Prosesu gwybodaeth am gwsmeriaid

URN: INSCS003
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 22 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o faes cymhwysedd gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig â Hanfodion Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'n ymwneud â phrosesu gwybodaeth am gwsmeriaid. Mae'n cynnwys iaith a chysyniadau gwasanaeth i gwsmeriaid yn ogystal â'r cyd-destun sefydliadol a'r amgylchedd allanol rydych chi'n gweithio ynddo.  Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys pawb rydych chi'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau ar eu cyfer. Gallent fod y tu allan i'ch sefydliad neu'n gwsmeriaid mewnol.

Rydych chi a'ch sefydliad yn prosesu gwybodaeth am eich cwsmeriaid a'u hymddygiad i ateb cwestiynau cwsmeriaid ac i ymateb i geisiadau gan gwsmeriaid. Mae eich sefydliad hefyd yn defnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid i ddatblygu ei wasanaeth i gwsmeriaid.  Cesglir rhywfaint o wybodaeth am gwsmeriaid gan eich cwsmeriaid ac mae gwybodaeth arall yn cael ei chasglu drwy systemau gwybodaeth ac offer sy'n cadw cofnodion o'r gwasanaeth a gyflwynir.  Yn y naill achos neu'r llall byddwch yn casglu gwybodaeth, ei hadalw a'i chyflenwi yn ôl yr angen i roi sail gadarn ar gyfer yr holl drafodion sy'n gysylltiedig â gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae ansawdd y wybodaeth am gwsmeriaid yn dibynnu'n helaeth ar eich sgiliau a'ch sylw i fanylion wrth ei phrosesu.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n prosesu gwybodaeth am gwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu a chofnodi gwybodaeth newydd am gwsmeriaid yn unol â chanllawiau eich sefydliad
  2. cofnodi gwybodaeth newydd am gwsmeriaid yn systemau eich sefydliad
  3. diweddaru gwybodaeth sy'n bodoli eisoes am gwsmeriaid
  4. cofnodi gwybodaeth am gwsmeriaid gan ddilyn canllawiau sefydliadol o ran cywirdeb, digonolrwydd a pherthnasedd
  5. ymateb i geisiadau awdurdodedig gan gydweithwyr am wybodaeth ynghylch cwsmeriaid
  6. dewis gwybodaeth berthnasol i gwsmeriaid gan ddilyn canllawiau eich sefydliad
  7. dewis gwybodaeth ar gyfer cydweithwyr sy'n cyd-fynd â'u ceisiadau
  8. rhoi gwybodaeth gywir a digonol am gwsmeriaid i fodloni disgwyliadau eich cwsmeriaid neu gydweithwyr
  9. gofyn am gymorth gan gydweithwyr pan nad ydych yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  10. dewis sut i roi gwybodaeth i'ch cwsmeriaid neu gydweithwyr gan ddefnyddio'r systemau sydd ar gael
  11. cadarnhau bod eich cwsmeriaid a'ch cydweithwyr wedi derbyn y wybodaeth y gofynnwyd amdani a'i deall
  12. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gweithdrefnau a chanllawiau eich sefydliad ar gyfer casglu, adalw a chyflenwi gwybodaeth am gwsmeriaid
  2. y mathau o wybodaeth bersonol am gwsmeriaid y dylid neu na ddylid eu cadw ar gofnod
  3. sut i gasglu gwybodaeth am gwsmeriaid a'i dilysu yn unol â deddfwriaeth diogelu data
  4. sut i weithredu system eich sefydliad ar gyfer storio gwybodaeth am gwsmeriaid
  5. y cydweithwyr sy'n ymwneud â phrosesu data yn eich sefydliad a'u rolau a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â chi
  6. y ffyrdd y mae prosesu gwybodaeth am gwsmeriaid yn gywir yn cyfrannu'n at roi gwasanaeth i gwsmeriaid
  7. pwysigrwydd rhoi sylw i fanylion wrth brosesu gwybodaeth am gwsmeriaid a sut i wirio ansawdd
  8. sut i gadw data am gwsmeriaid a'i ddefnyddio
  9. y gweithdrefnau i'w dilyn os byddwch yn gwneud camgymeriadau mewn data a beth i'w wneud os byddwch chi, neu gydweithiwr, yn torri rheoliadau diogelu data
  10. sut y dylid rheoli a dileu gwybodaeth o gofnodion eich sefydliad, pan fo angen
  11. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol


Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cod SOC

7212

Geiriau Allweddol

gwasanaeth i gwsmeriaid; cyfathrebu; gweithio gydag eraill; gweithio mewn tîm; hel gwybodaeth; ateb cwestiynau; ymateb i geisiadau; casglu gwybodaeth; adalw gwybodaeth; cyflenwi gwybodaeth