Cynnal ymchwil a’i dadansoddi

URN: INSBA021
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal ymchwil a'i dadansoddi. Mae'n cynnwys cynllunio ymchwil gyda rhanddeiliaid a'i chynnal o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt. Rydych chi'n dewis data perthnasol, dilys, dibynadwy a chywir o wahanol ffynonellau a'i addasu yn ôl yr angen. Mae'r safon hefyd yn cynnwys coladu data yn barod i'w ddadansoddi a'i drefnu mewn fformat y cytunwyd arno. Rydych chi'n defnyddio technegau dadansoddi priodol i gynhyrchu canlyniadau cywir a diduedd. Rydych chi'n paratoi adroddiad ymchwil ac yn cyflwyno'ch casgliadau yn y fformat y cytunwyd arno, ac yn cael adborth gan randdeiliaid.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n cynnal ymchwil a'i dadansoddi.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. diffinio nodau ac amcanion yr ymchwil
  2. cytuno ar nodau ac amcanion yr ymchwil gyda rhanddeiliaid
  3. cadarnhau'r dyddiadau cau ar gyfer yr adroddiad ymchwil gyda rhanddeiliaid
  4. cadarnhau'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer yr ymchwil
  5. nodi'r dulliau ymchwil cynradd ac eilaidd i'w defnyddio
  6. dewis data i'w ddadansoddi o wahanol ffynonellau
  7. gwneud yn siŵr bod data yn berthnasol, yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn gywir
  8. cael adborth gan gydweithwyr am y data os oes angen
  9. addasu data crai, os oes angen
  10. coladu data er mwyn ei baratoi i'w ddadansoddi
  11. dewis technegau dadansoddi sy'n addas i'r diben
  12. defnyddio technegau dadansoddi sy'n cyd-fynd â nodau ac amcanion yr ymchwil
  13. gwneud yn siŵr bod eich dadansoddiad yn gywir drwy ddefnyddio technegau sydd wedi'u cymeradwyo gan eich sefydliad
  14. addasu'r dadansoddiad data lle bo angen
  15. cynhyrchu canlyniadau cywir a diduedd
  16. dod i gasgliadau o'r dadansoddiad o ddata
  17. paratoi adroddiad ymchwil sy'n cwrdd â'r nodau a'r amcanion y cytunwyd arnynt gyda rhanddeiliaid
  18. cyflwyno casgliadau yn brydlon ac yn y fformat y cytunwyd arno
  19. cwblhau'r ymchwil o fewn yr amserlen y cytunwyd arni
  20. cael adborth ar eich casgliadau gan randdeiliaid
  21. defnyddio fframweithiau moesegol perthnasol i amddiffyn preifatrwydd a diogelwch gwybodaeth ymchwil a gafwyd
  22. gwerthuso'ch ymchwil i nodi gwelliannau ar gyfer y dyfodol o ran sut rydych chi'n dewis, coladu a dadansoddi ymchwil ac adrodd arni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddiffinio nodau ac amcanion ymchwil
  2. sut i weithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar nodau, amcanion a therfynau amser
  3. y gwahaniaethau rhwng dulliau ymchwil cynradd ac eilaidd
  4. y gwahaniaethau rhwng dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol
  5. y gwahanol ffynonellau data sydd ar gael
  6. y dulliau y gellir eu defnyddio i chwilio am ddata
  7. sut i gyrchu data a'i dynnu ar gyfer ymchwil
  8. pam y gallai fod angen addasu data
  9. y dulliau a ddefnyddir i addasu data wrth eu casglu a'u dadansoddi
  10. y technegau a ddefnyddir i wneud yn siŵr bod data yn berthnasol, yn ddibynadwy, yn ddilys ac yn gywir
  11. diben cael adborth ar ddata a gafwyd o ymchwil
  12. y gwahanol ffyrdd o drefnu data a gasglwyd
  13. sut i goladu a threfnu data i'w ddadansoddi
  14. y technegau dadansoddi sy'n cynhyrchu canlyniadau cywir a diduedd
  15. y gwahanol fformatau a allai fod eu hangen wrth adrodd ar ddata
  16. pwysigrwydd cyflwyno data yn y fformat adrodd y cytunwyd arno
  17. pam mae'n rhaid cwblhau ymchwil yn ôl yr amserlenni y cytunwyd arnynt ac effaith bosibl oedi wrth adrodd
  18. sut i gasglu adborth am yr ymchwil gan randdeiliaid
  19. sut i werthuso ymchwil i nodi a chynllunio ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol
  20. y fframweithiau moesegol perthnasol i amddiffyn preifatrwydd a diogelwch gwybodaeth ymchwil a gafwyd
  21. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. dadansoddi

  2. cyfathrebu

  3. gwneud penderfyniadau

  4. dewis

  5. cynllunio

  6. cyflwyno gwybodaeth

  7. ymchwilio

  8. defnyddio technoleg

  9. datrys problemau

  10. ysgrifennu adroddiadau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Cynhyrchu Dogfennau; TG; Iechyd, Diogelwch a Diogeledd Pobl, Adeiladau ac Eiddo; Rheoli Gwybodaeth a data


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAD321, CFABAD322

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; ymchwil; data; dadansoddi