Glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog

URN: INSC017
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog. Rhaid ymgymryd â'r gwaith hwn yn ofalus er mwyn peidio ag achosi difrod damweiniol fel tolciau, crafiadau a marciau eraill. Mae llawer o arwynebau allanol yn edrych yn sgleiniog; felly, mae'n bwysig bod yr arwynebau'n cael eu gadael yn sych ar ôl gorffen glanhau ac nad oes unrhyw staeniau a gweddillion glanhau. Gall y term gwydrog gyfeirio at arwynebau allanol hynod sgleiniog e.e. marmor neu gladin. Mae'n rhaid i chi fod wedi'ch hyfforddi'n llawn ac yn gymwys i ddefnyddio'r mathau perthnasol o gyfarpar mynediad, megis ysgolion a nenbontydd cludadwy, llwyfannau gweithio uchel symudol (MEWPs), cyfarpar mynediad crog (SAE), crudau a mynediad â rhaffau. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn gwisgo cyfarpar atal cwympo, cyfarpar rhwystro rhag cwympo a dillad llachar. Dylai'r mathau hyn o gyfarpar a ddefnyddir gydymffurfio â safonau perthnasol. Mae'n bwysig asesu'r risgiau i chi eich hun, aelodau'r tîm a'r cyhoedd. Rhaid i chi ddefnyddio cyfarpar yn ddiogel gan leihau'r risg i chi'ch hun, aelodau'r tîm a'r cyhoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn y systemau ymarfer gwaith diogel y cytunwyd arnynt

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar atal cwympo, cyfarpar rhwystro rhag cwympo a dillad llachar wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu personol neu ei ailddefnyddio

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

Rheoli'r risg o haint

9.      dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

10.  defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV), lle bo'n ofynnol

11.  defnyddio bywleiddiaid yn ddiogel ac yn unol â gofynion y gwneuthurwr a'r sefydliad

12.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd, y tywydd a'r risgiau a nodwyd

13.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

14.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

15.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

Paratoi i lanhau arwynebau a ffasadau gwydrog

16.  gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau diogelwch ar gyfer gwneud y gwaith

17.  gwneud yn siŵr bod unrhyw hyfforddiant ar gyfer safle penodol yn cael ei ddarparu gan berchennog yr adeilad neu eich sefydliad

18.  asesu a oes angen gweithio mewn mannau uchel

19.  dewis y cyfarpar mynediad perthnasol ac offer yn unol â'r math o waith glanhau

20.  gwneud yn siŵr eich bod wedi cael cyfarwyddiadau ar gyfer safle penodol ynglŷn â chael mynediad at y cyfarpar yn ddiogel

21.  cynnal gwiriad gweledol o gyfarpar mynediad ac offer, ei archwilio a'i brofi cyn ei ddefnyddio

22.  cadarnhau gweithdrefnau brys ar gyfer gweithio ar y safle

23.  dewis ac arddangos yr arwyddion priodol cyn dechrau glanhau

24.  nodi a bod yn ymwybodol o unrhyw rwystrau posibl fel llinellau pŵer rhydd, sy'n hongian drosodd ac yn ymwthio allan

25.  gwneud yn siŵr bod yr holl offer diogelwch yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau, gan gynnwys mesurau i atal offer rhag syrthio i'r llawr

26.  cymryd rhagofalon i wneud yn siŵr nad yw'r cerbyd sy'n cario'r systemau glanhau yn cael ei orlwytho

27.  cymryd camau priodol i leihau risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio ar offer mynediad

Glanhau arwynebau gwydrog a ffasadau

28.  archwilio'r arwyneb am unrhyw ddiffygion cyn eu glanhau a hysbysu'r aelod staff perthnasol amdanynt

29.  gwneud yn siŵr bod yr holl ffenestri ac agoriadau ar gau yn ddiogel cyn glanhau

30.  cael gwared ar unrhyw lwch a thrin arwynebau cyn rhoi unrhyw gynhyrchion glanhau ar waith i feddalu baw dwfn

31.  cadw at ddulliau a chyfarpar cymeradwy'r cwsmer neu eich sefydliad ar gyfer glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog

32.  cynnal gweithrediadau glanhau drwy ddefnyddio cyfarpar a thechnegau cymeradwy fydd yn lleihau'r risg o gwympo, llithro, baglu, straen personol ac anaf

33.  gweithredu cyfarpar glanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisïau eich sefydliad

34.  osgoi gwneud y man gwaith yn rhy wlyb er mwyn atal gollyngiadau neu ddiferion rhag mynd i mewn

35.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw arwynebau oedd wedi'u difrodi'n flaenorol ond heb eu nodi

36.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddifrod damweiniol a achoswyd o ganlyniad i lanhau

37.  dilyn gweithdrefnau eich sefydliad neu eich cwsmer os bydd nam neu sefyllfaoedd brys eraill

Glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog yn llwyr ac ailosod y man gwaith.

38.  cael gwared ar ddŵr dros ben oddi ar arwynebau, a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw staeniau a gweddillion glanhau

39.  gwneud yn siŵr bod yr holl arwynebau'n sych ar ôl gorffen glanhau

40.  rhoi unrhyw driniaethau neu haenau amddiffynnol ar arwynebau ar ôl glanhau

41.  gwneud yn siŵr nad oes unrhyw weddillion glanhau ar ategolion, ffitiadau, fframiau a / neu ddodrefn fel dolenni a chaeadau

42.  ailosod y man gwaith fel yr oedd yn y lle cyntaf ar ôl gorffen glanhau

43.  gwaredu gwastraff yn unol â pholisïau'r cwsmer neu'ch sefydliad

44.  gwneud yn siŵr bod yr holl gyfarpar glanhau a pheiriannau yn lân, yn gweithio ac yn sych ar ôl cwblhau'r gwaith

45.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw gyfarpar neu beiriannau diffygiol

46.  dychwelyd yr holl gyfarpar i'r man dynodedig, gan wneud yn siŵr ei fod yn cael ei storio'n ddiogel


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r systemau arferion gwaith diogel y cytunwyd arnynt

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r dulliau rheoli heintiau

5.      y cyfarpar atal cwympo, y cyfarpar rhwystro rhag cwympo a'r dillad llachar.

6.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

7.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

8.      pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

Rheoli'r risg o haint

9.      gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

10.  sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).

11.  y defnydd o fioleiddiaid a'r hyfforddiant gofynnol ar ei gyfer

12.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

13.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd, y tywydd a'r risgiau a nodir

14.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

15.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

Paratoi i lanhau arwynebau a ffasadau gwydrog

16.  cyfarwyddiadau a gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad ar gyfer cyflawni'r gwaith

17.  yr arwyddion priodol i'w harddangos a'r rhesymau dros wneud hynny

18.  y cymwysterau neu'r hyfforddiant perthnasol i ddefnyddio'r offer mynediad

19.  y cyfarpar a'r offer mynediad perthnasol yn dibynnu ar y math o waith glanhau, gan gynnwys gweithio mewn mannau uchel

20.  y cyfarwyddiadau ar gyfer safle penodol ynglŷn â chael mynediad diogel at yr offer

21.  pwysigrwydd gwiriadau gweledol, profi ac archwilio'r cyfarpar a'r offer mynediad cyn ei ddefnyddio

22.  y gweithdrefnau brys ar gyfer gweithio ar y safle

23.  sut i fod yn ymwybodol o unrhyw rwystrau posibl

24.  sut i gynnal asesiad risg a pham mae'n bwysig ymweld â'r safle

25.  pam mae'n bwysig cadw at y gweithdrefnau gweithio ar gyfer y gwaith glanhau

26.  y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio'r offer a'r cyfarpar mynediad

27.  y cam ataliol i atal offer rhag syrthio i'r llawr

28.  y gweithdrefnau diogelwch wrth ddefnyddio cerbydau a pham mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad yw'r cerbyd yn cael ei orlwytho

Glanhau arwynebau gwydrog a ffasadau

29.  sut i archwilio'r arwyneb ar gyfer ei lanhau

30.  y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion a pham mae'n bwysig gwneud hyn

31.  pam y dylai cyfarpar glanhau fod yn lân, yn gweithio a heb unrhyw weddillion cyn dechrau gweithio

32.  pam y dylai ffenestri ac agoriadau gael eu cau cyn dechrau glanhau a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwneud hynny

33.  yr arwyddion perthnasol yn y man gweithio cyn glanhau

34.  manteision trin arwynebau cyn defnyddio unrhyw gynhyrchion glanhau

35.  dulliau cymeradwy'r cwsmer neu'ch sefydliad ar gyfer glanhau arwynebau a'r cyfarpar priodol i'w ddefnyddio

36.  y technegau ar gyfer osgoi peryglon cwympo, llithro a baglu, straen personol ac anaf

37.  ble i ddod o hyd i gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer defnyddio cyfarpar a / neu beiriannau

38.  gweithdrefnau'r cwsmer a'ch sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion ac argyfyngau

39.  pam mae'n bwysig hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddifrod damweiniol a achoswyd o ganlyniad i lanhau

Glanhau arwynebau a ffasadau gwydrog yn llwyr ac ailosod y man gwaith.

40.  y technegau ar gyfer cael gwared â gormod o ddŵr a'r cyfarpar priodol i'w ddefnyddio

41.  y triniaethau perthnasol i'w rhoi ar arwynebau ar ôl gorffen glanhau

42.  pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad oes unrhyw staeniau neu weddillion glanhau ar ategolion, ffitiadau a dodrefn ar ôl gorffen glanhau

43.  sut i ailosod y man gwaith fel yr oedd yn edrych yn y lle cyntaf a pham y dylech wneud hyn

44.  gweithdrefnau eich sefydliad neu'ch cwsmer ar gyfer gwaredu gwastraff

45.  pam y dylai cyfarpar a pheiriannau glanhau gael eu glanhau a'u sychu a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio pan fyddwch wedi gorffen eich gwaith a sut i fynd ati i wneud hyn

46.  y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion gyda chyfarpar a pheiriannau

47.  y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer storio cyfarpar a pheiriannau glanhau a lle caiff y rhain eu cadw


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC215

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

glanhau, arwynebau gwydrog, ffasadau, atal, difrod, diogelwch, PPE