Hyrwyddo gwasanaeth i gwsmeriaid

URN: INSCS010
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig ag Argraff a Delwedd. Mae'n ymwneud â hyrwyddo gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys maes sy'n cwmpasu'r ymddygiadau a'r prosesau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar y ffordd y mae eich cwsmer yn eich ystyried chi a'ch sefydliad. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Mae gan staff sydd â lefelau uchel o gyfrifoldeb am wasanaeth i gwsmeriaid rôl bwysig fel hyrwyddwyr gwasanaeth rhagorol yn eu sefydliadau. Rydych yn hyrwyddo gwasanaeth i gwsmeriaid i bartneriaid sy'n cefnogi eich sefydliad i ddarparu gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid. Mae gennych hefyd arbenigedd helaeth sy'n gallu bod o fudd i gydweithwyr a phartneriaid.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n hyrwyddo gwasanaeth i gwsmeriaid drwy fod wastad yn effro i faterion sy'n effeithio ar wasanaeth i gwsmeriaid, dadansoddi'r materion hyn a'u goblygiadau, herio ar ran y cwsmer a rhannu eich arbenigedd ag eraill.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi rôl gwasanaeth i gwsmeriaid yng nghynlluniau strategol a busnes eich sefydliad
  2. monitro datblygiadau yn eich sefydliad i nodi'r rhai sy'n bwysig i gyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
  3. cefnogi'r gwaith o ddadansoddi datblygiadau sy'n ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
  4. herio datblygiadau ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid o safbwynt y cwsmer
  5. dylanwadu ar gydweithwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod datblygiadau'n gwella gwasanaeth i gwsmeriaid
  6. dangos esiampl o ran sut i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid gan dilyn canllawiau eich sefydliad
  7. ymateb i geisiadau am gyngor neu wybodaeth am wasanaeth i gwsmeriaid gan gydweithwyr a phartneriaid
  8. gwneud gwaith ymchwil i wella neu wirio dulliau cyfathrebu â chwsmeriaid
  9. cyfleu cyngor a gwybodaeth am wasanaeth i gwsmeriaid o fewn canllawiau eich sefydliad
  10. cefnogi cydweithwyr a phartneriaid i ystyried goblygiadau eich cyngor neu wybodaeth i'w gwaith eu hunain
  11. nodi camau gweithredu ar gyfer y cydweithwyr a'r partneriaid a gafodd y cyngor neu'r wybodaeth gennych i'w hystyried
  12. monitro'r camau gweithredu a gymerwyd sy'n gysylltiedig â chyngor neu wybodaeth
  13. gwerthuso canlyniadau eich cyngor neu wybodaeth
  14. adolygu'r ffordd rydych yn casglu gwybodaeth, yn llunio cyngor a'i gyfleu i gydweithwyr a phartneriaid
  15. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cynlluniau strategol a busnes eich sefydliad sy'n ymwneud â chyflwyno gwasanaeth i gwsmeriaid
  2. eich rôl a'ch cyfrifoldebau mewn cysylltiad â hyrwyddo sut y cyflwynir gwasanaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys terfynau eich awdurdod
  3. y prosesau gwneud penderfyniadau yn eich sefydliad a phwy sy'n gysylltiedig
  4. sut i fonitro datblygiadau ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid yn eich sefydliad
  5. sut i feithrin perthnasoedd a defnyddio eich dylanwad a'ch awdurdod i effeithio ar y broses o wneud penderfyniadau
  6. y mathau o ddatblygiadau sefydliadol sy'n debygol o effeithio ar wasanaeth i gwsmeriaid a sut i ddadansoddi'r goblygiadau ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid
  7. pwysigrwydd dangos empathi gyda chwsmeriaid a sut i gynrychioli eu safbwynt mewn ffordd adeiladol
  8. sut i nodi pryd mae angen cyngor a gwybodaeth ar gydweithwyr a phartneriaid ar faterion sy'n ymwneud â gwasanaeth i gwsmeriaid
  9. sut i ddefnyddio gwahanol fathau o ymchwil i gefnogi eich cyngor a'ch gwybodaeth am wasanaeth i gwsmeriaid
  10. sut i roi cyngor a gwybodaeth i gydweithwyr a phartneriaid
  11. y ffyrdd y gallwch fonitro'r camau gweithredu a gymerwyd o ganlyniad i'ch cyngor a'ch gwybodaeth
  12. sut i werthuso canlyniadau eich cyngor a'ch gwybodaeth i nodi gwelliannau
  13. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFACSA17

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

Cyfrifoldeb; gwasanaeth rhagorol; partneriaid gwasanaeth; gwybodaeth; hyrwyddwr; dadansoddi; arbenigedd; gwasanaeth i gwsmeriaid; cyfathrebu; datrys problemau; gweithio gydag eraill; gweithio mewn tîm