Nodi gofynion ariannol eich busnes

URN: INSBE031
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid y mae angen iddynt nodi gofynion ariannol eu busnes. I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi sefydlu bod eich busnes yn gadarn yn ariannol. Dylech nodi'r hyn sydd ei angen arnoch i ddechrau eich busnes a pharhau i'w redeg yn llwyddiannus. Mae nodi eich gofynion ariannol yn golygu cyfrifo faint o arian sydd ei angen arnoch ar gyfer pob rhan o'ch busnes, ei gymharu â'r arian a roddwch yn eich busnes a'r arian y gallai eich busnes ei gynhyrchu, a phenderfynu a oes angen i chi gael unrhyw arian ychwanegol.

Gallech wneud hyn os ydych yn:

  1. sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol;

  2. cymryd drosodd busnes neu fenter gymdeithasol arall;

  3. ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol;

  4. newid y ffordd y mae busnes neu fenter gymdeithasol bresennol yn cael ei rhedeg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. datblygu eich cynllun busnes a'i gwblhau
  2. paratoi a chwblhau eich cyllidebau a rhagolwg llif arian i gyd-fynd â'ch cynllun busnes
  3. sefydlu faint o gyllid fydd ei angen i redeg eich busnes
  4. amcangyfrif am ba mor hir y gallai fod angen y cyllid arnoch gan ddefnyddio eich rhagolygon
  5. amcangyfrif faint o amser y gallai ei gymryd i chi adennill costau
  6. cynnal asesiad risg
  7. datblygu cynlluniau wrth gefn i nodi unrhyw gyllid ychwanegol y gallai fod ei angen
  8. cyfrifo unrhyw fuddsoddiadau posibl a nodi ffynonellau'r rhain
  9. defnyddio cyllid buddsoddi i dalu am unrhyw gostau datblygu a cholledion cychwynnol
  10. nodi unrhyw fenthyciadau tymor byr i gefnogi eich gofynion o ran cyfalaf gweithio, os oes angen
  11. dyrannu unrhyw fenthyciadau tymor hir i gefnogi eich busnes
  12. sefydlu'r gofyniad am fenthyciadau a faint o arian fyddai o dan sylw
  13. sefydlu a allai eich busnes fod yn gymwys i gael unrhyw grantiau neu gymorth ychwanegol
  14. ceisio cymorth a chyngor arian ychwanegol gan y llywodraeth ganolog a lleol, sefydliadau cymorth busnes, cymdeithasau masnach, elusennau a sefydliadau eraill
  15. gwneud cais am y cyllid sydd ei angen arnoch, os ydych yn gymwys
  16. nodi unrhyw adegau pan mae llif arian yn gallu bod yn uwch neu'n is na'r arfer neu amrywio yn ôl tymor
  17. cwblhau eich rhagolygon ar gyfer gwerthiant a gwariant
  18. gwirio ac adolygu cywirdeb eich rhagolygon
  19. nodi'r amrywiaeth o gostau sy'n gysylltiedig â rhedeg eich busnes
  20. cyfrifo'r holl gostau cyfalaf, megis prynu cyfarpar, eiddo, cyflenwadau a gweithgareddau eraill
  21. ymchwilio i'r costau ar gyfer unrhyw waith ymchwilio i'r farchnad a hysbysebu a gynlluniwyd
  22. sefydlu costau unrhyw staff y gallai fod angen i chi eu cyflogi ar gyfer eich busnes
  23. cymharu eich ffigurau â pha arian yr ydych yn disgwyl i'ch busnes ei wneud ac unrhyw arian sydd gennych ar gael i chi eich hun
  24. ceisio cyngor gan arbenigwyr proffesiynol i'ch cynorthwyo gyda'ch gofynion ariannol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gofynion ariannol

1.      hanfodion cynllun busnes

2.      sut i gynhyrchu rhagolygon, amcangyfrifon a rhagamcanion cyllid yn eich busnes a'u defnyddio

3.      y cyllidebau gwirioneddol a'r rhagolygon o lif arian

4.      yr elw a'r colled gwirioneddol, a'r incwm a'r gwariant sy'n gysylltiedig â'ch busnes

5.      beth sydd wedi'i gynnwys mewn rhagolygon llif arian, datganiadau a mantolenni elw a cholled, a sut i'w dehongli

6.      sut i gyfrifo eich gwariant

7.      faint o arian sydd ei angen i redeg eich busnes

8.      faint o arian sydd ei angen i chi fyw arno, gan ystyried unrhyw gredyd treth gwaith a budd-daliadau

9.      yr incwm gros sydd ei angen ar eich busnes i wneud bywoliaeth

10.  hyd y gofynion ariannu yn unol â'ch rhagolygon

11.  faint o amser y gallai fod ei angen i chi adennill costau

12.  y dulliau cynnal asesiad risg a chynlluniau wrth gefn

13.  y cyllid ychwanegol y gallai fod ei angen i redeg eich busnes

14.  y mathau o fuddsoddiadau a'r ffynonellau i allu cael y rhain

15.  yr arian parod y gallai fod ei angen arnoch i dalu am oedi rhwng talu cyflenwyr a chael taliadau gan gwsmeriaid

16.  sut i dalu am unrhyw gostau datblygu a cholledion cychwynnol wrth ddechrau busnes

17.  y benthyciadau tymor byr a thymor hir y gallai fod eu hangen ar gyfer eich busnes

18.  y gofynion ar gyfer benthyciadau, eu symiau a'u telerau

19.  ffynonellau ar gyfer cael grantiau neu gymorth ariannol ychwanegol

20.  sut i wirio cymhwysedd a gwneud cais am gyllid

21.  yr adegau pan mae llif arian yn gallu bod yn uwch neu'n is na'r arfer neu amrywio yn ôl tymor

22.  sut i ymchwilio ac amcangyfrif costau cyfalaf, megis safle, cyfarpar, cyflenwadau, ac unrhyw staff y mae angen i chi eu recriwtio a'u cyflogi

23.  cost unrhyw ymchwil i'r farchnad

24.  sut i gyfrifo'r pris cywir ar gyfer eich cynhyrchion neu wasanaethau

25.  sut i wirio ac adolygu cywirdeb eich rhagolygon

26.  sut i osod amcanion busnes ac ariannol clir sy'n realistig, yn gyraeddadwy ac y gellir eu mesur

27.  maint yr elw ar gyfer eich busnes a'i gynhyrchion neu wasanaethau

28.  sut i gyfrifo'r gwahaniaeth rhwng elw crynswth a net

Gwybodaeth a chyngor

29.  yr arbenigwyr sy'n gallu darparu gwybodaeth a chyngor ariannol ar eich busnes

30.  ffynonellau gwybodaeth a chyngor perthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAMN1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW