Cydweithio â rhanddeiliaid menter

URN: INSBE053
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer intrapreneuriaid sy'n cydweithio â rhanddeiliaid menter. Gyda menter newydd mae angen i chi nodi gwahanol grwpiau o randdeiliaid i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu'r busnes a'i gyflwyno. Mae'n golygu mabwysiadu ymagwedd drefnus a gwrthrychol at nodi anghenion rhanddeiliaid, o fewn a thu allan i'r sefydliad, gan ddadansoddi eu hanghenion a gweithio trwy ymatebion i fynd i'r afael â'r anghenion hyn. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol, rhagweithiol a pharhaus i'r fenter.

Gall 'sefydliad' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, awdurdod lleol, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau sefydliad neu fwy yn cydweithio tuag at nodau cyffredin. Mae 'menter' yn cyfeirio at syniad am weithgaredd, datblygiad neu brosiect newydd fydd yn gwneud gwahaniaeth i berfformiad economaidd a/neu gymdeithasol y sefydliad. Mae 'amgylchedd busnes' yn cyfeirio at amgylchedd allanol a mewnol y sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi rhanddeiliaid a'u hanghenion mewn perthynas â chyflawni'r fenter
  2. nodi'r mathau o ddylanwad y gall rhanddeiliaid mewnol ac allanol ei gael ar gyflwyno'r fenter
  3. ymgynghori â rhanddeiliaid i ddadansoddi eu hanghenion mewn perthynas â chyfleoedd y fenter
  4. nodi unrhyw wrthdaro posibl mewn buddiannau rhwng gwahanol grwpiau o randdeiliaid
  5. rheoli pob gwrthdaro mewn buddiannau â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol
  6. defnyddio gwahanol ffyrdd o brofi hyfywedd y fenter arfaethedig wrth fynd i'r afael ag anghenion rhanddeiliaid
  7. ymgynghori â chydweithwyr i werthuso perfformiad y timau yn y sefydliad ar hyn o bryd a'r gallu i gefnogi'r fenter
  8. ceisio cyngor ac arweiniad gan aelodau staff eraill y sefydliad a'i ddefnyddio
  9. diffinio meini prawf i fesur cyfraniad y fenter
  10. adolygu cyfraniad y fenter at flaenoriaethau a nodau'r sefydliad
  11. nodi a datrys gwahanol heriau mewnol ac allanol i fynd i'r afael ag anghenion drwy'r fenter
  12. adolygu sut mae'r fenter wedi'i derbyn o fewn y sefydliad
  13. nodi ac adolygu'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw fylchau a nodwyd o ran adnoddau a chytuno ar gamau gweithredu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pam mae'n bwysig nodi a deall anghenion cydweithwyr yn y sefydliad
  2. sut i ddatblygu offer i ymgynghori ag aelodau staff eraill ynghylch anghenion y sefydliad a grwpiau o randdeiliaid allweddol
  3. dulliau dadansoddi anghenion gwahanol grwpiau o randdeiliaid mewnol ac allanol
  4. sut i ymgynghori â rhanddeiliaid i nodi eu hanghenion gan y sefydliad
  5. sut i adolygu a dadansoddi perfformiad y sefydliad ar hyn o bryd wrth ymgysylltu â grwpiau mewnol ac allanol o randdeiliaid
  6. y gwahanol gamau yn y broses o ddadansoddi anghenion rhanddeiliaid
  7. y polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer rheoli gwrthdaro mewn buddiannau
  8. ffynonellau cyngor ac arweiniad mewnol er mwyn deall y canlyniadau o'r dadansoddiad o anghenion a nodwyd
  9. pam mae'n bwysig ystyried y dylanwadau a'r blaenoriaethau a roddir mewn gwahanol rannau o'r sefydliad
  10. y dulliau mesur sy'n adolygu i ba raddau y bydd yr anghenion yn cael eu diwallu gan y fenter newydd a sut i'w defnyddio
  11. y gwahanol fathau o anghenion a fynegir gan gydweithwyr a rhanddeiliaid y sefydliad
  12. dylanwadau aelodau staff unigol ar anghenion y sefydliad
  13. sut i ddeall effaith gwahanol heriau a rhwystrau ar weithredu'r fenter, gan gynnwys adnoddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAENTI&TA4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

rhanddeiliaid; menter; anghenion