Rhoi canllawiau, adnoddau a chymorth rheoli i staff er mwyn lleihau'r risg o haint

URN: INSC028
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 20 Maw 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi canllawiau, adnoddau a chymorth rheoli, gan gynnwys sicrhau bod yr hyfforddiant gofynnol yn cael ei roi i staff glanhau, i'w galluogi i leihau'r risg o gaffael a lledaenu haint. Mae'n berthnasol ar gyfer goruchwylio staff mewn unrhyw feysydd lle mae'r risg o haint yn broblem.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. mabwysiadu a chymhwyso'r polisïau a'r canllawiau perthnasol ar reoli heintiau sy'n berthnasol i'ch sefydliad
  2. rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch staff glanhau am y polisïau a'r canllawiau perthnasol ar reoli heintiau
  3. trefnu hyfforddiant ymsefydlu a diweddariad pellach i sicrhau bod eich staff yn dilyn arferion gwaith diogel
  4. sicrhau bod rheoli heintiau yn rhan annatod o drefn waith yr holl weithwyr
  5. diogelu eich staff drwy sicrhau bod cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gael ar eu cyfer a'r cyfleusterau ar gyfer gorfodi arferion gwaith diogel
  6. sicrhau bod gweithwyr yn cael yr holl frechiadau gofynnol a'u bod yn cael gwasanaethau iechyd galwedigaethol i leihau'r risgiau o haint wrth weithio
  7. monitro, archwilio a rhoi adborth ar arferion staff mewn cysylltiad â rheoli heintiau
  8. monitro'r adnoddau, y cyfarpar a'r agweddau amgylcheddol perthnasol a allai effeithio ar arferion wrth reoli heintiau
  9. ymchwilio i achosion problemau a gyflwynir a chychwyn camau adfer prydlon, lle bo'n briodol
  10. adolygu'r holl ddigwyddiadau andwyol a gofnodwyd a allai achosi risg o haint yn ogystal â chymryd cama mewn modd amserol i gael gwared ar y problemau
  11. dadansoddi pob achos o ddigwyddiadau andwyol a gofnodwyd er mwyn nodi tueddiadau, problemau rheolaidd a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw
  12. hysbysu'r aelod staff perthnasol os oes angen cymorth adferol ar gyfer rheoli'r haint
  13. sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol am reoli heintiau yn cael ei harddangos yn glir ym mhob rhan o safle eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Deddfwriaeth a pholisi

  1. y safon bresennol ar gyfer rheoli heintiau a rhagofalon, a'r ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol sy'n gysylltiedig â hyn
  2. y rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol
  3. y rheoliadau perthnasol sy'n ymwneud â sylweddau sy'n beryglus i iechyd

Gwybodaeth Dechnegol

  1. y ffeithiau am y gadwyn heintio
  2. yr imiwneiddiadau perthnasol sy'n gallu diogelu rhag haint yn y gwaith
  3. sut i gyfeirio staff at gyngor iechyd galwedigaethol
  4. y cyfleusterau dynodedig ar gyfer cadw dwylo'n lân
  5. y cyfleusterau dynodedig ar gyfer rhoi cymorth cyntaf
  6. y mathau o gyfarpar diogelu personol (PPE) sydd eu hangen ar eich staff
  7. ymwybyddiaeth o alergedd cudd a gweithdrefnau eich sefydliad o dan darparu menig di-latecs
  8. sut i sicrhau bod risgiau haint yn cael eu hasesu yn eich meysydd gweithgarwch
  9. y dadansoddiad o'r achos sylfaenol mewn cysylltiad â rheoli heintiau
  10. pa gamau i'w cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl gweithdrefn i leihau'r risgiau o haint

Dealltwriaeth Sefydliadol

  1. y technegau perthnasol er mwyn mabwysiadu a chymhwyso polisïau a chanllawiau eich sefydliad ar reoli heintiau
  2. y mecanwaith i roi hyfforddiant ymsefydlu a diweddariadau pellach i'ch gweithwyr
  3. sut i gaffael y cyfarpar diogelu personol (PPE) a beth i'w wneud gyda chyfarpar sydd wedi'i ddefnyddio
  4. y cyflenwadau a'r cyfleusterau perthnasol i alluogi staff i roi'r camau safonol y cytunwyd arnynt ar waith er mwyn rheoli ac atal heintiau
  5. sut i fonitro arferion gwaith staff a chymryd camau i gynnal y safonau hylendid gofynnol
  6. rolau a chyfrifoldebau eich gweithwyr o ran rheoli heintiau
  7. sut i gadw'r cofnodion sy'n ofynnol yn eich maes gweithgarwch
  8. y mecanweithiau perthnasol ar gyfer cofnodi unrhyw ddamweiniau a digwyddiadau er mwyn sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i gael gwared ar broblemau
  9. pryd i roi gwybod am faterion sydd y tu allan i gwmpas eich cyfrifoldebau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

20 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTIPC13

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Mentrau Gwasanaeth, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol

Cod SOC

9239

Geiriau Allweddol

Canllawiau, adnoddau, cymorth, staff, hyfforddiant, gweithredwyr glanhau, haint, goruchwylio