Cynllunio a rheoli menter

URN: INSBE055
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer intrapreneuriaid sy'n cynllunio ac yn rheoli menter. I wneud hyn mae angen i chi gynllunio menter o'r syniad cychwynnol a rheoli'r sefydliad. Mae'n golygu ennill ymrwymiad gan eraill, sicrhau bod aelodau'r tîm yn cyfathrebu i symud y syniad yn ei flaen, cynllunio a defnyddio adnoddau, adolygu perfformiad aelodau'r tîm wrth ddatblygu a chyflawni'r fenter a chynorthwyo datblygiad aelodau eraill yn y tîm i fynd i'r afael â meysydd lle gwelir tanberfformio. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol, rhagweithiol a pharhaus i'r fenter.

At ddibenion y safon hon, gall 'sefydliad' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, awdurdod lleol, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau sefydliad neu fwy yn cydweithio tuag at nodau cyffredin. Mae 'menter' yn cyfeirio at syniad am weithgaredd, datblygiad neu brosiect newydd fydd yn gwneud gwahaniaeth i berfformiad economaidd a/neu gymdeithasol y sefydliad. Mae 'amgylchedd busnes' yn cyfeirio at amgylchedd allanol a mewnol y sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael ymrwymiad gan gydweithwyr a rhanddeiliaid ar gyfer rheoli'r gwaith o gyflwyno'r fenter
  2. cadarnhau'r adnoddau staff ar gyfer helpu i ddatblygu'r fenter a'i chyflwyno
  3. trefnu'r adnoddau ariannol a'r adnoddau eraill sydd eu hangen i ddatblygu'r fenter a'i chyflwyno
  4. cyfrifo'r cyllid sydd ei angen a'r incwm a'r gwariant posibl sy'n gysylltiedig â'r fenter
  5. cael adborth gan gydweithwyr yn y sefydliad ynghylch datblygiad y fenter
  6. datblygu cynllun a fydd yn sail i gyflwyno'r fenter a'i gadarnhau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
  7. cytuno ar ddulliau allweddol o fesur llwyddiant gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
  8. asesu heriau i gyflawni'r fenter a strategaethau i fynd i'r afael â'r heriau hyn
  9. gwneud yn siŵr bod aelodau'r tîm yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni gweledigaeth a nodau'r fenter
  10. cyfrifo perfformiad ariannol y fenter gan ddefnyddio'r dangosyddion y cytunwyd arnynt
  11. adolygu perfformiad cydweithwyr wrth gyflwyno'r fenter
  12. adolygu perfformiad personol wrth gyflwyno'r fenter
  13. cael adborth gan gydweithwyr yn y sefydliad am gyflwyno'r fenter
  14. gwerthuso'r goblygiadau i'r strwythurau trefniadol wrth symud y fenter yn ei blaen
  15. adolygu dylanwadau mewnol ar gynaliadwyedd y fenter a chytuno ar gamau gweithredu yn y dyfodol gyda rhanddeiliaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ffyrdd o fynd ati i reoli menter mewn sefydliad
  2. manteision ac anfanteision y gwahanol ddulliau hyn
  3. y manteision a'r heriau sy'n gysylltiedig â defnyddio cydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad wrth reoli menter mewn sefydliad
  4. pam mae'n bwysig cael ymrwymiad gan gydweithwyr a rhanddeiliaid ar gyfer datblygu'r fenter a'u chyflwyno
  5. y sianelau cyfathrebu rhwng cydweithwyr wrth reoli'r fenter a sut i'w defnyddio'n effeithiol
  6. strwythur a dull cyflwyno cynllun ar gyfer ennill ymrwymiad cydweithwyr mewn perthynas â defnyddio a chaffael adnoddau
  7. staff mewnol y sefydliad a rhanddeiliaid allanol ar gyfer caffael a defnyddio adnoddau
  8. sut i adolygu perfformiad cydweithwyr wrth ddatblygu'r fenter a'i chyflwyno
  9. y dulliau mesur perfformiad cydweithwyr wrth ddatblygu menter a'i chyflwyno
  10. y dangosyddion ar gyfer mesur perfformiad ariannol y fenter yn y sefydliad
  11. sut i gyfrifo perfformiad ariannol y fenter
  12. sut i wella perfformiad y fenter o ran ei chanlyniadau drwy fonitro ac adolygu ei chyllid
  13. y dulliau casglu adborth ynghylch datblygu'r fenter a'i chyflwyno
  14. pam mae'n bwysig adolygu perfformiad personol wrth ddatblygu'r fenter a'i chyflwyno
  15. y dulliau cynorthwyo datblygiad personol a datblygiad staff mewn perthynas â sicrhau bod y fenter yn cael ei chyflwyno yn erbyn y weledigaeth a'r nodau y cytunwyd arnynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAENTP&DB4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

gweledigaeth; nodau; menter