Cynnal gweithgareddau gwerthu mewn canolfan gyswllt

URN: INSCC005
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal gweithgareddau gwerthu mewn canolfan gyswllt. Mae hyn yn cynnwys delio â chysylltiadau sy'n dod i mewn ac allan trwy amrywiaeth o sianeli cyfathrebu (galwadau ffôn, sgwrs fyw, sgwrsio ar y we, cyfryngau cymdeithasol), nodi cyfleoedd i werthu a rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid i gynyddu eu diddordeb yng ngwasanaethau a chynhyrchion y ganolfan gyswllt. Bydd gofyn i chi werthu gwasanaethau a chynhyrchion rydych chi'n gyfarwydd â nhw a defnyddio technegau gwerthu i fanteisio cymaint â phosibl ar y cyfleoedd sy'n codi. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol canolfannau cyswllt sy'n gyfrifol am werthu gwasanaethau a chynhyrchion yn uniongyrchol i'r cwsmer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal gweithgareddau gwerthu mewn canolfan gyswllt

1.       dod o hyd i wybodaeth am gwsmeriaid, gwasanaethau a chynhyrchion i baratoi ar gyfer gweithgaredd gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt

2.       sefydlu dymuniadau ac anghenion cwsmeriaid trwy gwestiynu a gwrando'n astud

3.       cynnig gwahanol wasanaethau a chynhyrchion sydd ar gael sy'n cyd-fynd â dymuniadau'r cwsmer

4.       ymateb i gwestiynau ac ymholiadau gan gwsmeriaid

5.       addasu eich arddull a'ch techneg gwerthu i gyd-fynd â dymuniadau ac ymddygiadau cwsmeriaid

6.       dod â'r broses werthu i ben trwy gytundeb â'ch cwsmer yn ystod cysylltiad gan gwsmer

7.       cadarnhau archeb eich cwsmeriaid a'u cofnodi

Casglu a defnyddio gwybodaeth benodol am werthu at ddibenion gweithgareddau gwerthu

8.       casglu a choladu gwybodaeth am y gwasanaethau a'r cynhyrchion sydd ar gael trwy werthu'n uniongyrchol

9.       casglu ac asesu gwybodaeth am gwsmeriaid a gedwir fydd yn cynorthwyo gweithgareddau gwerthu

10.   casglu gwybodaeth gan gwsmeriaid sy'n cynorthwyo cyfleoedd posibl i werthu ac yn helpu i nodi eu hanghenion

11.   rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am y gwasanaethau a/neu'r cynhyrchion sydd ar gael

12.   gwirio gwybodaeth am gwsmeriaid gyda'r cwsmeriaid i wneud yn siŵr bod yr holl fanylion yn gywir

13.   cadw cofnodion priodol o gwsmeriaid

14.   ymchwilio i ddarpar gwsmeriaid newydd

Cyfrannu at werthu'n uniongyrchol i gwsmeriaid mewn canolfan gyswllt

15.   cadarnhau pwy yw'r cwsmer gan ddefnyddio protocolau diogelwch sefydliadol, i gael mynediad at wybodaeth am gwsmeriaid i gynorthwyo'r broses werthu

16.   pennu anghenion cwsmeriaid ar gyfer cyfleoedd posibl i werthu gwasanaethau a chynhyrchion o fewn eich awdurdod

17.   cofnodi anghenion eich cwsmeriaid gan ddefnyddio systemau a gweithdrefnau eich sefydliad

18.   defnyddio gwybodaeth a fynegir gan gwsmeriaid i nodi gwasanaethau a'r cynhyrchion sydd ar gael a allai fod yn addas ar eu cyfer

19.   cyflwyno nodweddion a manteision gwasanaethau a chynhyrchion i gwsmeriaid

20.   ymateb i gwestiynau a gwrthwynebiadau gan gwsmeriaid

21.   addasu eich dull gwerthu a'ch arddull i ddewisiadau'r cwsmeriaid

22.   nodi cyfleoedd i draws-werthu ac uwch-werthu a mynd ati i wneud hynny

23.   cadarnhau gofynion ac anghenion cwsmeriaid er mwyn dod â'r broses werthu i ben

24.   gwneud yn siŵr bod yr archeb yr ydych wedi'i chofnodi gyda'ch cwsmer yn gywir

25.   cwblhau manylion awdurdodi neu dalu i gwblhau'r gwerthiant gyda'ch cwsmer

26.   trosglwyddo cysylltiad gan gwsmer i gydweithiwr ag awdurdod os yw cais gwerthu y tu hwnt i'ch awdurdod chi

Cadw cofnodion gwerthu sy'n ymwneud â gwerthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt

27.   dilyn gweithdrefnau sefydliadol i nodi a chofnodi data cwsmeriaid a gwasanaethau a chynhyrchion yn ystod y broses werthu

28.   adfer gwybodaeth yn ôl yr angen o gofnodion gwerthu

29.   defnyddio cofnodion gwerthu i ddiweddaru gwybodaeth am gwsmeriaid sy'n cefnogi'r broses werthu

Cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol wrth werthu'n uniongyrchol mewn canolfan gyswllt

30.   nodi gofynion rheoliadol sy'n effeithio ar weithgareddau gwerthu uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt

31.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a gweithgareddau gwerthu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o wasanaethau a chynhyrchion sydd ar werth
  2. nodweddion a manteision y gwasanaethau a'r cynhyrchion sydd ar gael sy'n effeithio ar y broses werthu
  3. y ffynonellau gwybodaeth am y gwasanaethau neu'r cynhyrchion y gallwch ddelio â nhw
  4. sut i gyflwyno gwybodaeth i gwsmeriaid am yr ystod o wasanaethau a chynhyrchion sydd ar werth
  5. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadarnhau pwy yw'r cwsmer mewn trafodiad canolfan gyswllt
  6. ffynonellau data am werthu sy'n deillio o werthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
  7. ffynonellau data marchnata a chwsmeriaid sy'n deillio o werthu'n uniongyrchol trwy ganolfan gyswllt
  8. y prosesau a'r technegau gwerthu a ddefnyddir yn eich sefydliad ar gyfer gwerthu'n uniongyrchol
  9. y technegau a'r gweithdrefnau ar gyfer cadarnhau anghenion cwsmeriaid a dod â'r broses werthu i ben
  10. pwysigrwydd gwirio gwybodaeth am gwsmeriaid gyda'r cwsmer
  11. y cofnodion y mae angen eu cadw ynghylch gwybodaeth am gwsmeriaid
  12. sut i gynnal ymchwil ar gyfer darpar gwsmeriaid newydd
  13. y technegau ar gyfer delio â gwrthwynebiadau a chwestiynau gan gwsmeriaid yn ystod gweithgareddau gwerthu
  14. pwysigrwydd addasu eich arddull a'ch dull er mwyn cyd-fynd ag arddull a phersbectif y cwsmer
  15. sut i osod targedau gwerthu gan gynnwys traws-werthu ac uwch-werthu
  16. sut i gynnal cofnodion gwerthu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  17. sut i adfer gwybodaeth o gofnodion gwerthu sefydliadol
  18. y technegau ar gyfer cysylltu gofynion cwsmeriaid â'r gwasanaethau neu'r cynhyrchion sydd ar gael
  19. y pryderon a'r cwestiynau cyffredin a godir gan gwsmeriaid wrth werthu'n uniongyrchol 
  20. sut i addasu eich dull gwerthu i weddu i ddewisiadau cwsmeriaid
  21. sut i nodi cyfleoedd i draws-werthu ac uwch-werthu
  22. y broses o gadarnhau gofynion cwsmeriaid i ddod â'r broses werthu i ben
  23. ffiniau eich awdurdod i gwblhau trafodion gwerthu
  24. y cydweithwyr a all gymryd drosodd trafodiad cwsmer pan fydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd neu'ch awdurdod
  25. sut i gynnal cofnodion gwerthu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  26. sut i adfer gwybodaeth o gofnodion gwerthu sefydliadol
  27. y wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau proses werthu
  28. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi manylion gwerthu
  29. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cymryd taliad neu bennu awdurdod ar gyfer archeb gyda'ch cwsmer
  30. y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gwerthu'n uniongyrchol wrth ddelio â chwsmeriaid trwy ganolfannau cyswllt
  31. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a gweithgareddau gwerthu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA C18

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, gwerthu, gwerthu'n uniongyrchol, gwybodaeth am gwsmeriaid, cynhyrchion a gwasanaethau