Asesu a gwerthuso hyfywedd busnes a syniadau busnes newydd

URN: INSBE001
Sectorau Busnes (Suites): Menter Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 14 Ion 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer entrepreneuriaid sydd angen asesu a gwerthuso hyfywedd busnes a syniadau busnes newydd. Fe'ch cynghorir i gynnal ymchwil fanwl i'r syniadau ar gyfer eich busnes i'w wneud yn llwyddiant. Gallai eich syniad fod yn gynnyrch neu'n ddyfais hollol newydd, yn newid i gynnyrch sy'n bodoli eisoes, neu'n wasanaeth newydd. Bydd hyn yn eich helpu i asesu a gwerthuso a yw'n werth datblygu syniad ymhellach i bennu ei botensial i lwyddo.

I wneud hyn mae angen i chi:

  1. Archwilio eich syniad busnes i ddiffinio sut y bydd yn gweithio'n ymarferol.

  2. Ymchwilio i anghenion eich cwsmeriaid, gweithgareddau'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn, a'r farchnad/marchnadoedd posibl ar gyfer eich syniad busnes.

  3. Nodi goblygiadau unrhyw ddeddfau a'r adnoddau y bydd angen i chi neu eich staff eu datblygu.

  4. Nodi'r cymwyseddau sydd gennych chi a'ch staff ar hyn o bryd yn ogystal â'r rhai y bydd angen eu datblygu.

  5. Gwerthuso a fydd eich syniad busnes yn gallu talu costau sefydlog ac amrywiol a nodir i gyflawni eich elw gofynnol.

  6. Dysgu sut i sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd os byddwch yn penderfynu datblygu eich syniadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynhyrchu unrhyw wybodaeth, prototeipiau neu samplau i ategu eich syniadau
  2. gofyn am gyngor neu gymorth gan weithwyr proffesiynol priodol i gynorthwyo eich busnes
  3. ystyried eich cyfrifoldebau a chynnal asesiad risg o'ch syniadau busnes
  4. nodi tueddiadau'r farchnad a'r galw masnachol am eich syniadau busnes
  5. cynnal ymchwil i adnabod y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn yn y farchnad
  6. nodi mantais gystadleuol eich syniadau busnes
  7. ymchwilio i'r deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich syniad busnes a sut mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
  8. ysgrifennu cynnig busnes sy'n esbonio pam rydych yn credu y dylai buddsoddwyr gefnogi eich syniadau
  9. sicrhau bod eich cynnig busnes yn cynnwys gwybodaeth allweddol sydd ei hangen ar gyfer cael cymorth
  10. nodi pa wybodaeth am sgiliau, ac ymddygiadau y gallai fod eu hangen arnoch chi neu eich staff i gyflwyno'ch syniadau busnes ac a oes unrhyw ofynion o ran ardystio
  11. nodi pa gyfarpar, offer, deunyddiau neu staff ychwanegol y gallai fod eu hangen arnoch i gyflwyno eich syniadau busnes
  12. coladu holl gostau cysylltiedig eich syniadau busnes
  13. cyfrifo faint y gallwch ei godi ar eich cwsmeriaid i dalu am eich costau a chyrraedd maint yr elw a dargedir gennych
  14. asesu a gwerthuso eich syniad busnes a phenderfynu a ddylech fynd ar ei drywydd, ei addasu neu gael gwared arno
  15. ystyried gwerth asedau anniriaethol y busnes
  16. ystyried pa sgiliau, asedau a buddsoddiad y gallwch eu cynnig i fusnes
  17. nodi'r potensial yr ydych am ei gael o'r busnes
  18. crynhoi'r cyfleoedd busnes ac asesu eu cryfderau a'u gwendidau yn erbyn eich targedau
  19. asesu'r sefyllfa ariannol, a'r potensial ar gyfer twf eich busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Canolbwyntio ar fusnes

1.      sut i nodi pwynt gwerthu unigryw eich syniadau busnes ac asesu ei hyfywedd

2.      eich nodau a'ch amcanion ar gyfer rhedeg busnes

3.      y wybodaeth, y prototeipiau neu'r samplau y gallai fod eu hangen arnoch i ategu eich syniadau

4.      sut i benderfynu a yw eich syniad busnes yn werth ei ddatblygu neu ei addasu

Ymchwil i'r farchnad a thueddiadau busnes

5.      sut i gynnal ymchwil i'r farchnad

6.      tueddiadau yn y farchnad, cystadleuaeth, cyfleoedd a'r materion y mae'r sector yn eu hwynebu yn y farchnad

7.      sut gall gweithredoedd a dewisiadau cwsmeriaid effeithio ar lwyddiant eich syniadau busnes

8.      y newidiadau gwleidyddol a masnachol a allai effeithio ar eich syniadau busnes

9.      y digwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a allai gyfyngu ar eich cyfleoedd busnes neu eu gwella

10.  sut i wybod a fydd y rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn yn effeithio ar eich busnes

11.  sut i nodi'r adnoddau gofynnol a faint fydd y rhain yn ei gostio

Sgiliau a galluoedd

12.  y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau perthnasol y gallai fod eu hangen arnoch chi a'ch staff ar gyfer y busnes

13.  eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun fel darpar berchennog busnes a sut y gallai'r rhain effeithio ar y math o fusnes yr ydych yn am ei brynu

14.  sut i werthuso'r sgiliau, y galluoedd a'r wybodaeth sydd gennych chi a'ch gweithwyr

15.  sut y gellir datblygu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth sy'n addas i'ch busnes

Deddfau a rheoliadau

16.  y deddfau a'r rheoliadau perthnasol sy'n effeithio ar eich syniadau busnes

17.  sut i gydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol

18.  beth yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau a Diogelu Cyflogaeth (TUPE) a sut y gallai'r rhain effeithio ar eich busnes

Sefyllfa ariannol

19.  sut i gostio cynnyrch a gwasanaeth, cyfrifo pris gwerthu a diffinio faint sydd angen ei werthu i gyrraedd y targed a osodwyd

20.  sut i ddeall a defnyddio rhagolygon llif arian a chyfrifon elw a cholled, a pha wybodaeth fyddai ei hangen arnoch i'w cynhyrchu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABD1, CFABD9

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynhyrchion, gwasanaeth, cefnogaeth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW