Cefnogi systemau gwybodaeth a’u cynnal

URN: INSBA020
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chefnogi systemau gwybodaeth a'u cynnal. Mae'n cynnwys nodi'r wybodaeth o fewn y system a'r adnoddau sydd eu hangen i'w datblygu a'i chynnal, gan gynnwys profi'r system yn erbyn y fanyleb. Rydych chi'n cyfrannu at hyfforddi a chynorthwyo defnyddwyr, ac yn monitro eich defnydd eich hun o'r system. Rydych hefyd yn casglu adborth ac yn cyfrannu at werthuso'r system wybodaeth.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n gyfrifol am gefnogi a chynnal systemau gwybodaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r wybodaeth a gaiff ei rheoli o fewn y system wybodaeth
  2. nodi'r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu'r system wybodaeth
  3. cadarnhau bod adnoddau ar gael i ddylunio, cyflwyno a gweithredu'r system
  4. diweddaru'r systemau gwybodaeth i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn ôl yr angen
  5. dylunio manyleb system sy'n diwallu anghenion sefydliadol a nodwyd
  6. datblygu system wybodaeth sy'n cwrdd â'r fanyleb
  7. profi'r system wybodaeth yn erbyn y fanyleb y cytunwyd arni
  8. datrys diffygion, o fewn terfynau eich awdurdod eich hun
  9. monitro'r defnydd a wneir o'r systemau gwybodaeth
  10. monitro cywirdeb systemau gwybodaeth i fodloni gofynion sefydliadol
  11. monitro cynhyrchiant systemau gwybodaeth i fodloni gofynion sefydliadol
  12. monitro eich defnydd eich hun o'r system wybodaeth
  13. cyfrannu at hyfforddiant i ddefnyddwyr
  14. cyfrannu at roi cymorth i ddefnyddwyr yn barhaus
  15. dilyn gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer trin gwybodaeth
  16. cynnal y system wybodaeth o fewn terfynau eich awdurdod ei hun
  17. diweddaru'r system wybodaeth i ddiwallu anghenion defnyddwyr, o fewn terfynau eich awdurdod eich hun
  18. casglu adborth ar berfformiad y system wybodaeth
  19. cyfrannu at werthuso adborth
  20. nodi a blaenoriaethu anghenion datblygu systemau a defnyddwyr
  21. cyfrannu gwybodaeth er mwyn gallu datblygu'r system ymhellach
  22. nodi problemau pan fyddant yn digwydd a rhoi gwybod amdanynt
  23. datrys problemau o fewn terfynau eich awdurdod eich hun
  24. dilyn polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol wrth ddylunio, datblygu a chynorthwyo'r gwaith o reoli system wybodaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben a manteision rheoli gwybodaeth i fodloni manylebau
  2. y mathau o wybodaeth y mae angen eu rheoli mewn sefydliad
  3. y mathau o systemau gwybodaeth sydd ar gael a'u prif nodweddion
  4. diben a manteision nodi anghenion defnyddwyr ar gyfer systemau gwybodaeth a chytuno arnynt
  5. sut i ddatblygu manylebau ar gyfer rheoli gwybodaeth, gan ystyried yr adnoddau a'r cyllidebau sydd ar gael
  6. sut i greu a datblygu system wybodaeth yn seiliedig ar anghenion a nodwyd ar gyfer y sefydliad a'r defnyddwyr
  7. sut i fonitro'r defnydd a wneir o systemau gwybodaeth
  8. cynhyrchiant systemau gwybodaeth
  9. diben a manteision profi systemau gwybodaeth
  10. sut i brofi systemau gwybodaeth
  11. sut i ddatrys diffygion mewn system wybodaeth, o fewn terfynau eich awdurdod eich hun
  12. manteision hyfforddi defnyddwyr y system wybodaeth
  13. sut i roi cymorth parhaus i ddefnyddwyr y system
  14. diben monitro sut y defnyddir systemau gwybodaeth
  15. sut i ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael i fonitro systemau gwybodaeth
  16. diben diweddaru systemau gwybodaeth
  17. y dulliau y gallwch eu defnyddio i ddiweddaru systemau gwybodaeth
  18. y mathau o broblemau sy'n codi gyda systemau gwybodaeth
  19. sut i nodi a dadansoddi problemau a llunio strategaeth i'w datrys
  20. y gofynion deddfwriaethol a sefydliadol sy'n ymwneud â diogelu data a rhyddid gwybodaeth
  21. sut i gael adborth ar ddefnyddio systemau gwybodaeth
  22. y gwahanol ffyrdd o werthuso systemau gwybodaeth
  23. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. dadansoddi

  2. gwerthuso

  3. rheoli adnoddau

  4. cyd-drafod

  5. trefnu

  6. cynllunio

  7. ymchwilio

  8. defnyddio technoleg

  9. datrys problemau.

  10. monitro

  11. datblygu eraill


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAD111, CFABAD112 a CFABAD121

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; gwybodaeth; data