Rheoli digwyddiadau ac argyfyngau mewn canolfan gyswllt

URN: INSCC011
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli digwyddiadau ac argyfyngau mewn canolfan gyswllt. Mae'n ymwneud ag ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau wrth gymryd cyfrifoldeb am ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael a defnyddio systemau cyfathrebu priodol.  Mae'n cynnwys dilyn y prosesau a'r gweithdrefnau yn y ganolfan gyswllt i ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl a chysylltiadau brys, a delio â nhw. Mae'n cynnwys cysylltiadau lle mae'r person yn disgwyl neu'n mynnu bod y ganolfan gyswllt yn ymatebol ar unwaith. Byddwch hefyd yn rhoi arweiniad i gydweithwyr ar sut i ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau a'u rheoli. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol canolfannau cyswllt sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb goruchwylio er mwyn rheoli digwyddiadau ac argyfyngau mewn canolfan gyswllt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

sefydliadol

1.       asesu digwyddiadau ac argyfyngau sydd ar y gweill i nodi gweithdrefnau sefydliadol sy'n mynd i'r afael â'r ag anghenion y cysylltiad

2.       ymateb i gysylltiadau sy'n cyrraedd mewn modd proffesiynol, yn unol â chanllawiau sefydliadol

3.       asesu a blaenoriaethu digwyddiadau ac argyfyngau yr adroddir amdanynt

4.       cofnodi'r cysylltiad mewn log trwy gydol cyfnod rheoli'r digwyddiad neu'r argyfwng

5.       casglu a chofnodi gwybodaeth gan y cysylltiad gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

6.       trosglwyddo gwybodaeth am y cysylltiad i'r aelodau staff sy'n gyfrifol am gamau mewn ymateb i ddigwyddiadau

7.       ymateb i geisiadau am wybodaeth neu gamau pellach i reoli digwyddiadau

8.       dilyn gweithdrefnau sefydliadol wrth roi cyngor i gysylltiadau sy'n cyrraedd

9.       sicrhau bod y ddeddfwriaeth a'r polisïau sefydliadol yn cael eu dilyn i reoli'r digwyddiad yr adroddir amdano yn y ganolfan gyswllt

10.   ymateb i amgylchiadau sy'n newid mewn digwyddiad ac argyfwng trwy ddwysau'r ymateb mewn gweithdrefnau sefydliadol

Defnyddio systemau cyfathrebu i ddefnyddio adnoddau wrth reoli digwyddiadau ac argyfyngau

11.   dewis adnoddau sydd ar gael ar unwaith i ddelio â digwyddiad yr adroddir amdano gan gysylltiad

12.   dewis dull cyfathrebu a delio â'r digwyddiad a'r argyfwng

13.   nodi'r ymateb sydd ei angen wrth gyfathrebu a delio â digwyddiad ac argyfwng

14.   dilyn gweithdrefnau sefydliadol wrth gyfathrebu â sefydliadau ac asiantaethau allanol ynghylch digwyddiad ac argyfwng

15.   dilyn confensiynau arddull a dull gweithredu y cytunwyd arnynt ac a dderbynnir wrth ddefnyddio gwahanol gyfryngau cyfathrebu wrth reoli digwyddiadau

16.   defnyddio geiriad a chodau unffurf wrth gyfathrebu â'r rhai sy'n rheoli digwyddiadau

17.   monitro sut y rheolir y digwyddiad gyda'r adnoddau a ddefnyddir a rhoi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen

18.   delio ag ymholiadau neu gwynion ynghylch ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau

Rhoi arweiniad i gydweithwyr ar reoli digwyddiadau

19.   nodi meysydd lle mae angen cefnogaeth ac arweiniad ar gydweithwyr wrth reoli digwyddiadau

20.   cytuno â chydweithwyr a chynnal gweithgareddau cyfeillio a hyfforddi fydd yn rhoi cefnogaeth iddynt

21.   adolygu'r gefnogaeth a ddarperir i gydweithwyr sy'n ymateb i gysylltiadau ynghylch rheoli digwyddiadau

22.   defnyddio'r adolygiad o sut i reoli digwyddiadau i gymryd camau i wella perfformiad y tîm

23.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a defnyddio technolegau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwasanaethau rheoli digwyddiadau ac argyfyngau a gynigir gan y ganolfan gyswllt
  2. y strwythur gorchmynion a ddefnyddir gan wasanaethau brys a chwmnïau cyfleustodau
  3. y gofynion sefydliadol a rheoliadau neu ddeddfwriaeth allanol sy'n effeithio ar reoli digwyddiadau ac argyfyngau
  4. dulliau asesu a blaenoriaethu'r cysylltiadau sy'n cyrraedd er mwyn rheoli digwyddiadau ac argyfyngau
  5. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi gwybodaeth mewn log digwyddiadau
  6. sut i bennu natur yr ymateb i gysylltiad a faint o adnoddau sy'n briodol i'w dyrannu i'r ymateb hwnnw
  7. y wybodaeth berthnasol ar gyfer rheoli digwyddiadau ac argyfyngau
  8. yr ystod o sefydliadau ac asiantaethau allanol a allai fod yn gysylltiedig
  9. y gweithdrefnau sefydliadol a'r gofynion deddfwriaethol wrth roi cyngor i gysylltiadau wrth reoli digwyddiadau ac argyfyngau
  10. ffiniau digwyddiad gyda chysylltiad sy'n cyfiawnhau camau i gael ymateb ar lefel uwch
  11. sut i asesu pa mor ddifrifol neu faint o flaenoriaeth yw digwyddiad ac argyfwng
  12. sut i nodi'r adnoddau sydd eu hangen i ddelio â digwyddiadau yr adroddir amdanynt
  13. pwysigrwydd cyfathrebu'n glir trwy'r sianel fwyaf priodol gydag aelodau staff sy'n ymateb i'r digwyddiad a'r argyfwng
  14. y geiriad unffurf a'r codau a ddefnyddir gan y sefydliad wrth reoli digwyddiadau ac argyfyngau
  15. sut i gadw sgwrs o dan reolaeth
  16. natur a ffiniau cyfarwyddiadau a chyngor y gellir eu trosglwyddo i gyswllt sy'n adrodd ar ddigwyddiad
  17. sut i fonitro camau aelodau staff sy'n delio â digwyddiad ac argyfwng
  18. y gweithdrefnau ar gyfer delio ag ymholiadau a chwynion o fewn ffiniau eich cyfrifoldebau
  19. sut i nodi anghenion a rhoi cefnogaeth i gydweithwyr i ddatblygu eu gallu i ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau
  20. pwysigrwydd adolygu canlyniadau rheoli digwyddiadau i wella perfformiad
  21. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a defnyddio technolegau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA CC38, CfA CC39

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, rheoli digwyddiadau, gweithdrefnau sefydliadol, systemau cyfathrebu, defnyddio adnoddau, gwasanaethau brys