Monitro perfformiad staff yn eich busnes

URN: INSBE021
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen monitro perfformiad staff yn eu busnes. Pobl yw'r ased pwysicaf mewn unrhyw fusnes p'un a ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol neu wedi'u his-gontractio. Mae cael y staff cywir, eu hyfforddi a monitro eu perfformiad yn rhan hanfodol o sefydlu busnes a pharhau i'r ddatblygu'n llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys gosod targedau perfformiad, monitro perfformiad staff a'u gwobrwyo am hynny neu ddelio â pherfformiad gwael.

Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:

  1. sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol;

  2. monitro perfformiad staff yn eich busnes neu'ch menter gymdeithasol;

  3. Datblygu staff yn eich busnes neu'ch menter gymdeithasol drwy ehangu neu gynnig cynnyrch neu wasanaethau newydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. pennu'r gwaith sydd ei angen i gyflawni eich amcanion busnes neu Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs)
  2. cynllunio sut bydd staff yn ymgymryd â'r gwaith penodedig o ystyried deddfwriaeth iechyd a diogelwch
  3. nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a'u paru â'r adnoddau sydd ar gael
  4. gosod targedau i staff sy'n rhoi manylion am yr hyn sydd angen iddynt ei gyflawni
  5. alinio targedau staff yn erbyn safonau penodol neu Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs)
  6. hysbysu pobl am y gwaith sydd wedi'i ddyrannu ar eu cyfer a pha safon neu lefel a ddisgwylir ar gyfer y perfformiad
  7. dyrannu gwaith i aelodau staff unigol yn unol â'u sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth, profiad, llwyth gwaith a'r cyfleoedd i ddatblygu
  8. annog aelodau'r tîm i ofyn cwestiynau, gwneud awgrymiadau a cheisio eglurhad ynghylch y gwaith a ddyrannwyd iddynt
  9. gwirio ansawdd y gwaith yn rheolaidd yn erbyn safonau gosod neu'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol
  10. rhoi adborth adeiladol ar berfformiad
  11. cydnabod perfformiad llwyddiannus a'i wobrwyo
  12. nodi unrhyw berfformiad gwael
  13. trafod perfformiad gwael gyda staff gan nodi camau er mwyn gwella
  14. rhoi cyfle i staff drafod unrhyw broblemau gwirioneddol neu bosibl sy'n effeithio ar eu perfformiad
  15. trafod y problemau ar adeg ac mewn lle sy'n briodol i natur, difrifoldeb a chymhlethdod y broblem
  16. defnyddio gwybodaeth a gesglir ar berfformiad unigolion mewn unrhyw broses arfarnu ffurfiol
  17. nodi a oes angen unrhyw hyfforddiant ychwanegol
  18. cyfeirio staff at wasanaethau cymorth perthnasol
  19. cadw parch at yr unigolyn a'r angen am gyfrinachedd
  20. cadw cofnodion o fanylion personol a pherfformiad yn gwbl gyfrinachol gan gadw at ddeddfwriaeth berthnasol
  21. adolygu perfformiad staff yn rheolaidd a nodi eu cynnydd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Perfformiad staff

1.      sut i gynllunio'r gwaith ar gyfer eich staff, gan ystyried materion iechyd a diogelwch wrth gynllunio, dyrannu a gwirio gwaith

2.      pam mae'n bwysig hysbysu staff ar y gwaith sydd wedi'i ddyrannu ar eu cyfer

3.      y math o dargedau perfformiad, megis Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs), cynhyrchiant, safonau ansawdd, ymatebion cwsmeriaid ac eraill

4.      pam mae'n bwysig gosod targedau yn erbyn safonau penodol neu Ddangosyddion Perfformiad Allweddol

5.      dulliau gosod y targedau perfformiad

6.      sut i asesu cynnydd ac ansawdd y gwaith

7.      y dulliau arsylwi, trafod a chael adborth gan gydweithwyr, gan gynnwys cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill

8.      sut i roi adborth i unigolion i geisio gwella eu perfformiad

9.      sut i alluogi ac annog staff i ofyn cwestiynau, ceisio eglurhad, gwneud awgrymiadau a siarad am eu problemau

10.  pam mae'n bwysig nodi perfformiad anfoddhaol neu wael

11.  sut i drafod yr hyn sy'n achosi perfformiad gwael a chytuno ar ffyrdd o'i wella

12.  sut i gytuno ar gamau gweithredu gydag aelodau unigol staff a'u dilyn

13.  y math o broblemau neu ddigwyddiadau annisgwyl a allai ddigwydd a sut i gefnogi staff wrth iddyn nhw ddelio â nhw

14.  sut i gofnodi gwybodaeth am berfformiad parhaus staff a defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion arfarnu perfformiad

15.  sut i gadw'r cofnodion a'r wybodaeth sydd ynddynt yn gyfrinachol

16.  y gwasanaethau cymorth perthnasol a sut i gyfeirio staff at y rhain, pan fo angen

17.  sut i ysgogi unigolion drwy nodi llwyddiant a'i wobrwyo

18.  y ffiniau wrth ddelio â phroblemau staff unigol

Deddfau a rheoliadau

19.  y ddeddfwriaeth berthnasol, y rheoliadau, y canllawiau a'r codau ymarfer sy'n ymwneud â gwneud y gwaith

20.  y gofynion ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a galluoedd sy'n berthnasol i'r diwydiant


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFAOP5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW