Datblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer menter

URN: INSBE054
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer intrapreneuriaid sy'n datblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer menter. Mae angen i chi ddatblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer menter newydd yn y sefydliad er mwyn symud ymlaen â'r gwaith o'i datblygu a'i chyflwyno. Mae'n cynnwys myfyrio ar nodau a gwerthoedd personol, alinio'r rhain â blaenoriaethau'r busnes ac asesu pa mor agored yw'r sefydliad i ymateb yn fentrus i gefnogi datblygiad y fenter. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol, rhagweithiol a pharhaus i'r fenter.

At ddibenion y safon hon, gall 'sefydliad' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, awdurdod lleol, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau sefydliad neu fwy yn cydweithio tuag at nodau cyffredin. Mae 'menter' yn cyfeirio at syniad am weithgaredd, datblygiad neu brosiect newydd fydd yn gwneud gwahaniaeth i berfformiad economaidd a/neu gymdeithasol y sefydliad. Mae 'amgylchedd busnes' yn cyfeirio at amgylchedd allanol a mewnol y sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymchwilio i'r amgylchedd busnes i archwilio cyfleoedd i'r fenter wneud gwahaniaeth i'r sefydliad
  2. diffinio eich gweledigaeth bersonol a'ch nodau ar gyfer y fenter newydd
  3. diffinio gweledigaeth a nodau sefydliadol sy'n cyd-fynd â'ch blaenoriaethau, eich nodau a'ch gwerthoedd chi a'ch sefydliad
  4. cyflwyno syniadau yn anffurfiol i gydweithwyr a rhanddeiliaid
  5. sicrhau cefnogaeth cydweithwyr a rhanddeiliaid ar gyfer gweledigaeth a nodau'r fenter
  6. nodi opsiynau ar gyfer cyflawni gweledigaeth a nodau'r fenter newydd
  7. dadansoddi'r opsiynau i ddewis yr un gorau
  8. gwerthuso effaith debygol perfformiad y sefydliad ar hyn o bryd ar eich gweledigaeth a'ch nodau ar gyfer y fenter newydd
  9. asesu'r adnoddau o fewn y sefydliad i helpu'r datblygiad y fenter a'i chyflwyno
  10. datblygu achos busnes i ymrwymo adnoddau sy'n amlygu'r manteision i'r sefydliad os cyflawnir gweledigaeth a nodau'r fenter newydd
  11. defnyddio eich nodau a'ch gwerthoedd eich hun i gael cefnogaeth gan gydweithwyr eraill i symud y fenter newydd yn ei blaen
  12. llunio cynllun i roi'r fenter newydd ar waith
  13. nodi'r rhwystrau a'r heriau a allai effeithio ar y fenter newydd
  14. nodi offer monitro a gwerthuso cyflawniad y weledigaeth a'r nodau a amlinellwyd ar gyfer y fenter newydd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ffyrdd o alinio gweledigaeth a nodau personol ar gyfer y fenter newydd â rhai'r sefydliad
  2. sut i ddiffinio datganiad gweledigaeth ar gyfer y fenter newydd
  3. pam mae'n bwysig cael cefnogaeth cydweithwyr a rhanddeiliaid wrth ddatblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer y fenter newydd
  4. y dulliau anffurfiol o gyflwyno'r syniadau sy'n ymwneud â'r weledigaeth a'r nodau a nodwyd ar gyfer y fenter newydd o fewn sefydliad
  5. sut i gyflwyno'r manteision sy'n gysylltiedig â'r fenter newydd i ennill ymrwymiad cydweithwyr a rhanddeiliaid o fewn y sefydliad
  6. yr offer ar gyfer mesur perfformiad y sefydliad ar hyn o bryd a'r manteision a'r anfanteision cysylltiedig
  7. y systemau monitro ac adolygu i nodi cynnydd tuag at weledigaeth a nodau'r fenter newydd
  8. yr adnoddau sydd ar gael o fewn y sefydliad i roi sylfaen ar gyfer datblygu gweledigaeth a nodau ar gyfer y fenter newydd
  9. y dulliau ar gyfer marchnata a chyfleu gweledigaeth a nodau'r fenter newydd i gydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol
  10. sut i lunio cynllun sy'n amlygu'r gweithgareddau a'r cerrig milltir sydd eu hangen i gyflawni'r weledigaeth a'r nodau ar gyfer y fenter newydd
  11. goblygiadau'r fenter ar gyfer prosesau a systemau gweithredol yn y sefydliad
  12. sut gallai ffyrdd o waith sydd wedi ennill eu plwyf yn y sefydliad greu rhwystrau a heriau i lwyddiant y fenter newydd
  13. y strategaethau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag unrhyw heriau a chyfleoedd mewn perthynas â gweledigaeth a nodau'r fenter newydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAENTI&TA5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

gweledigaeth; nodau; menter