Cadw cofnodion ariannol ar gyfer eich busnes

URN: INSBE033
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sy'n cadw cofnodion ariannol ar gyfer eu busnes. Mae angen i chi gadw eich cofnodion ariannol at amrywiaeth o ddibenion. Maent yn bwysig o ran eich helpu i reoli eich cyllid a pharhau i redeg eich busnes. Maent hefyd yn ofynnol i fodloni gofynion cyfreithiol a rheoleiddio mewn cyfraith cwmnïau ac at ddibenion treth. Mae cadw cofnodion ariannol yn cynnwys ymchwilio i wahanol systemau ar gyfer cofnodi a monitro cyllid eich busnes ac adrodd arno, penderfynu pa gofnodion ariannol i'w cadw, sut, pryd ac am ba hyd i'w cadw, a dewis system rheoli cyfrifeg sy'n berthnasol i fformat cyfreithiol eich busnes.

Gallech wneud hyn os ydych yn:

  1. hunangyflogedig;

  2. dechrau busnes neu fenter gymdeithasol newydd;

  3. cymryd drosodd busnes neu fenter gymdeithasol arall;

  4. yn gyfrifol am reoli cyllid mewn busnes neu fenter gymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. coladu pob cofnod ariannol sy'n gysylltiedig â'ch gweithgareddau busnes, asedau a chronfeydd
  2. defnyddio dulliau cyfrifo sy'n berthnasol i statws masnachu eich busnes
  3. dewis system gyfrifo fydd yn darparu datganiadau ariannol addas
  4. cynhyrchu ffurflenni statudol ar gyfer adrodd i'r awdurdodau treth
  5. cynnal cofnodion o ragolygon llif arian, elw a cholledion
  6. sicrhau y bydd y system ariannol yn cynhyrchu cofnodion addas o anfonebu a phrynu
  7. nodi'r systemau a'r prosesau i reoli'r arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan o'ch busnes
  8. rhannu'r wybodaeth gyfrifo ag aelodau staff perthnasol
  9. sicrhau bod yr holl drafodion ariannol wedi'u cofnodi'n gywir
  10. prosesu a storio cofnodion yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth diogelu data
  11. sicrhau bod y systemau diogelwch yn eu lle ar gyfer storio'r cofnodion papur ac electronig
  12. dinistrio unrhyw gofnodion ariannol a dogfennau nad oes angen eu cadw bellach
  13. storio a chadw cofnodion ariannol am y cyfnod gofynnol
  14. sicrhau bod cofnodion ariannol yn cael eu gweinyddu yn unol â gofynion cyfreithiol busnesau
  15. ceisio cyngor technegol a phroffesiynol pan fo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cofnodion ariannol

1.      y cofnodion ariannol sy'n ymwneud â gweithgareddau eich busnes

2.      egwyddorion a gweithdrefnau systemau cyfrifo

3.      y cofnodion am eich asedau busnes a'ch cronfeydd

4.      sut i gynhyrchu cofnodion ariannol, fel llyfrau cofnodi ariannol a dyddiaduron, anfonebau, derbynebau a thaliadau

5.      sut i ddefnyddio cofnodion ariannol ar gyfer monitro cyflwr ariannol eich busnes

6.      y datganiadau ariannol a'r ffurflenni statudol o ran eich statws masnachu

7.      y trafodion gwerthu arian a chredyd, trafodion prynu a chredydwyr

8.      sut i fonitro cyllidebau, anfonebau, taliadau a derbynebau

9.      y gwahanol gyfnodau cyfrifo, blwyddyn ariannol a blwyddyn dreth

10.  sut i ddewis gwahanol gyfnodau cyfrifo a blynyddoedd ariannol a'u defnyddio

11.  rhagolygon llif arian, datganiadau elw a cholled, taenlenni, mantolenni a ffurflenni treth

12.  sut i gysylltu llif arian, elw a cholled a mantolenni â'i gilydd

13.  pa ddulliau mesur a rhagolygon ariannol sydd eu hangen ar eich busnes

14.  y wybodaeth ariannol mewn perthynas â thaliadau cwsmeriaid (rheoli credyd), rheoli faint o arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan (rheoli llif arian), monitro'r gweithgaredd yn eich cyfrif banc a'r taliadau a wneir gan y banc (monitro banc)

15.  sut i gadw'r dogfennau papur ac electronig yn ddiogel, a'u diogelu rhag colled, difrod a lladrata

16.  pam y dylid storio'r dogfennau electronig ar systemau a ddiogelir gan gyfrineiriau, amgryptio a dulliau dilysu dau-gam

Gwybodaeth a chyngor

17.  ffynonellau gwybodaeth am gadw cofnodion ariannol

18.  pam mae'n bwysig defnyddio cyngor technegol a phroffesiynol priodol ynghylch gweithgareddau ariannol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMN3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW