Paratoi a rheoli strategaethau ar gyfer defnyddio systemau a thechnolegau canolfannau cyswllt

URN: INSCC002
Sectorau Busnes (Suites): Canolfan Gyswllt
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 05 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a rheoli strategaethau ar gyfer defnyddio systemau a thechnolegau canolfannau cyswllt. Mae'n cynnwys diweddaru a diffinio paramedrau cyfluniad system fel bod perfformiad cyffredinol y systemau a'r technolegau mewn canolfan gyswllt o'r safon uchaf bosibl. Mae'n cynnwys adolygu a diffinio'r systemau hyn i wneud yn siŵr bod modd darparu gwasanaeth o ddydd i ddydd o fewn y lefelau perfformiad a'r targedau gofynnol. Mae hefyd yn cynnwys nodi gwelliannau ac addasiadau posibl i'r system sy'n ofynnol o fewn y maes yr ydych yn gyfrifol amdano. Byddwch yn cyfrannu at bolisïau sefydliadol a'r strategaeth fusnes gyffredinol ynghylch sut i ddefnyddio systemau a thechnolegau. Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol canolfannau cyswllt ar lefelau goruchwylio neu reoli sy'n datblygu ac yn rheoli strategaethau ar gyfer defnyddio systemau a thechnolegau mewn canolfan gyswllt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Diweddaru a diffinio paramedrau cyfluniad system fel bod perfformiad o'r safon uchaf

1.       adolygu a dadansoddi adroddiadau monitro a metrigau i nodi cyfleoedd i wella perfformiad system

2.       adolygu paramedrau cyfluniad cyfredol yn erbyn metrigau perfformiad

3.       nodi opsiynau ar gyfer newid cyfluniad system i wella perfformiad, os oes angen

4.       gweithio gyda chydweithwyr i nodi cyfleoedd ymarferol i wella system trwy newid paramedrau cyfluniad

5.       dewis newidiadau i baramedrau cyfluniad a'u rhoi ar waith i wella perfformiad

6.       gosod rheolau llwybro i bennu blaenoriaethau cyswllt sy'n cwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid pan mae adnoddau arferol ar gael

7.       dadansoddi effeithiau newidiadau i raglenni a systemau

8.       nodi llifoedd data rhwng y systemau

9.       nodi manteision ac anfanteision gwahanol baramedrau llwybro

10.   sefydlu rheolau ciwio rhagfynegol i reoli cysylltiadau

Adolygu, diffinio a chytuno ar strategaeth ar gyfer systemau canolfannau cyswllt

11.   nodi strategaeth sefydliadol ar gyfer systemau a thechnolegau canolfannau cyswllt

12.   adolygu systemau a thechnoleg canolfannau cyswllt yn erbyn gofynion busnes cyfredol a disgwyliedig

13.   diffinio strategaeth ar gyfer systemau a thechnolegau canolfannau cyswllt

14.   ymgynghori â chydweithwyr priodol i gytuno ar strategaeth ar gyfer systemau a thechnolegau canolfan gyswllt

Datblygu polisi ar gyfer parhad systemau a'u datblygu'n barhaus

15.   nodi a chytuno ar bolisi sefydliadol ar gyfer parhad gweithredol systemau

16.   adolygu systemau a thechnolegau i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella systemau a'u haddasu

17.   asesu risgiau sy'n gysylltiedig â thorri parhad gweithredol sy'n deillio o fethiant systemau neu dechnoleg

18.   defnyddio gwybodaeth adolygu i ddyfeisio cynlluniau parhad gweithredol manwl ar gyfer systemau

19.   nodi camau cadarnhaol i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â methiant mewn systemau neu dechnoleg

20.   ymgynghori â chydweithwyr perthnasol ynghylch polisïau ymarferol a chytuno arnynt i sicrhau parhad gweithredol systemau a thechnoleg

21.   cyfrannu at ddatblygu polisi sefydliadol ar gyfer parhad gweithredol systemau

Cyfrannu at y strategaeth fusnes gyffredinol ynghylch defnyddio systemau a thechnoleg

22.   nodi agweddau allweddol ar y strategaeth fusnes gyffredinol y mae systemau a thechnolegau yn dylanwadu arnynt

23.   dadansoddi nodweddion y systemau a'r technolegau sy'n rhoi'r rhan fwyaf o gyfleoedd i gyfrannu at y strategaeth fusnes gyffredinol

24.   gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod y strategaeth systemau a thechnoleg yn ategu'r strategaeth fusnes gyffredinol

25.   dilyn gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a defnyddio technolegau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwasanaethau a'r cynhyrchion a gynigir neu a gefnogir gan y ganolfan gyswllt
  2. y rheoliadau a'r ddeddfwriaeth allanol sy'n effeithio ar weithrediadau'r ganolfan gyswllt a'i systemau
  3. sut i ddewis a threfnu data wrth gynhyrchu adroddiadau system canolfannau cyswllt
  4. sut i nodi newidiadau i lif data sy'n deillio o addasiadau a newidiadau i systemau
  5. y technegau ar gyfer asesu anghenion unigolion a thimau am gefnogaeth wrth ddarparu gwasanaethau canolfan gyswllt
  6. yr opsiynau ar gyfer gweithgareddau i ddatblygu sgiliau timau ac unigolion
  7. metrigau perfformiad gweithrediadau canolfannau cyswllt
  8. pwysigrwydd metrigau canolfannau cyswllt wrth adrodd ar weithgareddau canolfannau cyswllt
  9. paramedrau cyfluniad y system a sut gellir eu defnyddio i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
  10. y gofynion busnes cyfredol a disgwyliedig ar gyfer defnyddio systemau a thechnolegau
  11. manteision ac anfanteision gwahanol baramedrau llwybro
  12. yr opsiynau ar gyfer rheolau llwybro a chyfluniadau system eraill y gellir eu defnyddio i wella gwasanaeth
  13. opsiynau'r rheolau llwybro gan gynnwys yr amser aros sy'n cael ei ddarogan, sylfaen sgiliau'r asiant, llwyth gwaith, amser o'r dydd, diwrnod yr wythnos a lleoliad y cysylltiad
  14. y gweithdrefnau a'r canllawiau sefydliadol ar gyfer gweithrediadau canolfannau cyswllt
  15. strwythur tasgau canolfannau cyswllt y mae materion parhad gweithredol a'r strategaeth fusnes gyffredinol yn effeithio arnynt
  16. pwysigrwydd dadansoddi llwybr penderfyniadau wrth ddylunio system canolfannau cyswllt
  17. y strategaethau busnes sefydliadol a allai effeithio ar systemau a strategaethau technolegol
  18. y technegau ar gyfer datblygu a chyflwyno strategaethau a pholisïau busnes sy'n addasu i systemau a sefyllfaoedd technoleg
  19. pam mae optimeiddio perfformiad yn ofyniad canolog ar gyfer unrhyw strategaeth arfaethedig a sut gellir ei mesur
  20. y mathau o ysgogwyr polisi a allai ddeillio o ganllawiau system a thechnoleg
  21. sut i werthuso'r manteision posibl a'r goblygiadau o ran cost yn sgîl addasiadau a gwelliannau i'r system
  22. pwysigrwydd cyflwyno argymhellion i addasu neu wella gyda thystiolaeth o manteision posibl a goblygiadau o ran adnoddau
  23. y technegau asesu risg sy'n addasu'n dda i'w defnyddio gyda systemau a thechnoleg canolfannau cyswllt
  24. yr opsiynau ar gyfer lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â methiant system a thechnoleg mewn canolfan gyswllt
  25. pwysigrwydd gwneud cysylltiadau priodol rhwng y strategaeth fusnes gyffredinol a systemau a strategaeth dechnoleg mewn canolfan gyswllt
  26. pwysigrwydd cytuno ar bolisïau a strategaethau gyda chydweithwyr priodol
  27. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a diogelu data cyfredol, codau ymarfer a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol a defnyddio technolegau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CfA CC11

Galwedigaethau Perthnasol

Cynghorydd, Asiant, Gweithredwr canolfan gyswllt

Cod SOC

7211

Geiriau Allweddol

Canolfan Gyswllt, gweithrediadau systemau canolfannau cyswllt, technoleg canolfan gyswllt, cyfluniad systemau, gwelliannau i systemau, polisi systemau, perfformiad systemau