Hyfforddi staff ym maes glanhau

URN: INSC023
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n gysylltiedig â rheoli a goruchwylio ym maes glanhau. Mae'n ymwneud â hyfforddi staff ym maes glanhau. Mae ar gyfer goruchwylwyr yn y diwydiant glanhau sydd angen darparu'r hyfforddiant perthnasol i'w staff a'u diweddaru. Mae'n ymwneud ag asesu anghenion hyfforddi gweithwyr a'u hyfforddi hyd at safonau eich sefydliad. Mae hefyd yn ymwneud â rhoi adborth i unigolion ar eu cynnydd a'u cyflawniadau.

Mae'r safon yn cwmpasu'r canlynol:

  1. Gwneud yn siŵr bod eich gweithwyr yn dilyn gweithdrefnau paratoi a diogelu

  2. Asesu anghenion hyfforddi eich gweithwyr

  3. Hyfforddi gweithwyr hyd at safonau gofynnol o ran ansawdd a pherfformiad

  4. Rhoi adborth ar gynnydd a pherfformiad gweithwyr

Gallai eich gweithgareddau dyddiol nodweddiadol ar gyfer yr uned hon gynnwys:

  1. Gwneud yn siŵr bod eich gweithwyr yn cael eu diogelu ac yn dilyn yr holl weithdrefnau diogelwch perthnasol

  2. Asesu sgiliau unigol eich gweithwyr

  3. Nodi anghenion hyfforddi o fewn cwmpas eich cyfrifoldeb

  4. Nodi'r hyn y dylai gweithwyr ei ddysgu

  5. Gweithredu hyfforddiant sydd wedi'i gynllunio yn y maes yr ydych yn gyfrifol amdano. Gwneud yn siŵr bod staff yn gallu cymhwyso'r sgiliau newydd

  6. Rhoi cyfarwyddyd yn y gwaith i weithwyr a goruchwylio eu gwaith

  7. Asesu cynnydd gweithwyr wrth gaffael a chymhwyso sgiliau newydd

  8. Rhoi adborth i weithwyr ar eu cynnydd a'u cyflawniadau

  9. Cadw cofnodion hyfforddiant

  10. Cofnodi cynnydd unigol gweithwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Asesu anghenion hyfforddi eich gweithwyr

1.      sefydlu perthynas waith gynhyrchiol gyda'ch staff glanhau

2.      asesu sgiliau a phrofiad gwaith blaenorol gweithwyr newydd

3.      nodi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen gan eich gweithwyr i gyflawni safonau perfformiad ansawdd

4.      nodi'r lefelau gwybodaeth am weithdrefnau iechyd a diogelwch a allai fod eu hangen ar eich gweithwyr

5.      pennu faint o oruchwyliaeth fydd eu hangen ar weithwyr wrth iddynt gael eu hyfforddi

6.      hysbysu'r aelod staff perthnasol am eich asesiad o'u hanghenion hyfforddi

Hyfforddi gweithwyr hyd at safonau gofynnol o ran ansawdd a pherfformiad

7.      paratoi rhaglen hyfforddi er mwyn diwallu anghenion hyfforddi eich gweithwyr

8.      esbonio'r hyn a ddisgwylir gan staff glanhau

9.      hyfforddi eich staff mewn gweithdrefnau manwl o ran glanhau a rheoli heintiau, lle bo angen

10.  rhoi'r wybodaeth a'r cyfarwyddiadau gofynnol i weithwyr

11.  arddangos arferion gwaith gorau i ategu'r dysgu

12.  dangos sut y gweithredir cyfarpar drwy ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

13.  cefnogi staff glanhau wrth ymarfer eu sgiliau o dan amodau gwaith diogel

14.  gofyn am y cymorth hyfforddi gan yr aelod staff perthnasol os yw eich gwybodaeth a'ch sgiliau y tu allan i'r cwmpas gofynnol

15.  monitro cynnydd gweithredwyr glanhau a'u gallu i ymdopi â gofynion eu gwaith a'r amgylchedd gwaith

16.  cofnodi manylion gweithgareddau hyfforddi a chynnydd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Rhoi adborth ar gynnydd a pherfformiad gweithwyr

17.  rhoi cyfleoedd i weithwyr asesu eu perfformiad eu hunain ar wahanol gamau o'u hyfforddiant

18.  rhoi adborth i'ch gweithwyr ar eu cynnydd a'u perfformiad

19.  nodi'r camau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion hyfforddi gweithwyr

20.  rhoi gwybod am gynnydd gweithwyr

21.  nodi'r rhesymau dros amrywiadau mewn cynnydd unigolion

22.  awgrymu atebion pan mae cynnydd gweithiwr yn arafach neu'n gyflymach na'r disgwyl


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Asesu anghenion hyfforddi eich gweithwyr

1.      y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i fodloni safonau ansawdd a pherfformiad

2.      y risgiau iechyd a diogelwch sy'n codi yn eich maes cyfrifoldeb a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â'r rhain

3.      cwmpas eich cyfrifoldebau ar gyfer asesu anghenion hyfforddi

4.      sut i nodi'r anghenion hyfforddi yn dibynnu ar brofiad blaenorol y gweithiwr

5.      y gweithdrefnau rhoi gwybod ar gyfer asesu anghenion hyfforddi

6.      Hyfforddi gweithwyr hyd at safonau gofynnol o ran ansawdd a pherfformiad

7.      cwmpas eich cyfrifoldebau ar gyfer hyfforddi glanhawyr

8.      gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer hyfforddi staff glanhau

Hyfforddi gweithwyr hyd at safonau gofynnol o ran ansawdd a pherfformiad

9.      y mathau o raglenni hyfforddi sydd eu hangen ar gyfer staff glanhau

10.  hyfforddiant eich sefydliad mewn gweithdrefnau manwl o ran glanhau a rheoli heintiau

11.  sut i annog gweithwyr i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd

12.  sut i ddangos arferion gwaith gorau a sut i weithredu cyfarpar i staff

13.  y technegau perthnasol ar gyfer dangos y dulliau glanhau a sut i weithredu cyfarpar yn dibynnu ar anghenion y gweithiwr

14.  yr anogaeth i gwestiynu'r technegau a ddangosir

15.  y mathau o gymorth sy'n galluogi pobl i ymarfer y sgiliau maent newydd eu caffael

16.  y risgiau iechyd a diogelwch sy'n codi yn eich maes cyfrifoldeb a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â'r rhain

Rhoi adborth ar gynnydd a pherfformiad gweithwyr

17.  y technegau perthnasol ar gyfer hunanasesiadau gweithwyr ar wahanol gamau o'u hyfforddiant

18.  sut i roi adborth i'r gweithwyr ar eu cynnydd a'u perfformiad

19.  y camau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion hyfforddi gweithwyr

20.  y mathau o anawsterau a allai fod gan y gweithwyr wrth wneud cynnydd

21.  nodi'r rhesymau dros amrywiadau mewn cynnydd unigolion

22.  i bwy mae angen rhoi gwybod am fanylion cynnydd gweithwyr


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC313

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

hyfforddiant, glanhau, staff, diweddaru, asesu, anghenion, safonau, trefniadaeth, adborth, cynnydd, cyflawniadau