Rheoli amser yn eich busnes
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n rheoli amser yn eu busnes. Mae'n fwy na phosibl eich bod chi'n teimlo bod gormod o bethau i'w gwneud, a dim digon o amser i wneud y rhain. Efallai bod angen i chi edrych ar sut rydych chi'n rheoli eich amser eich hun a phenderfynu sut i wneud pethau'n fwy effeithlon. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu dull adolygu sut rydych yn rheoli eich amser er mwyn i chi allu gosod nodau newydd a chydnabod eich cyflawniadau. Mae rheoli amser yn eich busnes yn cynnwys casglu'r holl weithgareddau a sut rydych chi'n eu rheoli, cyfrifo pa mor hir y mae gwahanol weithgareddau'n eu cymryd, cynllunio'ch gwaith o ddydd i ddydd, monitro sut rydych yn rheoli eich amser a cheisio dod o hyd i ffyrdd eraill o weithio, lle bo angen.
Gallech wneud hyn os ydych yn:
teimlo nad oes gennych ddigon o amser i wneud yr holl bethau y mae angen i chi eu gwneud;
cael trafferth gwneud cynlluniau ar gyfer eich gwaith a chadw atynt;
awyddus i gael ymdeimlad o gyflawniad o'r hyn rydych chi'n ei wneud.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diffinio pob gweithgaredd ar gyfer eich diwrnod gwaith nodweddiadol
- nodi'r gweithgareddau y gellir eu dirprwyo i staff a phobl eraill
- asesu eich cryfderau a'ch gwendidau yn erbyn y gweithgareddau nodweddiadol sy'n rhan o'ch swydd
- monitro os bydd eich tasgau neu'ch gweithgareddau arfaethedig yn cael eu cwblhau
- trefnu eich tasgau a'ch gweithgareddau ar sail pwysigrwydd o gymharu â brys
- dyrannu'r tasgau a'r gweithgareddau ar sail eu terfynau amser tymor byr, tymor canolig a thymor hir
- nodi unrhyw is-dasgau a cherrig milltir sydd eu hangen ar gyfer cyflawni tasgau mwy
- nodi unrhyw beth a allai eich rhwystro rhag cyflawni'r hyn rydych chi'n disgwyl ei wneud
- nodi tasgau sy'n gwneud i chi deimlo'n dda am eich gwaith
- dadansoddi'r dulliau mwyaf cost-effeithiol o gyflawni gweithgareddau eich busnes
- penderfynu sut y gallwch chi ddefnyddio'ch cryfderau a'ch gwendidau i'ch mantais eich hun
- nodi sut y gallech chi wella eich arferion a'ch gweithdrefnau
- dathlu llwyddiannau a gwelliannau yr ydych chi wedi'u nodi
- penderfynu beth i'w ddirprwyo i staff a phobl eraill
- cynllunio newidiadau i'r ffordd rydych chi'n cyflawni eich gwaith i reoli amser eich gwell
- monitro arferion eich gwaith a'ch gweithdrefnau'n rheolaidd a chymryd camau perthnasol lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Eich perfformiad
1. targedau ac amcanion eich perfformiad personol
2. eich cryfderau a'ch gwendidau o ran gwahanol rannau o'ch swydd
3. sut i gynllunio eich diwrnod gwaith, wythnos, mis, blwyddyn, blynyddoedd i ddod
4. sut i ddosbarthu eich tasgau a'ch gweithgareddau ar sail cyfnodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir
5. pam mae angen i chi sefydlu'r terfynau amser ar gyfer eich tasgau a'ch gweithgareddau
6. sut i gwrdd â therfynau amser neu ail-drefnu'r rhain, lle bo angen
7. sut i gadw golwg ar yr holl dasgau a gweithgareddau sy'n rhan o'ch busnes
8. sut i ddyrannu lefelau blaenoriaeth ar gyfer y tasgau a'r gweithgareddau
9. sut i asesu blaenoriaethau drwy ystyried pwysigrwydd tasgau o gymharu â pha mor frys ydynt
10. sut i fonitro eich perfformiad eich hun a cymryd camau i fynd i'r afael â gwendidau neu fethiannau pan mae'r rhain yn digwydd
11. eich llwyddiannau, fel cwrdd â dyddiad cau, gorffen darn o waith, cwblhau gwerthiant, cael canmoliaeth gan gwsmer
12. eich cryfderau a'ch gwendidau personol wrth reoli amser
13. yr hyn sy'n eich rhwystro rhag cyrraedd y targedau neu lwyth gwaith arfaethedig
14. pam mae angen i chi fonitro eich arferion gwaith a'ch gweithdrefnau yn rheolaidd
Rheoli eich amser
15. dulliau cynllunio eich llwyth gwaith, megis gosod targedau tymor byr a thymor hir, rhannu gweithgareddau'n is-dasgau llai, monitro'r amser a gymerwyd i gwblhau
16. y technegau arbed amser, megis gwneud y gorau o gyfarfodydd a chyfathrebu, lleihau ymyrraeth, dirprwyo tasgau i bobl eraill
17. y wybodaeth i'w defnyddio i wneud penderfyniadau ynglŷn â rheoli amser
18. sut i nodi eich gwelliannau eich hun
19. sut i fesur yr amser a gymerir i gwblhau tasgau a gweithgareddau penodol