Rheoli cyfathrebiadau â chwsmeriaid ynghylch materion cymhleth

URN: INSCC007
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli cyfathrebiadau â chwsmeriaid ynghylch materion cymhleth mewn canolfan gyswllt. Mae'n cynnwys rhoi cymorth ac arweiniad i wneud yn siŵr bod cydweithwyr yn cadw at yr holl weithdrefnau a chanllawiau sefydliadol wrth ymateb i bob lefel o gyfathrebiadau, o'r rhai syml i'r rhai cymhleth. Mae'n cynnwys cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig â chwsmeriaid ynghylch materion cymhleth. Weithiau, efallai y bydd angen cymorth arbenigol i ddatrys materion cymhleth a godir gan gwsmeriaid. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr i baratoi gweithdrefnau a chanllawiau gwasanaeth i gwsmeriaid ar gyfer cyfathrebu â'r cwsmer a monitro sut maent yn rhoi'r rhain ar waith i alinio ag amcanion polisi cyfathrebu sefydliadol. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn canolfannau cyswllt sy'n gyfrifol am reoli cyfathrebiadau â chwsmeriaid ynghylch materion cymhleth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar ynghylch materion cymhleth

1.       mynd i'r afael â sgyrsiau cwsmeriaid a gyfeiriwyd gan gydweithwyr sydd ag awdurdod cyfyngedig

2.       dechrau sgyrsiau gyda chwsmeriaid am faterion cymhleth yn ymwneud â gwasanaethau a chynhyrchion y mae'r ganolfan gyswllt yn ymateb iddynt

3.       mynd i'r afael ar lafar ag ymholiadau cymhleth a gychwynnwyd gan gwsmeriaid am y gwasanaethau a'r cynhyrchion

4.       addasu eich defnydd o iaith a geirfa i ddiwallu anghenion a dealltwriaeth cwsmeriaid

5.       cyfleu neges i gwsmer sy'n nodi o leiaf ddau safbwynt amgen yn glir

Cyfathrebu â chwsmeriaid yn ysgrifenedig ynghylch materion cymhleth

6.       delio â materion cymhleth gan gwsmeriaid yn ysgrifenedig a gyfeiriwyd atoch gan gydweithwyr sydd ag awdurdod cyfyngedig

7.       dechrau sgwrs ysgrifenedig gyda chwsmer am wybodaeth neu faterion cymhleth

8.       ymateb yn ysgrifenedig i ymholiadau cymhleth a ddechreuwyd gan gwsmeriaid ynghylch gwasanaethau a chynhyrchion a gynigir neu a gefnogir gan y ganolfan gyswllt

9.       addasu eich arddull ysgrifennu a'ch iaith i ddiwallu anghenion cwsmeriaid wrth gadw o fewn canllawiau sefydliadol

10.   esbonio i gwsmer yn ysgrifenedig rinweddau cymharol o leiaf ddau safbwynt amgen

Gosod esiampl a chefnogi cydweithwyr sy'n cyfathrebu â chwsmeriaid trwy ganolfan gyswllt

11.   monitro cyfathrebu rhwng cydweithwyr a chwsmeriaid er mwyn cydymffurfio â chanllawiau sefydliadol ac effeithiolrwydd cyffredinol

12.   rhoi adborth ac arweiniad i gydweithwyr ynghylch cysylltiadau llafar ac ysgrifenedig gyda chwsmeriaid

Cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithdrefnau a chanllawiau cyfathrebu â chwsmeriaid mewn canolfan gyswllt

13.   nodi amcanion busnes sefydliadol ac amcanion gwasanaeth i gwsmeriaid

14.   nodi a gwerthuso manteision a chostau dewis gwahanol gyfryngau ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid

15.   ymgynghori â chydweithwyr cyswllt cwsmeriaid rheng flaen ynghylch anghenion cyfathrebu â chwsmeriaid

16.   ymgynghori â gwasanaeth cymorth arbenigol er mwyn datrys materion cymhleth

17.   datblygu'r polisïau cyfathrebu â chwsmeriaid i'w defnyddio yn y ganolfan gyswllt gyda gwahanol fathau o gwsmeriaid a chytuno arnynt gyda rheolwyr

18.   cysylltu polisi cyfathrebu â chwsmeriaid ag amcanion gwasanaeth i gwsmeriaid i helpu i ddatblygu gweithdrefnau a chanllawiau

19.   archwilio gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer cydymffurfio â pholisïau cyfathrebu â chwsmeriaid a sicrhau eu bod yn addas at y diben

Cyfrannu at ddatblygu sgiliau tîm i wella gwasanaeth i gwsmeriaid trwy gyfathrebu â chwsmeriaid yn effeithiol mewn canolfan gyswllt

20.   adolygu sgiliau cyfathrebu timau ac unigolion yng nghyd-destun y ganolfan gyswllt

21.   gwerthuso cyfraniad gweithgareddau datblygu sgiliau at gyflawni amcanion polisïau cyfathrebu

22.   datblygu cynlluniau datblygu timau ac unigolion, cytuno arnynt a'u rhoi ar waith er mwyn gwella lefelau sgiliau cyfathrebu

23.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o wasanaethau neu gynhyrchion sy'n cael eu cynnig neu eu cefnogi gan eich canolfan gyswllt
  2. y gofynion sefydliadol a'r rheoliadau allanol sy'n effeithio ar gyfathrebu â chwsmeriaid trwy'r ganolfan gyswllt
  3. y gweithdrefnau sefydliadol a'r canllawiau ar gyfathrebu'n ysgrifenedig â chwsmeriaid
  4. manteision ac anfanteision dewis dulliau cyfathrebu llafar neu ysgrifenedig â chwsmeriaid
  5. ffiniau awdurdod cydweithwyr sy'n delio â sgyrsiau cymhleth â chwsmeriaid
  6. y technegau ar gyfer addasu iaith a geirfa i anghenion cwsmeriaid wrth ddelio ag ymholiadau cymhleth
  7. sut i gyflwyno gwybodaeth i gwsmeriaid sy'n cynnig dau ddewis arall clir 
  8. y dulliau ffurfiol ac anffurfiol o fonitro cyfathrebu rhwng cydweithwyr a chwsmeriaid
  9. y technegau ar gyfer rhoi adborth ac arweiniad i gydweithwyr ynghylch cyfathrebu ar lafar
  10. y technegau ar gyfer rhoi adborth ac arweiniad i gydweithwyr ynghylch cyfathrebu'n ysgrifenedig
  11. y prif gydrannau mewn polisi cyfathrebu â chwsmeriaid
  12. amcanion sefydliadol gwasanaeth i gwsmeriaid
  13. manteision a chostau gwahanol gyfryngau ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid mewn canolfan gyswllt
  14. pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr rheng flaen ynghylch anghenion ymarferol delio â chyfathrebu â chwsmeriaid
  15. y gefnogaeth arbenigol ar gyfer datrys materion cymhleth
  16. y technegau ar gyfer dyfeisio gweithdrefnau a chanllawiau i'w defnyddio gan staff rheng flaen wrth gyfathrebu â chwsmeriaid
  17. pwysigrwydd cysylltu polisïau a chanllawiau cyfathrebu ag amcanion gwasanaeth i gwsmeriaid
  18. y dulliau archwilio polisïau a chanllawiau cyfathrebu â chwsmeriaid er mwyn cydymffurfio a sicrhau eu bod yn addas at y diben
  19. pwysigrwydd cynllunio camau datblygu sgiliau ar lefelau timau ac unigolion o ran datblygu sgiliau cyfathrebu timau ac unigolion
  20. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrafod gwybodaeth bersonol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA CC25, CfA CC26

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, gwasanaeth i gwsmeriaid, cysylltiad gan gwsmeriaid, cyfathrebu llafar, cyfathrebu ysgrifenedig, gwybodaeth gymhleth, cefnogi cydweithwyr