11. cyfathrebu â phartneriaid gwasanaethau ar faterion sy'n effeithio arnynt hwy a'ch cwsmeriaid
  12. datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid drwy gydweithio â phartneriaid gwasanaethau
  13. gweithio gyda phartneriaid gwasanaethau i ddelio â gwrthdaro mewn modd adeiladol
  14. cefnogi datblygiad cydweithwyr drwy gytuno ar y wybodaeth a'r sgiliau penodol sydd eu hangen arnynt yn eu rolau ar gyfer darparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  15. nodi cyfleoedd a gweithgareddau i gydweithwyr ddatblygu eu sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
  16. cynllunio gweithgareddau a sesiynau hyfforddi i gydweithwyr i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
  17. cefnogi cydweithwyr i ymarfer sgiliau, cymhwyso gwybodaeth ac ennill profiad i ddatblygu eu cymhwysedd ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid
  18. gwirio cynnydd cydweithwyr ac addasu eich dulliau hyfforddi pan fo angen
  19. cynllunio a chynnal sesiynau cyfeillio i gefnogi eich cydweithwyr yn y swydd, gan sicrhau nad ydych yn amharu ar ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  20. rhoi esiampl o dasgau gwasanaeth i gwsmeriaid i'ch cydweithiwr cyfeillio eu dilyn
  21. arsylwi eich cydweithiwr yn cyflawni'r tasgau i nodi beth maent yn ei wneud yn dda a'r meysydd i'w gwella
  22. rhoi adborth i'ch cydweithiwr am y gwaith y maent wedi'i wneud yn dda a sut y gallant wella eu perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
  23. trafod camau gweithredu a chytuno arnynt gyda'ch cydweithiwr cyfeillio i ddatblygu eu perfformiad
  24. rhoi awgrymiadau ar gamau gweithredu effeithiol i'ch cydweithiwr cyfeillio o ran gwasanaeth i gwsmeriaid effeithiol yn seiliedig ar eich profiad eich hun
  25. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y timau a'r partneriaid gwasanaethau y mae eich sefydliad yn gweithio gyda nhw a'r cytundebau lefel gwasanaeth (SLAs) sydd ar waith
  2. eich rôl mewn perthynas â gweithio gyda chydweithwyr mewnol a phartneriaid gwasanaethau allanol
  3. sut i ddadansoddi cyfraniad a rolau cydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid
  4. y mathau o gymorth y gallwch eu darparu i gydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau
  5. y cymorth y gall cydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau ei roi i chi i ddarparu gwasanaeth di-dor i gwsmeriaid
  6. manteision a heriau cydweithio, a'r hyn a allai fynd o'i le
  7. sut i baratoi ar gyfer heriau mewn perthynas waith a'u datrys er boddhad y naill ochr
  8. gwerth a phwysigrwydd cyfathrebu'n effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau
  9. y mathau o ymddygiadau sy'n meithrin ac yn cynnal perthnasoedd gonest ac sy'n dangos parch gyda chydweithwyr a phartneriaid gwasanaethau
  10. y mathau o wrthdaro sy'n codi gyda chwsmeriaid a sut i ddelio â'r rhain mewn modd adeiladol gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliadau
  11. y tasgau sy'n gysylltiedig â gwahanol swyddi cydweithwyr
  12. meysydd y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n elwa fwyaf o gymorth cyfeillio
  13. sut i ddewis yr amseroedd gorau i weithio ochr yn ochr â'ch cydweithwyr cyfeillio
  14. y ffyrdd o weithio ochr yn ochr â'ch cydweithwyr cyfeillio heb darfu ar y berthynas â chwsmeriaid
  15. y technegau ar gyfer rhoi adborth a beirniadaeth adeiladol i'ch cydweithwyr cyfeillio
  16. pwysigrwydd sefydlu perthynas gyda'ch cydweithwyr cyfeillio
  17. yr ystod o gamau y gall eich cydweithwyr eu cymryd i wella eu perfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid
  18. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSB16

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

gwaith tîm; cyflwyno; cynnal teyrngarwch; gweithio gydag eraill; tîm; perthnasoedd gwaith; cydweithredu; cydweithio; cefnogi