Cynnal hylendid personol wrth lanhau

URN: INSC001
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Glanhau a Chefnogi
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 23 Rhag 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn rhan o'r maes cymhwysedd sy'n ymwneud â gweithio o fewn gweithdrefnau dynodedig, ac iechyd a diogelwch. Mae'n ymwneud â chynnal hylendid personol wrth lanhau. Mae ar gyfer glanhawyr a ddylai bob amser gadw eu hunain a'r mannau gwaith yn hylan, yn lân ac yn daclus wrth reoli'r risg o haint. Mae'r safon hefyd yn ymwneud â defnyddio cyfarpar diogelu, a'i waredu yn dibynnu ar y tasgau rydych chi'n eu cyflawni.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi a diogelu

1.      cynnal gwiriadau iechyd a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      dilyn gofynion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      cymryd y camau perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      gwneud yn siŵr bod yr holl gynhyrchion a'r cyfarpar diogelu gofynnol ar gael

5.      gwisgo'r cyfarpar diogelu perthnasol wrth lanhau

6.      dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ailddefnyddio cyfarpar diogelu neu ei waredu

7.      gwneud yn siŵr bod systemau gwaith a gofynion diogel yn cael eu dilyn

8.      dewis y cyfarpar côd lliw priodol

9.      gwneud yn siŵr bod unrhyw arwyddion perthnasol am iechyd a rhybuddion wedi'u harddangos yn glir

10.  gwneud yn siŵr bod y man gwaith wedi'i awyru fel nad oes llwch a mygdarthau cemegol yn mynd yno

Diogelu

11.  gwisgo dillad ac esgidiau glân

12.  defnyddio'r cyfarpar diogelu yn unol â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch perthnasol gan ddibynnu ar y tasgau rydych yn eu cyflawni

13.  gwneud yn siŵr bod y cyfarpar diogelu wedi'i labelu'n glir yn unol â'r rheoliadau perthnasol

14.  dewis y cyfarpar diogelu priodol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ac arweiniad a gweithdrefnau eich sefydliad

15.  gwneud yn siŵr bod y cyfarpar diogel yr ydych yn ei ddefnyddio yn lân ac yn briodol i'w ddefnyddio a'i newid yn unol ag arweiniad a gweithdrefnau eich sefydliad

16.  gwneud yn siŵr bod y cyfarpar diogelu wrth gefn ar gael, pan fo angen

17.  gwaredu'r cyfarpar diogelu sydd wedi'i ddefnyddio yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Hylendid personol

18.  cynnal hylendid personol drwy gadw eich gwallt, eich croen a'ch ewinedd yn lân

19.  dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer golchi eich dwylo ar adegau priodol

20.  defnyddio'r cynhyrchion gofal croen perthnasol er mwyn atal anhwylderau croen galwedigaethol

21.  rhoi gwybod i'r aelod staff perthnasol am doriadau o'r croen, crafiadau a salwch stumog

22.  gwneud yn siŵr bod rhwymynnau priodol yn cael eu rhoi ar doriadau i'r croen, crafiadau neu gyflyrau croen

23.  dilyn arweiniad a gweithdrefnau perthnasol eich sefydliad ynglŷn â'r math o emwaith ac ategolion y gellir eu gwisgo

Rheoli'r risg o haint

24.  dilyn gofynion eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint yn y gweithle

25.  dilyn y gweithdrefnau glanhau yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

26.  archwilio mannau i'w glanhau a nodi unrhyw fannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

27.  glanhau yn unol â'r amserlen waith a pha mor aml y mae hynny'n ofynnol yn dibynnu ar ganlyniadau asesiad risg

28.  defnyddio cynhyrchion glanhau gan gynnwys toddiannau glanhau arbenigol, cemegau gwrthfacterol a gwrthfeirysol

29.  defnyddio cyfarpar glanhau tafladwy fel bod llai o feirysau'n cael eu llwytho yn y mannau sy'n cael eu glanhau

30.  dilyn y gweithdrefnau manwl o ran glanhau, dadheintio a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

31.  gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau diogelwch penodedig

32.  glanhau a diheintio cyfarpar glanhau y gellir ei ailddefnyddio

33.  golchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr ac yn ddiogel yn unol â gofynion y sefydliad

34.  gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau golchi dwylo yn cael cyflenwad digonol o doddiant golchi, geliau diheintio a dull hylan o sychu dwylo


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi a diogelu

1.      y gwiriadau iechyd a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel

2.      egwyddorion asesu risg deinamig eich sefydliad yn y gweithle

3.      y camau gweithredu perthnasol yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiadau risg a gynhaliwyd

4.      y cynhyrchion a'r cyfarpar diogelu ar gyfer glanhau a rheoli heintiau

5.      sut i ailddefnyddio'r cyfarpar diogelu neu ei waredu yn unol â gweithdrefnau diogelwch eich sefydliad

6.      gofynion y sefydliad ar gyfer systemau gwaith diogel

7.      sut a ble i arddangos yr arwyddion diogelwch a rheoli heintiau perthnasol mewn mannau glanhau

8.      gofynion eich sefydliad ar gyfer lleihau'r risg o haint wrth weithio ar safle

9.      pam mae'n bwysig dewis y cyfarpar côd lliw cywir, a sut i'w ddefnyddio

10.  pam mae'n bwysig gweithio mewn man sydd wedi'i awyru

Diogelu

11.  y mathau perthnasol o gyfarpar diogelu a sut i gael gafael arnynt

12.  sut i ddefnyddio cyfarpar diogelu perthnasol yn dibynnu ar y tasgau yr ydych yn eu cyflawni

13.  sut dylai cyfarpar diogelu gael ei wirio, ei ddewis a'i labelu a pham y dylai gael ei wisgo

14.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer storio'r cyfarpar diogelu a'i gadw'n lân

15.  sut i waredu cyfarpar diogelu a ddefnyddiwyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Hylendid personol

16.  pam mae angen defnyddio'r cynhyrchion gofal croen perthnasol a'u defnyddio'n rheolaidd

17.  pam mae'n bwysig dilyn gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer golchi eich dwylo ar yr holl adegau priodol

18.  pam mae'n bwysig hysbysu'r aelod staff perthnasol am salwch a heintiau, yn enwedig salwch stumog

19.  pam mae'n bwysig cynnal hylendid personol drwy gadw eich gwallt, eich croen a'ch ewinedd yn lân

20.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am doriadau i'r croen, crafiadau, cyflyrau croen, salwch neu heintiau

21.  pam mae gwisgo gemwaith ac ategolion eraill yn gallu peryglu hylendid personol ac amgylcheddol

22.  y risgiau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â'r tasgau rydych yn eu cyflawni

Rheoli'r risg o haint

23.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer lliniaru'r risg o haint

24.  pa mor aml y mae angen gwneud gwaith glanhau arferol mewn mannau cymunedol, cyfleusterau a mannau lle ceir llawer o gysylltiad

25.  y gweithdrefnau manwl o ran glanhau, dadheintio a diheintio ar gyfer halogiad feirysol a amheuir neu a gadarnhawyd

26.  y mannau i'w glanhau a sut i nodi mannau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml

27.  yr ystod o gynhyrchion glanhau arbenigol a sut i'w defnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol

28.  y gweithdrefnau glanhau i'w dilyn, yn dibynnu ar yr amgylchedd a'r risgiau a nodwyd

29.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer glanhau a diheintio cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio

30.  gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwaredu cyfarpar glanhau a diogelu sydd wedi'u defnyddio

31.  hyd y gweithdrefnau golchi dwylo ar ôl tynnu'r cyfarpar diogelu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

ASTC102

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Menter manwerthu a masnachol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Gweithrediadau Gwasanaethau Glanhau, Gweithrediadau Cynorthwyo Glanhau, Mentrau gwasanaethau

Cod SOC

9223

Geiriau Allweddol

Hylendid personol, glanhau, glân, cyfarpar diogelu personol, PPE