Cael cyllid ar gyfer eich busnes

URN: INSBE037
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cael cyllid ar gyfer eu busnes. Efallai y bydd angen i'r busnes godi arian i ddechrau arni, newid cyfeiriad neu fynd trwy gyfnod anodd. Mae gallu cael cyllid ar y telerau cywir pan fydd ei angen yn bwysig ar gyfer nodau hirdymor a goroesiad eich busnes. Mae'n bwysig eich bod yn mynd i'r afael â hyn yn y ffordd gywir p'un a ydych yn benthyg arian gan deulu, ffrindiau neu ffynonellau mwy ffurfiol. Mae cael cyllid yn golygu adolygu gwahanol fathau o gyllid, penderfynu ble ac ar ba delerau ac amodau y byddwch yn gallu cael y cyllid, a monitro sut bydd cael cyllid a'i reoli yn effeithio ar y busnes.

Gallech wneud hyn os ydych yn:

  1. dechrau busnes neu fenter gymdeithasol;

  2. buddsoddi mewn busnes neu fenter gymdeithasol i ddatblygu a chynhyrchu cynhyrchion neu wasanaethau newydd;

  3. profi diffyg dros dro mewn llif arian a allai eich atal rhag masnachu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. diffinio'r nodau o gael cyllid ar gyfer eich busnes
  2. asesu sefyllfa ariannol eich busnes a nodi faint o arian ychwanegol sydd ei angen arno
  3. asesu unrhyw ddatblygiadau yn y farchnad a allai ddylanwadu ar eich penderfyniad i gael cyllid ar gyfer eich busnes
  4. asesu'r costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â chael cyllid a'i reoli, a'r risgiau i'r busnes a chi eich hun
  5. cyfrifo pryd mae angen y cyllid arnoch ar gyfer eich busnes ac o ble
  6. nodi'r gwahanol fathau o gyllid sydd ar gael
  7. dadansoddi costau a manteision pob math o gyllid sydd ar gael
  8. cynnal dadansoddiad risg a datblygu cynlluniau wrth gefn
  9. nodi targedau a therfynau benthyg arian y gallwch eu derbyn
  10. nodi'r sefydliadau neu'r unigolion a allai ddarparu cyllid
  11. dewis y math o gyllid a benthyciwr sy'n diwallu anghenion eich busnes orau
  12. cwblhau cynnig a chyflwyno anghenion ariannol y busnes i'r benthycwyr
  13. nodi'r angen i gael benthyciadau wedi'u gwarantu a sut caiff y rhain eu had-dalu
  14. gwneud yn siŵr y bydd eich elw yn talu am unrhyw ad-daliadau am fenthyciad
  15. cytuno ar amserlenni ad-dalu sy'n diwallu anghenion eich busnes
  16. cadarnhau telerau ac amodau cytundebau ariannol, gan sicrhau eich bod yn deall yn union beth ydynt
  17. ceisio cyngor cyfreithiol neu ariannol gan yr arbenigwyr pan fydd ei angen arnoch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Benthyg arian

1.      nodau cael cyllid ar gyfer eich busnes

2.      pam mae'n bwysig ceisio cyllid ymlaen llaw a nodi pryd y mae ei angen arnoch

3.      y gwahanol fathau o gyllid sydd ar gael a ble i ddod o hyd i wybodaeth amdanynt

4.      manteision benthyg gan deulu neu ffrindiau, fel mewnbwn busnes, morâl a chymorth emosiynol

5.      anfanteision benthyg gan deulu neu ffrindiau, fel dylanwad dros y busnes, pwysau ar berthnasoedd, colli rheolaeth, dibyniaeth, pwysau i gyflogi teulu neu ffrindiau

6.      costau gwahanol fathau o gyllid, megis taliadau llog, taliadau gweinyddol, ffioedd, comisiwn, ecwiti ac enillion cyfalaf, yswiriant, cosbau am ad-dalu'n gynnar, cosbau am fethu â thalu llog a phrif ad-daliadau, gofynion diogelwch a risg, cyfran yn y busnes

7.      manteision gwahanol fathau o gyllid, megis argaeledd cronfeydd, llif arian, buddsoddiad, yr effaith ar fusnes

8.      pam mae'n bwysig ystyried lwfansau treth a chyfalaf wrth asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â chael cyllid ar gyfer y busnes

9.      y risgiau tebygol i fusnes mewn perthynas â benthyg arian, a chanlyniadau posibl

10.  sut i asesu'r risgiau, fel methu ad-dalu'r benthyciad a dyledion eraill, y posibilrwydd o golli rheolaeth neu berchnogaeth o'r busnes

11.  dulliau asesu cyflwr ariannol y busnes o ran elw, llif arian, asedau cyfredol a rhwymedigaethau

Darparwyr cyllid

12.  sut i nodi gwahanol fenthycwyr neu gyllidwyr

13.  sut i gyfrifo a fydd eich elw yn talu am unrhyw ad-daliadau am fenthyciad

14.  sut gall costau amrywio o ganlyniad i newidiadau mewn cyfraddau llog

15.  sut i gyflwyno eich anghenion ariannol i fenthycwyr posibl

16.  y technegau a allai ddwyn perswâd ar fenthycwyr i roi benthyg i chi drwy hyrwyddo eich hun a'ch syniadau mewn ffordd gadarnhaol

17.  y ffyrdd o roi cynnig at ei gilydd

18.  y targedau a'r terfynau ar gyfer cytuno ar delerau gyda benthycwyr

19.  swm y cyllid, rhestr ad-daliadau cyfalaf a llog, y gostyngiadau sydd ar gael, manteision ychwanegol, cyfraddau llog, cadw gwarant mor isel â phosibl, capio cyfraddau llog, ffioedd a thaliadau hwyluso.

20.  y gwarant y gallai fod angen i chi ei roi i fenthycwyr neu gyllidwyr

21.  y gwahaniaethau rhwng benthyciadau a warentir a'r rhai sydd heb eu gwarantu, ac anfanteision gwneud gwarant personol

22.  manteision cofnodi cytundebau ariannol a sut y dylai'r rhain gael eu cofnodi

Gwybodaeth a chyngor

23.  y ffynonellau gwybodaeth am gael cyllid ar gyfer eich busnes

24.  pryd y gallai fod angen cyngor cyfreithiol neu ariannol arnoch


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMN7

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW