Rheoli perfformiad timau ac unigolion mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt

URN: INSCC008
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli perfformiad timau ac unigolion mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt.  Mae'n cynnwys nodi ffyrdd o gael adborth a'i ddarparu, a chefnogi timau ac aelodau staff i gasglu adborth ar berfformiad o amrywiaeth o ffynonellau.  Bydd gofyn i chi ddadansoddi adborth i nodi themâu cyffredin. Mae hefyd yn cynnwys trefnu cymorth cyfeillio neu hyfforddi i helpu i wella'n barhaus. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn canolfannau cyswllt ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n gyfrifol am reoli perfformiad timau ac unigolion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Trefnu adborth ar sail perfformiad mewn canolfan gyswllt

1.       nodi ystod o lwybrau ar gyfer cael adborth ar berfformiad a'i ddarparu mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt

2.       gweithio gyda chydweithwyr o fewn polisi sefydliadol i ddyrannu cyfrifoldeb am reoli perfformiad canolfannau cyswllt

3.       cefnogi cynlluniau timau ac unigolion i gael adborth ar berfformiad o ffynonellau amrywiol

4.       gweithio gyda chydweithwyr i nodi ffyrdd o ddefnyddio adborth i wella perfformiad

Trefnu gweithgareddau gwella perfformiad timau ac unigolion sy'n deillio o adborth ar weithrediadau canolfannau cyswllt

5.       dadansoddi adborth ar berfformiad i nodi themâu cyffredin ble mae cyfleoedd i wella

6.       gweithio gyda thimau i gytuno ar gamau ar gyfer gwella perfformiad

7.       cytuno ag arweinwyr timau, strategaethau ar gyfer adeiladu timau a gwella perfformiad timau

8.       monitro camau gwella perfformiad gan dimau ac unigolion i fesur deilliannau

9.       cydlynu strategaethau i ymdopi â gweithio dan bwysau yng ngweithrediadau canolfannau cyswllt

Rheoli newid sefydliadol a chadw gweithwyr mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt

10.   gweithio gydag arweinwyr tîm i nodi newidiadau allweddol lle mae angen rheoli mewn modd gweithredol

11.   datblygu ac addasu gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer gweithrediadau canolfannau cyswllt

12.   trefnu cymorth cyfeillio a hyfforddiant sy'n cyfrannu at reoli newid yng ngweithrediadau canolfannau cyswllt

13.   nodi ffactorau sy'n dylanwadu ar gadw staff

14.   chwilio am gyfleoedd i gael adborth ffurfiol ac anffurfiol ar fodlonrwydd ynghylch gwaith a rhesymau dros ymddiswyddo

15.   cynghori'r sefydliad ar gamau y gellir eu cymryd i gadw staff yn well yng ngweithrediadau canolfannau cyswllt

16.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion sy'n cael eu cynnig neu a gefnogir gan eich canolfan gyswllt
  2. y gofynion sefydliadol a rheoleiddio a deddfwriaeth allanol sy'n berthnasol i weithrediadau canolfannau cyswllt
  3. y gweithdrefnau sefydliadol a'r canllawiau ar gyfer gweithrediadau canolfannau cyswllt sy'n effeithio ar berfformiad
  4. pwysigrwydd sicrhau bod gweithgareddau rheoli perfformiad yn dod yn rhan o brosesau gweithio a rheoli o ddydd i ddydd mewn timau canolfannau cyswllt
  5. y gwahanol ffynonellau a ffyrdd o gael adborth ar berfformiad mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt
  6. y rolau a'r cyfrifoldebau mewn cysylltiad â chamau rheoli perfformiad mewn canolfannau cyswllt
  7. y gweithgareddau sy'n gallu cyfrannu at gael adborth ar berfformiad mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt
  8. pwysigrwydd gweithio gyda chydweithwyr i nodi ffyrdd o ddefnyddio adborth ar berfformiad
  9. y technegau ar gyfer dadansoddi perfformiad mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt
  10. pwysigrwydd gweithio gyda thimau i gytuno ar gamau i wella perfformiad mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt
  11. y strategaethau ar gyfer adeiladu tîm a datblygu perfformiad
  12. sut i fesur camau a deilliannau gwella perfformiad a'u monitro
  13. y strategaethau i ddelio â gweithio dan bwysau mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt
  14. nodweddion newidiadau sy'n galw am reolaeth weithredol mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt
  15. y technegau ar gyfer addasu neu ddatblygu gweithdrefnau ar gyfer gweithrediadau canolfannau cyswllt
  16. y technegau cyfeillio a hyfforddi i gefnogi'r gwaith o reoli newid
  17. y ffactorau sy'n effeithio ar gadw staff mewn gweithrediadau canolfannau cyswllt
  18. sut i sefydlu rhesymau cyffredin dros drosiant staff y gellir eu lliniaru trwy gamau rheoli
  19. sut i gyflwyno argymhellion i reolwyr ynghylch y camau i'w cymryd i gadw staff
  20. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrafod gwybodaeth bersonol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA CC28

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, rheoli perfformiad, adborth, gwella perfformiad, unigolion, timau, newid sefydliadol, cadw gweithwyr, rheoli