Glanhau mannau risg uchel

URN: INSC008
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae'n ymwneud â glanhau mannau risg uchel. Mae ar gyfer glanhawyr sy’n gorfod cynnal lefelau hylendid mewn mannau lle mae risg uchel o haint neu halogiad. Gall hyn achosi risg o heintio eich hun ac aelodau'r tîm a chwsmeriaid, a thrawshalogi i'r amgylchedd yr ydych yn gweithio ynddo os nad ydych yn dilyn y gweithdrefnau cywir yn y gweithle a chanllawiau perthnasol ar gyfer glendid. Er mwyn lleihau’r risgiau hyn, mae’n bwysig cynnal lefelau uchel o hylendid personol a chadw at y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol. Gallai’r gweithdrefnau i’w dilyn amrywio gan ddibynnu ar yr amgylchedd yr ydych yn gweithio ynddo a’r risgiau a nodir. Er enghraifft, ar gyfer dewis cyfarpar diogelu a’i ddefnyddio, pa mor aml mae angen glanhau, a’r gweithdrefnau ar gyfer mynd i mewn i ardal risg uchel a’i gadael. Gellir diffinio risg uchel mewn rhai cyd-destunau gwaith fel amgylchedd a reolir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      asesu'r categorïau risg a chymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad asesiadau a gynhelir

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

9.      gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir

Rheoli'r risg o haint

10.  dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

11.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

12.  gwneud yn siŵr bod yr ardal yn cael ei hawyru'n ddigonol cyn ac yn ystod y gwaith

13.  archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

14.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

15.  defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol

16.  defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau

17.  dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiadau feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

18.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

19.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

20.  golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad

21.  gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo

Atal heintiau rhag lledaenu a thrawshalogi mewn mannau risg uchel

22.  golchi dwylo'n rheolaidd er mwyn atal heintiau rhag lledaenu neu drawshalogi mewn mannau risg uchel

23.  defnyddio'r dulliau priodol o gynnal eich hylendid personol drwy ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad

24.  ceisio cyngor gan yr aelodau staff perthnasol pan ofynnir i chi lanhau amgylcheddau lle mae risg benodol o heintio neu drawshalogi

25.  cael manyleb glanhau sy'n rhoi gwybodaeth fanylach am sut y dylid glanhau

26.  cadarnhau eitemau unigol ar gyfer glanhau, pa mor aml mae angen glanhau, a'r safonau glendid disgwyliedig ar gyfer pob eitem

27.  nodi dodrefn a chyfarpar sydd wedi'u difrodi yn y man risg uchel, rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol amdanynt a gwneud yn siŵr eu bod yn lân cyn eu symud neu eu hailosod

28.  cadarnhau natur y baw gyda'r aelod staff perthnasol cyn dechrau glanhau

29.  gwneud yn siŵr nad oes unrhyw wastraff yn y man risg uchel a'i fod wedi'i waredu'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

30.  rhoi gwybod am unrhyw ddifrod damweiniol neu darfu i'r mannau risg uchel a achosir gan brosesau glanhau

31.  gwneud yn siŵr bod yr holl ddeunyddiau glanhau, cyfarpar a chynwysyddion glanhau yn cael eu dychwelyd mewn cyflwr glân a diogel i'r man storio dynodedig

32.  gwneud yn siŵr bod yr holl weithdrefnau perthnasol wedi'u dilyn yn llawn cyn i chi gasglu eich eitemau personol o'r man storio

Glanhau mewn ardal risg uchel

33.  dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i ardaloedd risg uchel

34.  tynnu unrhyw eitemau personol, megis gemwaith oherwydd y risg i chi eich hun neu'r offer, a'u storio mewn man dynodedig

35.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw gyflyrau personol a allai achosi haint neu drawshalogi yn yr ardal risg uchel

36.  asesu a nodi'r holl risgiau posibl i chi eich hun, cwsmeriaid a'r amgylchedd a achosir gan ficro-organebau neu lygryddion eraill cyn glanhau neu wedi hynny

37.  trefnu dulliau cyfathrebu â'ch goruchwyliwr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad wrth weithio ar eich pen eich hun

38.  gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau a'r offer yn addas i'r diben ac yn briodol ar gyfer glanhau'r mannau risg uchel

39.  dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â chyfarpar glanhau diffygiol

40.  defnyddio codau lliw ar gyfer deunyddiau glanhau i osgoi'r posibilrwydd o drawshalogi

41.  dilyn y gweithdrefnau perthnasol o ran dadheintio ar gyfer y man sy'n cael ei lanhau

42.  defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad

43.  nodi'r mannau y mae'r person symptomatig yn mynd iddynt cyn eu glanhau a gosod arwyddion perthnasol o'u cwmpas

44.  glanhau holl hylifau'r corff, gan ddefnyddio deunyddiau tafladwy yn fuan ar ôl i'r rhain gael eu nodi a diheintio'r arwyneb

45.  gwaredu cyfarpar sydd wedi'i ddefnyddio, gwastraff arall neu wastraff a allai fod yn heintus yn unol â chanllawiau'r cyflogwr

46.  gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

47.  symud yr arwyddion a'u dychwelyd mewn cyflwr glân i'r man storio dynodedig ar ôl gorffen eich gwaith

48.  dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gadael y gweithle


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y categorïau risg a'r camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad asesiadau a gynhelir

4.      y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau

5.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

6.      gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel

7.      sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau

8.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

9.      pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

Rheoli'r risg o haint

10.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

11.  pam y dylai'r man gwaith gael ei awyru'n ddigonol a'r peryglon sy'n gysylltiedig ag awyru annigonol

12.  pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad

13.  y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

14.  y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

15.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

16.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

17.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

18.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

19.  hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu

Atal heintiau rhag lledaenu a thrawshalogi mewn mannau risg uchel

20.  lleoliad cyfleusterau ar gyfer cadw dwylo'n lân a pham mae hylendid personol yn bwysig mewn man risg uchel

21.  y risgiau y gallwch ddod ar eu traws yn eich tasgau glanhau arferol a'r mannau yn y gweithle lle ceir amrywiaeth o risgiau

22.  pam y dylech geisio cyngor ynghylch amgylcheddau glanhau a allai beri risg benodol a'r unigolyn perthnasol y gallech ofyn am gymorth ganddo

23.  y manylebau sy'n amlinellu'r ffactorau risg a nodwyd a sut y dylid cyflawni'r gweithdrefnau glanhau

24.  yr eitemau unigol ar gyfer glanhau a'r safonau glendid disgwyliedig ar gyfer pob eitem

25.  pa mor aml mae angen glanhau yn dibynnu ar ffactorau risg

26.  y risgiau a allai fod yn gysylltiedig ag eitemau o ddodrefn neu gyfarpar sydd wedi'u difrodi yn y man risg uchel, a pham y dylech hysbysu'r aelod staff perthnasol amdanynt

27.  sut i nodi'r mathau o arwynebau a'r baw y mae'n ofynnol i chi eu glanhau

28.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw faw nad ydych yn gwybod beth ydyw

29.  pwy sy'n gyfrifol am wirio eich gwaith

30.  pwy sy'n gyfrifol am symud gwastraff o'r man risg uchel a pha mor reolaidd y caiff hyn ei wneud

31.  cyfarwyddiadau, gweithdrefnau a chanllawiau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am ddifrod damweiniol

Glanhau mewn ardal risg uchel

32.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i mewn i ardaloedd risg uchel, eu glanhau a'u gadael

33.  pam mae'n bwysig rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am unrhyw gyflyrau personol a allai achosi haint neu drawshalogi

34.  y risgiau sy'n bodoli mewn man risg uchel a sut i'w nodi at ddibenion asesiad risg

35.  y cynhyrchion a'r cemegau glanhau dynodedig sydd eu hangen ar gyfer y man rydych yn gweithio ynddo a'r lefelau gwanhau

36.  y cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer glanhau (e.e. dŵr a draeniau) a lle i gael gafael ar y rhain

37.  y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer trefnu dulliau cyfathrebu â'ch goruchwyliwr a pham mae'n bwysig cadarnhau'r rhain cyn dechrau gweithio

38.  pam mae'n bwysig tynnu eich eitemau personol os ydych yn glanhau mewn man risg uchel

39.  y cyflyrau personol a allai gyfyngu ar eich dyletswyddau glanhau a pham mae'n bwysig hysbysu'r aelod staff perthnasol

40.  pam mae'n bwysig cael offer a chyfarpar glanhau y gellir eu defnyddio ac i bwy y mae angen rhoi gwybod am broblemau

41.  beth i'w wneud gyda gwrthrychau a allai fod yn beryglus neu wedi'u heintio a sut i'w gwaredu mewn cynwysyddion dynodedig

42.  pwysigrwydd defnyddio deunyddiau glanhau sydd â chodau lliw i osgoi trawshalogi posibl

43.  dulliau glanhau hylifau'r corff a pham mae'n bwysig diheintio'r ardal

44.  gweithdrefnau dadheintio eich sefydliad

45.  sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).

46.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar diogelu a ddefnyddiwyd, gwastraff arall neu wastraff a allai fod yn heintus

47.  pryd i symud arwyddion o'r man gwaith a lle i'w storio

48.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gadael y gweithle


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC209

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

risg uchel, mannau, glân, halogi, cyfarpar diogelu, hylendid personol, atal