Cynllunio eich strategaeth ymadael â busnes

URN: INSBE005
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen cynllunio eu strategaeth ar gyfer ymadael â busnes. Mae'n bwysig oherwydd byddwch chi'n gadael eich busnes ar ryw adeg neu'n penderfynu ei drosglwyddo i rywun arall. P'un ai trwy gau, gwerthu eich busnes, ei drosglwyddo i aelod o'r teulu, ei roi ar farchnad stoc neu uno'ch busnes, mae'n bwysig cynllunio sut byddwch yn ymadael ymhell ymlaen llaw fel y gallwch symud ymlaen mewn modd sy'n achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl pan fyddwch chi'n barod. Mae ymgorffori strategaeth ymadael yn eich cynlluniau busnes yn dangos eich bod yn meddwl yn strategol ar gyfer y tymor hir, yn ogystal â chryfhau eich busnes. Beth bynnag fo'ch rheswm, mae angen i chi gynllunio eich dull ymadael yn ofalus i sicrhau bod eich ymadawiad yn gadael eich busnes yn y sefyllfa orau bosibl. Mae'n golygu penderfynu sut a phryd rydych chi am ymadael â'ch busnes, cymryd cyngor ar yr opsiynau ymadael a gwirio pa mor ddichonol yw eich cynllun.

Efallai y bydd angen i chi wneud hyn os ydych yn:

  1. datblygu cynllun busnes;

  2. datblygu strategaeth ymadael neu drosglwyddo;

  3. adolygu eich cynllun busnes neu strategaeth ymadael gyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. amcangyfrif yr amserlen ar gyfer cau, gwerthu neu drosglwyddo eich busnes
  2. ymgynghori â gweithwyr proffesiynol perthnasol ar yr amrywiaeth o opsiynau ymadael a'r goblygiadau i'ch cynlluniau
  3. datblygu strategaeth olyniaeth eich busnes a gwneud cynlluniau wrth gefn
  4. alinio'r strategaeth ymadael â'ch cynllun busnes
  5. nodi pwy sydd angen cymryd rhan yn y broses gynllunio neu olynu
  6. sicrhau bod cyllid a gweinyddiaeth eich busnes yn gyfredol
  7. datblygu canllaw ar gyfer prosesau a gweithdrefnau eich busnes
  8. nodi darpar brynwyr ar gyfer eich busnes
  9. sefydlu gwerth eich busnes
  10. amcangyfrif sut y gall y gwerth newid dros amser a'r ffactorau sy'n effeithio arno
  11. asesu cryfderau a gwendidau eich busnes
  12. asesu beth allai ddigwydd os bydd y sefyllfa'n newid ac os cewch eich gorfodi i ymadael mewn ffordd wahanol
  13. cydymffurfio â'r holl ddeddfau a rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich busnes
  14. adolygu eich strategaeth ymadael yn rheolaidd a gwneud newidiadau perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Canolbwyntio ar fusnes

1.      sut i osod nodau ac amcanion eich busnes

2.      sut gall y nodau a'r amcanion ddylanwadu ar eich strategaeth ymadael

3.      cryfderau a gwendidau eich busnes

4.      gwerth eich busnes

5.      y ffactorau sy'n effeithio ar werth eich busnes

6.      sut i sicrhau bod gweinyddiaeth a chyllid eich busnes yn gyfredol

7.      y deddfau a'r rheoliadau perthnasol

Strategaeth ymadael

8.      yr amrywiaeth o opsiynau ymadael, gan gynnwys gwerthu, olyniaeth, cau, rhoi eich busnes ar y farchnad neu uno

9.      sut i gynllunio strategaeth ymadael, gan gynnwys cynllunio wrth gefn os bydd amgylchiadau'n newid

10.  pwy mae angen ymgynghori â nhw wrth ddatblygu'r strategaeth ymadael

11.  sut bydd eich strategaeth ymadael arfaethedig yn effeithio ar y ffordd rydych yn rhedeg eich busnes

12.  sut a phryd i adolygu'ch strategaeth ymadael

13.  ble i ddod o hyd i gyngor proffesiynol ar gynllunio i drosglwyddo eich busnes neu ymadael ag ef


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABD8

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW