Defnyddio cyfarpar glanhau trydanol neu wedi’i bweru gan fatri ar gyfer ystod o arwynebau

URN: INSC004
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau glanhau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar. Mae’n ymwneud â defnyddio cyfarpar glanhau trydanol neu wedi’i bweru gan fatri ar gyfer ystod o arwynebau. Mae ar gyfer glanhawyr sy’n gorfod gwneud yn siŵr bod cyfarpar trydanol neu sydd wedi’i bweru gan fatri yn addas i’r diben ac yn ddiogel i’w ddefnyddio. Gall fod yn unrhyw fath o gyfarpar trydanol neu sy’n cael ei bweru gan fatri gan gynnwys glanhawyr sugno, glanhawyr chwistrellu a byfferau tro i lanhau lloriau, ond gall gynnwys nifer o rai eraill. Yn y cyd-destun hwn, diffinnir cyfarpar trydanol fel unrhyw gyfarpar sydd â chordyn neu gebl, ac sy’n gysylltiedig drwy blwg â soced pŵer. Nid oes gan gyfarpar sy’n cael ei bweru gan fatri gordyn. Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer glanhau amrywiaeth o arwynebau ac mae wedi’i pharatoi ar gyfer glanhawyr. Mae’n addas ar gyfer glanhau dodrefn, darnau gosod ar y llawr a gosodiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

9.      gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir

Defnyddio cyfarpar

10.  defnyddio cyfarpar arbenigol ar gyfer diheintio, gan gynnwys systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV) a dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer ailfynediad

11.  gwneud yn siŵr bod y cyfarpar gofynnol ar gael ar eich cyfer a chynnal y gwiriadau diogelwch perthnasol drwy edrych ar y dyddiad a'r label

12.  awyru'r ardal os oes angen

13.  addasu cyfarpar yn briodol ar gyfer gofynion y dasg ac yn unol â gweithdrefnau iechyd a diogelwch eich sefydliad

14.  gwirio a pharatoi'r arwyneb er mwyn ei lanhau

15.  gwneud yn siŵr nad oes peryglon llithro a baglu yn y man gwaith

16.  gwneud yn siŵr bod y pecyn batri wedi'i wefru yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gweithdrefnau eich sefydliad

17.  gwneud yn siŵr bod cebl neu gordyn y cyfarpar trydanol wedi'i leoli a'i gysylltu'n gywir

18.  defnyddio'r dechneg gywir ar gyfer y cyfarpar o dan sylw

19.  dewis y cynnyrch glanhau priodol i lanhau'r arwyneb

20.  paratoi unrhyw gynhyrchion glanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gweithdrefnau eich sefydliad

21.  gwneud yn siŵr bod sylw'n cael ei roi i bob rhan o'r arwyneb er mwyn glanhau'r ardal gyfan yn drylwyr

22.  gwirio cyflwr yr arwyneb ar ôl glanhau

23.  gwagio unrhyw gynhyrchion glanhau dros ben o'r cyfarpar a'u gwaredu'n ddiogel

24.  glanhau a phrofi'r cyfarpar yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad a'i ddychwelyd i'r man storio

25.  ailosod y man gwaith

Rheoli'r risg o haint

26.  dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

27.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

28.  archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

29.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

30.  defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol

31.  defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau

32.  dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau, dadheintio a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

33.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

34.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

35.  golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad

36.  gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau

5.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

6.      sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau

7.      gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel

8.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

9.      sut i wneud yn siŵr bod y cyfarpar yn ddiogel i'w ddefnyddio

10.  pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

Defnyddio'r offer

11.  sut i ddefnyddio offer arbenigol ar gyfer diheintio gan ddefnyddio systemau niwl, tarth, anwedd ac uwchfioled (UV).

12.  y cyfarpar trydanol neu sy'n cael ei bweru gan fatri sy'n briodol ar gyfer y dasg yr ydych yn ei chyflawni

13.  pam mae'n bwysig awyru'r ardal yn gywir

14.  lleoliad y man gwefru neu'r soced pŵer trydanol

15.  y gwiriadau diogelwch perthnasol ar gyfer cyfarpar

16.  pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad oes peryglon llithro a baglu yn y man gwaith

17.  y cynhyrchion glanhau sy'n briodol ar gyfer gwahanol fathau o arwynebau

18.  y dull cywir o baratoi'r toddiant

19.  sut i addasu'r cyfarpar diogelu yn ddiogel

20.  sut i baratoi'r arwyneb er mwyn ei lanhau

21.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwefru pecynnau batri

22.  y dechneg gywir ar gyfer y cyfarpar

23.  sut i wneud yn siŵr bod pob rhan o'r arwyneb yn cael ei lanhau

24.  sut i archwilio'r arwyneb ar ôl ei lanhau

25.  sut i waredu cynhyrchion glanhau yn ddiogel ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

26.  pam mae'n bwysig glanhau a phrofi cyfarpar cyn ei ddychwelyd i'r man storio

27.  sut i ailosod y man gwaith

Rheoli'r risg o haint

28.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

29.  pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad

30.  y gweithdrefnau manwl o ran glanhau, dadheintio a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

31.  y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

32.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

33.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

34.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

35.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

36.  hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC110

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

cyfarpar glanhau, trydanol, wedi’i bweru gan fatri