Rheoli gweithrediadau gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt

URN: INSCC006
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli gweithgareddau gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt. Byddwch yn casglu gwybodaeth am werthu ac yn defnyddio technegau ac arddulliau perthnasol i fodloni amcanion gwerthu. Mae hefyd yn cynnwys cynllunio gweithgareddau gwerthu, dadansoddi gweithgareddau gwerthu ac adrodd ar ganlyniadau.  Byddwch hefyd yn cyfrannu at gynllunio gweithgareddau gwerthu a datblygu strategaethau gwerthu sefydliadol. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol canolfannau cyswllt ar lefelau goruchwylio neu reoli sydd â chyfrifoldeb am reoli gweithrediadau gwerthu uniongyrchol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Diffinio gwybodaeth a thechnegau i'w defnyddio ar gyfer gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt

1.       nodi'r strategaeth werthu er mwyn gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt

2.       diffinio'r wybodaeth am werthu sydd ei hangen i gyflawni amcanion gwerthu

3.       gwneud yn siŵr bod modd casglu'r wybodaeth sy'n ofynnol am werthu heb amharu ar weithgareddau gwerthu

4.       diffinio'r arddull gwerthu a'r technegau i'w defnyddio i gyflawni amcanion gwerthu uniongyrchol

5.       trefnu i ddatblygu gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer aelodau'r tîm sy'n gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt

6.       profi gweithdrefnau a chanllawiau sy'n cynnwys cydweithwyr sy'n cynnal gweithgareddau gwerthu i wneud yn siŵr eu bod yn ymarferol mewn canolfan gyswllt

7.       monitro sut mae gweithgareddau gwerthu uniongyrchol yn cael eu goruchwylio a'u monitro wrth roi gweithdrefnau newydd ar waith ac wedi hynny

Adolygu gweithgareddau cynllunio gwerthu, eu dadansoddi a'r technegau adrodd arnynt er mwyn gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt

8.       coladu gwybodaeth am gwsmeriaid, marchnata a gwerthu sy'n ofynnol ar gyfer cynllunio gwerthu

9.       adolygu cynlluniau gwerthu cyfredol a dulliau ar gyfer eu dyfeisio

10.   gweithredu ffyrdd o wella cynlluniau gwerthu sy'n berthnasol er mwyn gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt

11.   nodi'r dadansoddiad o weithgareddau gwerthu sydd ei angen i gyflawni amcanion a chynlluniau gwerthu

12.   cyfrannu at ddylunio offer dadansoddi gweithgareddau gwerthu i fonitro a gwella perfformiad wrth werthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt

13.   diffinio gofynion adrodd ar weithgareddau gwerthu i fonitro a gwella perfformiad gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt

Cyfrannu at ddatblygu strategaeth werthu sefydliadol

14.   dehongli gwybodaeth a dadansoddiadau am werthu sy'n gysylltiedig â gwerthu'n uniongyrchol mewn canolfan gyswllt ac sy'n berthnasol i strategaeth werthu sefydliadol

15.   nodi nodweddion allweddol strategaeth werthu sefydliadol sy'n effeithio ar weithrediadau gwerthu uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt

16.   argymell datblygiadau yn y strategaeth werthu a fyddai'n gwella perfformiad gwerthu yn gyffredinol

17.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a gweithgareddau gwerthu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. agweddau strategol yr ystod o wasanaethau a chynhyrchion a gynigir wrth werthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
  2. y dulliau a'r systemau sefydliadol cyfredol ar gyfer gwerthu'n uniongyrchol
  3. y rheoliadau a'r ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar weithrediadau gwerthu uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
  4. y strategaethau gwerthu posibl ar gyfer gweithrediadau gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt
  5. y wybodaeth sy'n ofynnol am werthu a'r technegau ar gyfer ei chasglu, trwy weithgareddau gwerthu uniongyrchol
  6. sut i ddiffinio arddulliau a thechnegau gwerthu er mwyn cyflawni amcanion gwerthu
  7. sut i ddyfeisio a chyflwyno canllawiau effeithiol ar gyfer staff sy'n gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfannau cyswllt
  8. y dulliau profi canllawiau a gweithdrefnau
  9. y technegau monitro ar gyfer goruchwylio a rheoli gweithgareddau gwerthu uniongyrchol wrth roi gweithdrefnau newydd ar waith
  10. y technegau cynllunio gweithgareddau gwerthu a sut i wneud gwelliannau, gan ddefnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid, marchnata a gwerthu
  11. y technegau dadansoddi gweithgareddau gwerthu a sut i nodi gofynion dadansoddi
  12. yr opsiynau ar gyfer offer monitro a dadansoddi gweithgareddau gwerthu
  13. y technegau a'r opsiynau ar gyfer adrodd ar weithgareddau gwerthu
  14. sut i ddehongli gwybodaeth am werthu a'i dadansoddi er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn cyd-fynd â strategaeth werthu sefydliadol
  15. sut i wneud cysylltiadau clir rhwng strategaeth werthu sefydliadol a gweithrediadau gwerthu uniongyrchol
  16. yr opsiynau ar gyfer argymell gwelliannau yn y strategaeth werthu sefydliadol
  17. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a gweithgareddau gwerthu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA CC22

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, gwerthu, gwerthu'n uniongyrchol, gweithgareddau gwerthu, gwybodaeth am werthu, technegau gwerthu, dadansoddi gwerthu, dadansoddi perfformiad, adrodd ar werthu, cynlluniau gwerthu, strategaeth, rheolaeth