Gwerthuso a gwella ansawdd eich cynnyrch a'ch gwasanaethau
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen gwerthuso a gwella ansawdd eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Mae'r broses hon yn bwysig gan fod ansawdd yn gallu rhoi mantais gystadleuol i'ch busnes a gall eich helpu i gadw gafael ar gwsmeriaid a chael mwy ohonynt. Mae gwerthuso a gwella eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn golygu sicrhau eich bod yn bodloni disgwyliadau eich cwsmeriaid, bod ansawdd eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn gystadleuol a'ch bod yn monitro ac yn gwella eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn barhaus.
Gall ansawdd eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau effeithio ar y canlynol:
perfformiad eich busnes yn gyffredinol;
eich gweithgareddau marchnata a gwerthu;
sut rydych chi'n datblygu ac yn darparu eich cynhyrchion neu eich gwasanaethau;
sut rydych chi'n cadw cofnodion busnes;
sut rydych chi'n delio â chwsmeriaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi lefelau ansawdd y mae eich cwsmeriaid yn eu disgwyl gan eich cynnyrch a'ch gwasanaethau
- sefydlu sut rydych chi'n mesur a gwella ansawdd yn rhan o elfennau gweithredol, technegol a rheoli eich busnes
- cynnal dadansoddiad sy'n cymharu eich busnes â'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn yn y farchnad
- gosod ac adolygu targedau o ran ansawdd a sut rydych chi'n bodloni disgwyliadau eich cwsmeriaid
- cynllunio sut i ddelio â diffygion a chwynion am eich cynnyrch a'ch gwasanaethau
- gwella eich cynhyrchion neu wasanaethau yn seiliedig ar wybodaeth sy'n cael ei chasglu am ddiffygion a chwynion
- penderfynu a ddylid defnyddio cynllun nodi ansawdd i wella cynhyrchion busnes a gwasanaethau eich busnes
- ceisio cyngor gan arbenigwyr, lle bo angen
- sicrhau eich bod yn parhau i wella ansawdd eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- gwirio cynnydd yn rheolaidd trwy samplu cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau
- monitro adolygiadau'r cwsmeriaid a'u hadborth ar eich cynnyrch a'ch gwasanaethau
- asesu gwybodaeth, sgiliau a photensial unrhyw staff i wella ansawdd
- ceisio adnoddau ychwanegol i wella ansawdd, os oes angen
- nodi unrhyw broblemau wrth wneud gwelliannau a chymryd camau i'w datrys
- cynnal dadansoddiad o Gryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT) ar gyfer eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- gweithredu'r systemau TG perthnasol mewn perthynas â gweithgareddau gwerthu a marchnata
- adolygu'r cyfleoedd a'r bygythiadau, a newid cynlluniau ansawdd yn ôl yr angen
- adolygu eich gwasanaeth i gwsmeriaid yn rhan o broses o wella cynhyrchion a gwasanaethau eich busnes yn barhaus
- defnyddio canlyniadau monitro ansawdd i adolygu effeithiolrwydd eich busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynhyrchion a gwasanaethau
1. gwerthiant, dulliau marchnata, cyflenwadau, prosesau cynnal a chadw a gweinyddu, a dulliau cyflwyno eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
2. ystod y systemau TG ar gyfer ymgyrchoedd marchnata a gweithgareddau
3. y systemau perthnasol ar gyfer olrhain y biblinell werthu
4. pam mae ansawdd yn bwysig ar gyfer nodau busnes a thargedau eich busnes
5. sut i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid a gynigir gan eich busnes
6. y wybodaeth am eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau sydd eu hangen i fesur eu hansawdd
7. y mathau o adborth ac adolygiadau gan gwsmeriaid o'ch cynnyrch a'ch gwasanaethau
Rheoli ansawdd
8. egwyddorion rheoli ansawdd a rheolaeth
9. egwyddorion dadansoddiad o Gryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT)
10. sut i fesur ansawdd yn seiliedig ar adolygiadau, cwynion a ffurflenni
11. sut i fesur disgwyliadau eich cwsmeriaid mewn perthynas ag ansawdd eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
12. sut mae'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn yn cynnal ac yn monitro ansawdd eu cynnyrch a'u gwasanaethau
13. sut i nodi gwelliannau mewn ansawdd, sgiliau staff a'r agweddau sydd eu hangen ar gyfer eich busnes
14. lefelau ansawdd eich gwasanaeth i gwsmeriaid mewn perthynas â chynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau
15. y cynlluniau ar gyfer cydnabod ansawdd sy'n berthnasol i'ch busnes, manteision pob un o'r rhain a ble i gael gwybod amdanynt
16. sut i nodi a yw eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn cyrraedd safonau ansawdd cydnabyddedig
17. sut i samplo cynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau i gynnal gwiriadau ansawdd
18. y problemau posibl y gallech eu hwynebu wrth geisio gwella ansawdd yn eich busnes a sut i ymateb i'r rhain
19. pam mae'n bwysig gwerthuso a gwella ansawdd eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn rheolaidd