Rheoli’r broses olynu ar gyfer eich busnes

URN: INSBE006
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen rheoli'r broses olynu ar gyfer eu busnes. Ar ryw adeg bydd angen i chi drosglwyddo eich busnes i rywun arall. Bydd yn rhaid i chi ystyried pryd y bydd olyniaeth yn dechrau ac yn gorffen, sut i drosglwyddo gwybodaeth allweddol i'ch olynydd/olynwyr ac unrhyw rôl sydd gennych yn y busnes yn y dyfodol. Mae'n bwysig cynllunio sut y gallai'r cyfnod pontio weithio, unrhyw ailstrwythuro fydd ei angen, a chynlluniau wrth gefn. Mae dewis yr olynydd cywir a sicrhau ei fod yn barod, yn fodlon ac yn gallu ysgwyddo'r cyfrifoldebau, yn allweddol i oroesiad eich busnes. Rhaid i chi ddeall y ffactorau a allai achosi i'r olyniaeth fethu, megis cynlluniau olyniaeth aneglur, trafodaeth am olyniaeth wedi'i gadael yn rhy hwyr, olynwyr anghymwys, anfodlon neu sydd heb eu paratoi'n ddigonol, tensiynau teuluol, rhagflaenwyr nad ydynt am ildio rheolaeth neu sy'n tanseilio'r olynydd. Mae'n cynnwys cyfathrebu â'r ag olynwyr posibl, dewis yr olynydd/olynwyr cywir, paratoi'r olynydd/olynwyr i gymryd yr awenau a pharatoi eich hun ar gyfer gadael y busnes.

Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os ydych yn:

  1. bwriadu ymddeol neu symud ymlaen i fentrau eraill;

  2. datblygu strategaeth ymadael ar gyfer eich busnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r amrywiaeth o opsiynau olynu ar gyfer eich busnes
  2. ymgynghori ag arbenigwyr i wneud yn siŵr bod eich cynlluniau olyniaeth yn dreth-effeithlon
  3. penderfynu pryd y byddai hwylusydd annibynnol neu gynghorydd cyfreithiol o fudd i'ch helpu chi i ddatblygu cynlluniau ar gyfer olyniaeth
  4. trafod syniadau ac opsiynau ar gyfer olyniaeth gydag ymgeiswyr posibl
  5. sefydlu beth mae'r olynwyr am ei gyflawni o ganlyniad i gymryd drosodd eich busnes
  6. cytuno ar werthoedd, nodau ac amcanion y busnes ar gyfer y dyfodol gydag olynwyr posibl
  7. nodi a rheoli unrhyw wrthdaro mewn buddiannau ar gyfer olynu mewn busnes
  8. esbonio prosesau, gweithdrefnau, rolau a chyfrifoldebau eich busnes
  9. asesu sgiliau a dyheadau'r olynydd/olynwyr posibl a pha mor debygol ydynt o wneud eich busnes yn llwyddiannus
  10. penderfynu ar y trefniadau o ran cyfranddaliadau er budd y busnes
  11. cadarnhau unrhyw rôl fydd gennych yn y busnes yn y dyfodol
  12. trefnu'r hyfforddiant neu'r broses drosglwyddo angenrheidiol ar gyfer eich olynydd/olynwyr
  13. gwneud cynlluniau wrth gefn a threfniadau amgen ar gyfer yr olyniaeth
  14. cadw'r holl ddogfennau sy'n ymwneud ag olyniaeth hirdymor neu dros dro yn gyfoes ac yn ddiogel
  15. hysbysu'r holl randdeiliaid perthnasol am eich trefniadau olynu
  16. mynd i'r afael â ffactorau a allai achosi i'r olynu fethu
  17. ymbaratoi i adael y busnes
  18. trosglwyddo eich cyfrifoldebau i'ch olynwyr ar yr adeg y cytunwyd arno
  19. trosglwyddo'r busnes gan ddilyn gofynion perthnasol o ran y gyfraith a threth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio olyniaeth

1.      y broses o baratoi ar gyfer paratoi olyniaeth a chynlluniau wrth gefn

2.      yr amrywiaeth o strategaethau ymadael i'w hystyried, megis gwerthu masnach, prynu prif gyfran, cau'r busnes, ac ati

3.      pam mae'n bwysig penderfynu ar lwybr yr olyniaeth cyn ymgynghori ar y goblygiadau o ran treth

4.      y technegau i alluog proses olynu lwyddiannus i olynwyr posibl

5.      y ffactorau a'r amgylchiadau a allai beri i olynydd i fethu

6.      dyrannu rolau a chyfrifoldebau ar ôl olynu

7.      y goblygiadau posibl i strwythur y busnes ar ôl trosglwyddo

8.      y math o rôl y gallech ei chael yn y busnes yn y dyfodol

9.      y dogfennau perthnasol megis cynlluniau olynu, cytundebau partneriaeth, cytundebau cyfranddalwyr ac ewyllysiau

10.  pam mae'n bwysig eich bod yn gadael i'ch olynydd/olynwyr wneud penderfyniadau a chymryd yr awenau dros y busnes ar yr adeg y cytunwyd arno

11.  y rhanddeiliaid y mae angen eu hysbysu am olynu

12.  y polisi y dylai'r busnes ei ddilyn o ran dosbarthu cyfranddaliadau

13.  y rhinweddau a'r sgiliau sydd eu hangen ar eich olynwyr

14.  y gweithdrefnau hyfforddi a throsglwyddo a allai fod eu hangen er eich olynwyr

15.  ffynonellau cymorth a chyngor cyfreithiol ynghylch cynllunio olyniaeth

16.  y ffyrdd o baratoi eich hun i adael y busnes

17.  sut i gysylltu â'r ymgeiswyr posibl ynghylch trefniadau olyniaeth

18.  y ffyrdd o ddatrys unrhyw wrthdaro mewn buddiannau a nodir

19.  pwysigrwydd cyfathrebu â darpar olynwyr

Deddfau a rheoliadau

20.  y trethi, y dyletswyddau a'r gostyngiadau sy'n berthnasol pan fyddwch yn gwerthu busnes neu ased busnes neu'n ei roi fel rhodd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  • Uchelgais
  • Ynni
  • Gweledigaeth strategol
  • Sgiliau rhyngbersonol
  • Gwybodaeth dechnegol

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABD12

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW