Ymgymryd â gwaith bancio ar gyfer eich busnes

URN: INSBE039
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n ymgymryd â gwaith bancio ar gyfer eu busnes. Arian yw anadl einioes unrhyw fusnes. Mae treulio amser ar y dechrau yn trefnu cyllid, a chael cymorth proffesiynol, yn enwedig buddsoddiadau yn eich busnes, yn hanfodol. Un o'r camau cyntaf yw agor cyfrif banc. Mae'n bwysig eich bod yn treulio amser yn ymchwilio i ba un yw'r cyfrif banc gorau i chi a pha gynhyrchion ariannol sy'n diwallu anghenion eich busnes. Mae bancio yn benderfyniad pwysig i'w wneud. Gall defnyddio cynghorwyr arbenigol proffesiynol arbed amser, arian ac egni sy'n cael ei wastraffu. Mae ymgymryd â bancio yn golygu dewis banc addas a'r math o gyfrif, yr opsiynau ar gyfer bancio a gofyn am help proffesiynol pan fydd ei angen arnoch.

Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os:

  1. dechrau busnes

  2. adolygu eich prosesau busnes a'ch trefniadau bancio;

  3. ystyried newid eich cyfrifon banc neu fanciau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi pa gyfleusterau bancio sy'n bwysig i'ch busnes
  2. nodi a blaenoriaethu'r gwasanaethau bancio sydd eu hangen arnoch
  3. ymchwilio i wahanol fanciau, mathau o gyfrifon bancio a busnes
  4. ymchwilio a choladu buddion, cynhyrchion ariannol y mae'r banciau yn eu cynnig, eu gwasanaethau a'r holl gostau cysylltiedig
  5. ymgynghori â chynghorwyr ariannol perthnasol ac arbenigwyr bancio
  6. dewis y banc a'r math o gyfrif sy'n diwallu anghenion penodol eich busnes
  7. nodi'r prosesau a'r gwaith papur sydd eu hangen ar gyfer agor y cyfrif banc
  8. darparu'r dogfennau, y wybodaeth a'r manylion adnabod llofnodwr i agor cyfrif
  9. cael cardiau debyd neu gredyd, os oes angen
  10. penodi'r staff sy'n gyfrifol am ddelio â gweinyddu cyfrifon, os oes angen
  11. sefydlu bancio ar-lein a symudol, os oes angen
  12. penderfynu pwy fydd yn cael mynediad at y cyfrifon a phrosesau llofnodwyr
  13. trefnu gosodiadau diogelwch ar gyfer bancio ar-lein a rheoli cyfrifon
  14. dilyn gweithdrefnau y banciau ar gyfer talu derbynebau, arian parod a sieciau
  15. cael derbynebau priodol gan y banc
  16. gwirio'r cyfriflenni banc yn erbyn eich cyfrifon yn rheolaidd 
  17. storio cofnodion bancio yn ddiogel
  18. adolygu eich cyfrifon banc a sut rydych yn eu gweithredu
  19. ymchwilio i sut i newid i fath gwahanol o gyfrif neu fanc gwahanol, os oes angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich gofynion busnes mewn perthynas â bancio
  2. y cyfleusterau bancio a'r amrywiaeth o opsiynau sy'n bwysig i'ch busnes
  3. sut i nodi anghenion bancio eich busnes a'u blaenoriaethu
  4. ffynonellau gwybodaeth ar gyfer dewis banc addas
  5. y gwahanol fanciau a gwahanol fathau o drefniadau bancio
  6. y gwahanol fathau o gyfrifon ar gyfer eich busnes
  7. manteision ac anfanteision gwahanol fathau o gyfrifon banc
  8. y gofynion cyfreithiol ar gyfer agor cyfrif busnes a'i weithredu
  9. pwy sy'n gyfrifol am weinyddu'r cyfrif a phwy fydd â mynediad ato
  10. y broses ar gyfer rhoi arian yn y banc
  11. y broses ar gyfer tynnu arian o'r banc, gan gynnwys archebu newid, os oes angen
  12. sut i wneud yn siŵr bod cyfriflenni banc â'ch cofnodion cyfrifyddu yn gyson
  13. y cynghorwyr ariannol perthnasol a'r arbenigwyr bancio i ymgynghori â hwy ar yr opsiynau bancio
  14. sut i ddiogelu gwybodaeth eich cyfrif a bancio ar-lein
  15. pam mae'n bwysig storio cofnodion bancio yn ddiogel
  16. pwysigrwydd adolygu eich trefniadau bancio
  17. sut i newid i fath gwahanol o gyfrif neu fanc gwahanol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMN9

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW