Contract ar gyfer safle busnes

URN: INSBE013
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cael contract ar gyfer safle busnes. Mae cael contract ar gyfer safle newydd yn ymrwymiad sylweddol o ran arian parod y bydd busnes yn ei wneud. Mae bod yn ymrwymiad ariannol yn golygu ysgwyddo cyfrifoldeb dros eiddo y mae angen cytuno arno o dan y telerau contractaidd cywir a thros gyfnod priodol. Mae angen ei yswirio, ei gynnal, ei lanhau a'i gynhesu hefyd. Mae trafodaethau gyda landlordiaid masnachol i sicrhau'r safle cywir yn wahanol i brynu tŷ. Mae contractio ar gyfer eiddo busnes yn cynnwys trafod telerau ac amodau buddiol prynu neu brydlesu, nodi ffynonellau perthnasol o gyngor a gwybodaeth broffesiynol, a chael ymrwymiad gan gefnogwyr neu bartïon perthnasol eraill.

Gallech wneud hyn os bydd angen i chi:

  1. cytuno ar gontract ar gyfer safle wrth gychwyn busnes neu fenter gymdeithasol;

  2. ystyried symud i safleoedd busnes newydd;

  3. adolygu contract eich safle presennol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r telerau ac amodau y mae angen i'ch busnes eu cael
  2. asesu telerau ac amodau'r safle rydych chi wedi'i ddewis
  3. diffinio'r targedau trafod yr ydych am geisio eu cyflawni
  4. trafod telerau ac amodau contract eiddo gyda'r landlord neu ei asiant
  5. cyfrifo faint fyddai cael safle a'i redeg yn ei gostio i gyd i'ch busnes cyn i chi lofnodi'r dogfennau
  6. defnyddio cyngor proffesiynol i'ch helpu i wneud penderfyniad contractio
  7. cofnodi'r hyn a drafodwyd ac a gytunwyd
  8. sicrhau bod y contract yn dangos rolau a chyfrifoldebau'r holl bartïon dan sylw
  9. cael cytundeb gan unrhyw gefnogwyr neu bartïon perthnasol eraill cyn i chi lofnodi contractau ar gyfer y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Telerau ac amodau

1.      y mathau o delerau ac amodau contractaidd ar gyfer safle busnes, megis prydles hirdymor, trwydded, prydles tymor byr, rhentu, prynu rhydd-ddaliad neu ofod gwaith a reolir

2.      y gwasanaethau a ddarperir o fewn y contract a phwy sy'n talu amdanynt

3.      y gosodiadau a'r ffitiadau sydd eu hangen ar gyfer y safle

4.      pwy sy'n gyfrifol am ddodrefnu, cynnal a chadw ac addurno safleoedd

5.      taliadau a chostau'r safle sydd i'w talu, megis yswiriant, cyfraddau masnachol, gwaredu gwastraff a thaliadau eraill i lywodraeth leol

6.      y deddfau a'r rheoliadau sy'n berthnasol i safle eich busnes

7.      pam mae'n bwysig cymryd cyngor cyfreithiol cyn i chi lofnodi unrhyw gontractau

Trafod

8.      pam mae angen i chi osod targedau trafod cyn i chi ddechrau trafodaethau

9.      sut i gael y fargen orau i'ch busnes

10.  pwysigrwydd sgiliau trafod

11.  pam mae angen i chi gofnodi'r hyn a drafodwyd a'r hyn y cytunwyd arno

12.  y rhanddeiliaid a'r staff perthnasol fydd yn rhan o'r penderfyniadau neu'n cael gwybod am safle'r busnes

Sefyllfa ariannol

13.  amcangyfrif o gostau'r addasiadau, addurniadau, dodrefnu, cyfarpar a symud sydd eu hangen ar gyfer eich safle


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABL3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW