Gwneud gwaith glanhau yn yr awyr agored

URN: INSC006
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae’n ymwneud â gwneud gwaith glanhau yn yr awyr agored. Mae ar gyfer glanhawyr sy'n defnyddio offer a pheiriannau a allai beri risg uchel o ran iechyd a diogelwch. Gall amodau amgylcheddol hefyd effeithio ar pryd a sut gellir gwneud y gwaith. Mae’n bwysig ystyried ffactorau amgylcheddol fel tymheredd, glaw, lleithder, gwynt ac amodau rhewllyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

9.      gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir

Eich gweithgareddau gwaith

10.  gwneud yn siŵr bod yr holl drwyddedau a gwiriadau yn eu lle ar gyfer gwneud y gwaith

11.  gwneud yn siŵr bod modd mynd i'r lleoliad a'i fod yn ddiogel ar gyfer gwneud y gwaith

12.  gwneud yn siŵr bod eich sgiliau, cymhwysedd a hylendid personol yn bodloni safonau'r gweithle

13.  archwilio'r man gwaith a phenderfynu ar drefn y tasgau er mwyn gwneud y gwaith, gan ystyried sut gallai amodau amgylcheddol effeithio ar hyn

14.  gwneud yn siŵr bod yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau gofynnol ar gael

15.  dewis yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau mwyaf priodol ar gyfer y gwaith gan ystyried ffactorau fel risg, mynediad, amser ac amodau amgylcheddol

16.  gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol sydd ei angen ar gyfer safle'r gwaith, amodau amgylcheddol, y dull a'r cyfarpar a ddefnyddir.

17.  gwneud yn siŵr bod y mannau lle cynhelir y gwaith yn ddiogel ac ar gael ar gyfer y cyfarpar a'r peiriannau a ddefnyddir

18.  dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag unrhyw eiddo coll neu eitemau sydd wedi'u gadael

Cyflawni eich dyletswyddau glanhau

19.  asesu effaith bosibl amodau amgylcheddol ar eich gwaith

20.  cyflawni'r tasgau mewn trefn resymegol gan wneud yn siŵr nad yw'r mannau o'ch cwmpas wedi'u heffeithio'n andwyol

21.  defnyddio'r dull glanhau priodol gan ddibynnu ar y man gwaith a natur y gwaith

22.  gwneud yn siŵr nad yw eich gwaith yn rhwystro, tarfu neu'n peri niwsans i'r cyhoedd

23.  addasu eich ffordd o weithio yn ôl yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau a ddefnyddir ac i gyd-fynd â ffactorau eraill fel amodau amgylcheddol neu'r tywydd

24.  nodi a rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am unrhyw anawsterau wrth wneud eich gwaith ac unrhyw waith ychwanegol angenrheidiol nad ydych yn gyfrifol amdano

25.  hysbysu'r aelod staff perthnasol am unrhyw ddifrod damweiniol a achosir wrth wneud y gwaith a mynd i'r afael â'r difrod o dan sylw

26.  mynd â'r offer, cyfarpar a'r peiriannau yr ydych wedi'u defnyddio yn ôl i'r man penodedig a gwneud yn siŵr eu bod yn lân, yn ddiogel ac wedi'u storio'n ofalus

27.  rhoi cyfarpar a deunyddiau newydd yn lle'r hen rai a threfnu'r deunyddiau ychwanegol, pan fo angen

28.  rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol pan mae angen trwsio'r offer a'r peiriannau

Rheoli'r risg o haint

29.  dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

30.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

31.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

32.  defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol

33.  defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau

34.  dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

35.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

36.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

37.  golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad

38.  gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau

5.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

6.      sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau

7.      gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel

8.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

9.      sut i wneud yn siŵr bod y cyfarpar yn ddiogel i'w ddefnyddio

10.  pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

Eich gweithgareddau gwaith

11.  y trwyddedau a'r gwiriadau gofynnol ar gyfer gwneud eich gwaith

12.  y lleoliad lle caiff y gwaith ei wneud a'r ffordd orau o fynd i'r man gwaith

13.  safonau sgiliau, cymhwysedd a hylendid personol eich sefydliad a pham mae'n bwysig bodloni'r rhain

14.  sut i archwilio'r man gwaith er mwyn asesu pa waith sydd ei angen a'r ffordd orau o'i wneud, gan ystyried amodau amgylcheddol yn ogystal â mynediad i'r cyhoedd, lle bo'n berthnasol

15.  sut gallai amodau amgylcheddol a'r tywydd effeithio ar y gwaith i'w wneud

16.  y cyfarpar, y peiriannau a'r deunyddiau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer y maes gwaith

17.  pa ddulliau a deunyddiau fydd fwyaf effeithiol er mwyn gwneud y gwaith gofynnol a'r adnoddau amgen sydd ar gael

18.  sut i fynd i'r man gwaith heb achosi anaf neu ddifrod

19.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag unrhyw eiddo coll ac eitemau sydd wedi'u gadael a pham y dylid dilyn y rhain

Cyflawni eich dyletswyddau glanhau

20.  sut gallai amodau amgylcheddol effeithio ar berfformiad cyfarpar a pheirannau a ffactorau eraill, fel amser sychu

21.  y dulliau cywir o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau a ddewisir

22.  goblygiadau defnyddio deunyddiau anghywir neu anaddas neu beidio â dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

23.  pam y gallai fod angen i chi newid eich dulliau i gyd-fynd ag amodau amgylcheddol, y gwaith gofynnol a'r cyfarpar sydd ar gael

24.  y dulliau a'r technegau a allai rwystro neu beri niwsans i'r cyhoedd a sut i osgoi hyn

25.  pam mae'n bwysig asesu ansawdd eich gwaith wrth i chi fynd yn eich blaen

26.  y tasgau y mae gennych y sgil i'w cyflawni ac sydd angen i chi eu cwblhau

27.  yr aelod staff perthnasol sydd i gael gwybod am unrhyw anawsterau wrth wneud eich gwaith

28.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â difrod damweiniol a rhoi gwybod amdano

29.  y mannau storio ar gyfer dychwelyd eiddo, deunyddiau a pheiriannau a pham y dylid eu cadw'n lân ac yn ddiogel

30.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cael cyfarpar a deunyddiau newydd i gymryd lle'r hen rai a chael rhai ychwanegol

Rheoli'r risg o haint

31.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

32.  pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad

33.  y gweithdrefnau manwl o ran glanhau a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

34.  y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

35.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

36.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

37.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

38.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

39.  hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC206

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

glân, cynnal, arwynebau, mannau, offer, peiriannau, iechyd a diogelwch, amgylchedd, tywydd, amodau