Archwilio a gwirio cydymffurfiaeth â safonau glendid

URN: INSC025
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n gysylltiedig â rheoli a goruchwylio ym maes glanhau. Mae’n ymwneud ag archwilio a gwirio cydymffurfiaeth â safonau glendid. Mae ar gyfer goruchwylwyr yn y diwydiant glanhau sydd angen gwneud yn siŵr bod y gweithgareddau glanhau yn cyrraedd y safonau ansawdd angenrheidiol. Mae'n hanfodol archwilio'r broses lanhau, yn ogystal â'r canlyniadau i wella ansawdd arferion gwaith yn barhaus. Mae'n cynnwys paratoi ar gyfer yr archwiliad, ei gynnal, rhoi gwybod am ganfyddiadau’r archwiliad, dadansoddi tueddiadau a dilyn y dadansoddiad drwy gymryd camau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. paratoi ar gyfer yr archwiliad a nodi'r categorïau risg ar gyfer tasgau glanhau, deunyddiau neu weithdrefnau gwaith
  2. pennu pa mor aml y mae angen archwilio ar gyfer pob categori risg a ddyrannwyd
  3. cadarnhau'r math o archwiliad yn unol â pha mor aml y glanheir a'r amserlen
  4. adolygu ac addasu'r categori risg ar gyfer pob archwiliad a gynhelir
  5. nodi a dyrannu'r systemau sgorio perthnasol ar gyfer pob math o archwiliad
  6. cytuno ar egwyddorion archwilio a chael systemau sgorio sy'n diffinio meini prawf ar gyfer pasio a methu
  7. cadarnhau'r mannau glanhau i'w harchwilio
  8. nodi maint y sampl ar gyfer pob maes, elfennau neu weithdrefnau gwaith sy'n cael eu harchwilio
  9. cadarnhau'r dull archwilio a'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn trwy gydol asesiad
  10. cynnal archwiliad o'r mannau glanhau yn unol â'r mathau o ddulliau archwilio, pa mor aml y glanheir, a'r systemau sgorio sydd wedi'u cadarnhau
  11. defnyddio'r offer, y technolegau a'r mathau perthnasol o brofion ar gyfer archwilio'r man yn erbyn safonau glendid
  12. gwneud yn siŵr bod yr archwiliad wedi'i lofnodi a'i stampio gydag amser a dyddiad
  13. cynhyrchu'r cofnod archwilio a'r adroddiad sy'n manylu ar y categorïau risg, nifer y mannau a archwilir, a'r sgoriau a gyflawnwyd
  14. addasu'r sgoriau a'r cyfrifiadau, lle bo angen
  15. gwneud yn siŵr bod yr archwiliadau wedi eu cymeradwyo gan yr adran berthnasol neu aelod staff cyfrifol
  16. cynnal dadansoddiad o dueddiadau sgoriau unigol a sgoriau cyffredinol dros gyfnodau o amser a gadarnheir
  17. nodi ffynonellau data meincnod allanol a chynnal dadansoddiad yn eu herbyn
  18. dadansoddi canlyniadau glendid a'r arferion glanhau
  19. coladu amrywiannau o ran ansawdd ar draws amrywiaeth o feysydd, gan nodi'r methiannau
  20. nodi meysydd penodol sydd angen eu hadolygu, gwella neu newid arferion gwaith
  21. nodi'r camau perthnasol yn ddibynnol ar ganlyniad asesiadau archwilio
  22. dyrannu'r camau gweithredu i'r aelodau staff neu'r adrannau perthnasol
  23. monitro ac adolygu'r safonau glanhau ansawdd a gweithdrefnau diogelwch yn rheolaidd
  24. gwneud yn siŵr bod lefelau eich cymhwysedd wrth gynnal archwiliadau glanhau yn gyfredol
  25. hyfforddi er mwyn safoni'r methodolegau archwilio yn rheolaidd
  26. adolygu eich cymhwysedd proffesiynol wrth gynnal asesiadau archwilio ac ymgymryd â'r holl hyfforddiant perthnasol, lle bo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. safonau glendid eich sefydliad
  2. lefelau eich cymhwysedd mewn safonau glendid ac archwiliadau glanhau
  3. sut i baratoi ar gyfer yr archwiliad glendid a beth mae'n ei gynnwys
  4. y rhesymau dros gynnal archwiliad a'i nodau
  5. mynediad at y mannau i'w harchwilio
  6. yr ystod o leoliadau a chanlyniadau glanhau i'w harchwilio
  7. sut i samplu'r meysydd ar gyfer dilysu neu weithdrefnau gwaith ar gyfer archwilio
  8. y categorïau risg ar gyfer cynnal yr archwiliad
  9. pa mor aml y cynhelir archwiliadau mewn perthynas â risgiau
  10. paramedrau'r systemau sgorio, pasio a methu ar gyfer cynnal yr archwiliad
  11. y mathau o gwestiynau ar gyfer yr asesiad
  12. y dull gweithredu ar gyfer cynnal yr archwiliad
  13. sut i gynnal archwiliad gweledol o'r mannau sy'n cael eu glanhau
  14. ystod y cyfarpar, technolegau a'r mathau o brofion ar gyfer cynnal yr archwiliad
  15. pam mae'n bwysig cael yr adroddiadau archwilio wedi'u llofnodi a'u stampio gydag amser a dyddiad
  16. y mathau o adroddiadau sydd eu hangen ar gyfer cofnodi canlyniadau'r archwiliad
  17. yr aelod staff perthnasol i lofnodi'r archwiliad
  18. sut mae canlyniadau'r archwiliad yn cael eu coladu
  19. egwyddorion dadansoddi data a pham y gallai fod angen data meincnodi
  20. sut mae dadansoddi'r canlyniadau a nodi'r mannau i roi sylw iddynt
  21. y camau a'r hyfforddiant perthnasol y gallai fod eu hangen o ganlyniad i'r dadansoddiad
  22. pam mae'n rhaid monitro ansawdd safonau glanhau yn rheolaidd
  23. manteision cynnal yr archwiliad glendid
  24. pwysigrwydd safoni'r methodolegau archwilio
  25. sut i wella ansawdd y glendid a'r gweithdrefnau gwaith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

N/A

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

cefnogaeth, staff, hyfforddiant, gweithwyr glanhau, haint, goruchwylio, archwilio, safonau glendid, glanhau