Glanhau safleoedd bwyd

URN: INSC010
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau safleoedd bwyd. Mae ar gyfer glanhawyr sy’n ymgymryd â gwaith glanhau arferol mewn adeiladau sy'n gysylltiedig â bwyd gan gynnwys ceginau, gwasanaethau gweini bwyd a gweithgynhyrchu, cynhyrchu bwyd ac manwerthu. Mae risg sylweddol i iechyd os na chaiff adeiladau sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu, cynhyrchu, gweini a manwerthu bwyd eu glanhau'n briodol. Dylid cynnal a chadw safonau uchel o hylendid personol ym mhob rhan o'r broses lanhau. Mae'n bwysig dilyn manylion glanhau'r gweithredwr yn y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd. Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin â glanhau cyfarpar yn y man o dan sylw ac ynysu cyfarpar cynhyrchu bwyd yn ddiogel. Mae'n bwysig cymryd y rhagofalon perthnasol wrth drin cyfarpar diogelu a’i waredu’n ddiogel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

9.      gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir

Rheoli'r risg o haint

10.  dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

11.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

12.  archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

13.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

14.  defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol

15.  defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau

16.  dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

17.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

18.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

19.  golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad

20.  gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo

Glanhau mannau bwyd yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr

21.  cael manylion glanhau'r gweithredwr yn y gweithdrefnau am reoli diogelwch bwyd

22.  symud eich holl eitemau personol a'u storio mewn man dynodedig a gwisgo cyfarpar diogelu

23.  gwneud yn siŵr bod lefel eich hylendid personol yn bodloni safon gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr

24.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw gyflyrau neu broblemau iechyd

25.  symud a gwarchod eitemau, gan gynnwys bwyd, yn y man glanhau yn unol â gweithdrefnau glanhau perthnasol y gweithredwr

26.  defnyddio'r cyfarpar glanhau sy'n addas ar gyfer y dasg lanhau benodol a gwirio ei fod yn ddiogel cyn ei ddefnyddio

27.  gwahanu a labelu cyfarpar glanhau diffygiol neu sydd wedi'i ddifrodi a rhoi gwybod i'r gweithredwr bwyd amdano

28.  paratoi safle, cyfarpar a deunyddiau cynhyrchu bwyd i'w glanhau yn unol â'r manylion glanhau perthnasol

29.  ynysu cyflenwadau pŵer cyfarpar bwyd pryd bynnag y bo angen

30.  glanhau heb ddifrodi safle, cyfarpar a deunyddiau cynhyrchu bwyd

31.  dilyn cyfarwyddiadau ac arferion gwaith diogel y gwneuthurwr wrth ddadosod, glanhau ac ailosod cyfarpar cynhyrchu bwyd

32.  gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi pob rhan yn y man dynodedig wrth ddadgydosod cyfarpar cynhyrchu bwyd a nodi rhannau o gyfarpar i'w hailosod

33.  ar ôl ailosod y cyfarpar, gwnewch yn siŵr ei fod mewn cyflwr i allu gweithio'n gywir

34.  cofnodi unrhyw ddiffygion a hysbysu'r aelod staff perthnasol amdanynt e.e. lle nad oes modd cyflawni'r manylion glanhau angenrheidiol, neu gyfarpar bwyd sydd ar goll neu wedi'i ddifrodi

35.  gwneud yn siŵr bod yr awyriad yn ddigonol ac nad oes unrhyw gemegau eraill ar yr arwynebau cyn dechrau tynnu cen oddi ar gyfarpar cynhyrchu bwyd

36.  tynnu cen a glanhau rhannau o gyfarpar yn drefnus ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr i osgoi halogi

Glanhau mannau bwyd yn drylwyr

37.  asesu cynnydd eich gwaith glanhau yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr

38.  nodi achosion o bla, hysbysu'r aelod staff perthnasol amdanynt a dilyn gweithdrefnau diogelwch y gweithredwr wrth ddelio â phla.

39.  gwneud yn siŵr bod y man yn cael ei lanhau'n drylwyr ac mor aml ag sy'n ofynnol nes bod y pla wedi'i ddileu

40.  gwneud yn siŵr bod rhannau unigol o gyfarpar cynhyrchu bwyd yn lân cyn eu hailosod

41.  gadael cyfarpar cynhyrchu bwyd mewn cyflwr gweithio diogel ar ôl gorffen, gan roi gwybod am unrhyw broblemau a gafwyd wrth lanhau neu ailosod

42.  gwneud yn siŵr nad oes unrhyw ddyddodion, gweddillion glanhau a gwrthrychau digyswllt ar y cyfarpar a'r man gwaith

43.  gwneud yn siŵr bod y systemau awyru a'r arwynebau yn lân ac yn sych pan fyddwch wedi gorffen

44.  gwaredu gwastraff a slyri yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr

45.  gwneud yn siŵr bod y cyfarpar glanhau a'r peiriannau yn cael eu glanhau a'u storio'n ddiogel yn unol â manylion glanhau pan fyddwch wedi gorffen glanhau

46.  gwaredu cyfarpar diogelu sydd wedi'i ddefnyddio yn unol â gweithdrefnau diogelwch


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau

5.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

6.      gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel

7.      sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau

8.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

9.      pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

Rheoli'r risg o haint

10.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

11.  pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad

12.  y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

13.  y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

14.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

15.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

16.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

17.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

18.  hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu

Glanhau mannau bwyd yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr

19.  pam mae'n bwysig cael manylion glanhau cyfredol y gweithredwr a gan bwy y gellir cael y rhain

20.  y safonau hylendid personol sy'n ofynnol ar gyfer y maes bwyd rydych chi'n gweithio ynddo, a sut i gynnal y lefel honno

21.  pam mae'n rhaid hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw gyflyrau neu broblemau iechyd

22.  pam mae'n rhaid symud neu warchod eitemau bwyd yn ystod gweithrediadau glanhau, y dulliau cywir o wneud hynny a goblygiadau peidio â dilyn y gweithdrefnau perthnasol

23.  yr ystod o gyfarpar glanhau sydd ar gael a sut i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio

24.  y cynhyrchion a'r toddiannau addas ar gyfer yr arwynebau rydych chi'n eu glanhau a goblygiadau defnyddio'r deunyddiau anghywir

25.  sut i nodi a labelu cyfarpar cynhyrchu bwyd diffygiol neu sydd wedi'i difrodi a pham y dylid rhoi gwybod am hyn

26.  sut i baratoi safle, cyfarpar a deunyddiau cynhyrchu bwyd i'w glanhau yn unol â'r manylion glanhau perthnasol

27.  sut i ynysu cyfarpar cynhyrchu bwyd wedi'i bweru yn ddiogel a pham mae'n rhaid i chi wneud hyn cyn glanhau

28.  pam mae'n bwysig cyfeirio at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer dadosod, ailosod a glanhau cyfarpar er cynhyrchu bwyd a lle gellir cael y wybodaeth hon

29.  gweithdrefnau perthnasol y gweithle er mwyn dad-osod ac ail-ymgynnull cyfarpar cynhyrchu bwyd gan gynnwys y man dynodedig ar gyfer cadw rhannau

30.  y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion lle na ellir cyflawni'r manylion glanhau, neu gyfarpar bwyd sydd ar goll neu wedi'i ddifrodi

31.  sut i awyru'r man cynhyrchu bwyd a pham mae hyn yn bwysig

32.  y dulliau perthnasol ar gyfer tynnu cen a glanhau cyfarpar cynhyrchu a sut i'w cymhwyso'n ddiogel

33.  y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cwblhau'r gwaith glanhau a gadael y gweithle

Glanhau mannau bwyd yn drylwyr

34.  sut i fonitro cynnydd eich gwaith glanhau a pham mae'n bwysig cadw at safonau a gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y gweithredwr

35.  y prif fathau o bla sy'n gyffredin i fannau cynhyrchu bwyd, sut i'w hadnabod, a'r camau i'w cymryd i fynd i'r afael â nhw

36.  pam mae'n bwysig rhoi gwybod am bla a'r gweithdrefnau perthnasol y mae'n rhaid i chi eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw achosion o bla

37.  y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer dadosod ac ailosod cyfarpar cynhyrchu bwyd a pham mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod pob rhan yn lân cyn ei ailosod

38.  sut i nodi problemau gyda chyfarpar cynhyrchu bwyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rhoi gwybod amdanynt

39.  pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad oes unrhyw ddyddodion, gweddillion cemegol a gwrthrychau digyswllt a beth fyddai goblygiadau peidio â gwneud hynny

40.  y lle dynodedig ar gyfer yr holl fwyd neu gyfarpar a symudwyd yn ystod y gweithgaredd glanhau a pham mae'n bwysig rhoi eitemau yn ôl o ble daethant

41.  pam y dylai arwynebau a fentiau fod yn sych ar ôl cwblhau'r gwaith glanhau

42.  y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwaredu gwastraff a slyri

43.  sut i lanhau'r offer a'r peiriannau a'u storio'n ddiogel pan fyddwch wedi gorffen glanhau

44.  sut i waredu cyfarpar diogelu sydd wedi'i ddefnyddio yn unol â gweithdrefnau diogelwch


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC211

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

cynnal, tasgau glanhau arferol, mannau bwyd, risg, hylendid, proses, gweithdrefnau