Gwerthuso ansawdd eich arferion eich hun o ran cymorth busnes a menter
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n gwerthuso ansawdd eu harferion eu hunain o ran cymorth busnes a menter. Fe'i hargymhellir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi cymorth i unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain a rhedeg busnesau presennol, naill ai ar sail wirfoddol neu fasnachol. Mae angen hyn arnoch i fyfyrio ar eich arferion eich hun, a'u gwerthuso, i wneud yn siŵr eich bod yn darparu cefnogaeth sy'n ychwanegu gwerth at ddatblygiad personol a busnes y cleient. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i chi fonitro eich arferion eich hun yn barhaus, gofyn am adborth gan eraill a nodi ymatebion i unrhyw feysydd a nodwyd y gallech eu datblygu.
Mae cymorth busnes yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion neu sefydliadau y tu allan i'r busnes, sy'n gysylltiedig â phroblem neu gyfle penodol yn ymwneud â'r busnes, neu ddatblygiad y busnes. Mae cymorth menter yn cyfeirio at gymorth a gaiff unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain. Gall 'busnes' olygu endid annibynnol megis busnes sector preifat, menter gymdeithasol, sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu uned weithredu sylweddol, gyda gradd gymharol o ymreolaeth, o fewn sefydliad mwy. Gall hefyd gyfeirio at bartneriaeth ffurfiol lle mae dau neu fwy o fusnesau'n gweithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu'r modd y darperir y gwasanaethau cymorth yn erbyn y rhaglen weithredu y cytunwyd arni gyda'r cleientiaid
- rhoi gwybod i'r cleientiaid sut byddwch yn darparu gwasanaethau cymorth busnes a menter
- nodi'r gwelliannau y mae angen eu gwneud
- cyflwyno'r dulliau datrys problemau
- cytuno ar y cynlluniau gwaith gyda'r cleientiaid
- asesu effaith a gwerth ychwanegol eich gwaith gyda'r cleient ar lefel bersonol a busnes
- dadansoddi achosion unrhyw newidiadau yn erbyn amcanion neu gerrig milltir y cytunwyd arnynt a goblygiadau'r newidiadau hyn
- datblygu eich arferion i ystyried unrhyw newidiadau yn eich perthynas â'r cleient
- dilyn y daith o nodi'r cyfle i gymryd camau
- monitro eich arferion i wneud yn siŵr eu bod yn broffesiynol ac yn foesegol
- gwneud yn siŵr bod eich arferion gwaith yn bodloni'r safonau gan gyrff proffesiynol priodol, rheoliadau a chanllawiau sefydliadol, lle bo angen
- cael adborth ar eich perfformiad gan eich cleientiaid a'ch rhanddeiliaid
- nodi'r gwelliannau yn eich arferion gwaith gyda'r cleientiaid sydd gennych ar hyn o bryd a chleientiaid y dyfodol
- cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Monitro eich perfformiad eich hun
1. pam mae'n bwysig gwerthuso eich perfformiad eich hun wrth ddarparu gwasanaethau cefnogi busnes a menter
2. sut i ddefnyddio ffyrdd anffurfiol a ffurfiol o fonitro cynnydd ac ansawdd eich arferion eich hun yn erbyn safonau a osodir gennych chi, eich sefydliad neu gorff proffesiynol
3. y dulliau sefydlu a chymhwyso dulliau mesur ffurfiannol a chrynodol ar gyfer gwerthuso eich perfformiad eich hun
4. manteision a chyfyngiadau hunanwerthuso
5. ble a sut i gael adborth ar eich perfformiad
6. sut gall eich cleientiaid a'u hanghenion personol a busnes effeithio ar eich perfformiad
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
7. amrywiaeth y cleientiaid a'u sgiliau, galluoedd ac anghenion unigol
8. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol
Dylanwadau sefydliadol
9. y nodau perfformiad a bennir gan eich sefydliad neu gorff proffesiynol
10. y canllawiau ar gyfer gwerthuso gwasanaethau a bennir gan eich sefydliad neu gorff proffesiynol
11. amodau a dulliau mesur darbodusrwydd, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, gwerth am arian ac ansawdd
12. effeithiau terfynau ariannol a therfynau amser ar wasanaethau
13. y blaenoriaethau a'r materion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ym meysydd busnes a menter