Trefnu digwyddiadau corfforaethol a’u cydlynu

URN: INSBA016
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu digwyddiadau a'u cydlynu. Mae'n cynnwys cyfathrebu â rhanddeiliaid ynghylch cyllidebau, nodi lleoliadau, cynhyrchu deunyddiau ar gyfer digwyddiadau, cynorthwyo gweithgareddau cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad. Mae'r safon hefyd yn cynnwys trefnu'r digwyddiad rhithwir trwy offer digidol, technolegau neu blatfformau cydweithredu perthnasol. Mae hefyd yn cynnwys rheoli dyddiaduron electronig i wneud apwyntiadau, eu diweddaru a'u cydlynu.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n gyfrifol am drefnu digwyddiadau corfforaethol a'u cydlynu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Rheoli dyddiaduron electronig

1.       gwneud cofnodion cywir a chlir mewn dyddiaduron ar gyfer pob apwyntiad a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â digwyddiadau

2.       diweddaru'r dyddiadur i adlewyrchu unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt

3.       anfon gwahoddiadau ar gyfer y digwyddiad at bawb sy'n mynd iddo

4.       datrys problemau trwy gyd-drafod trefniadau amgen os oes apwyntiadau'n cyd-daro

5.       rhoi cadarnhad o newidiadau y cytunwyd arnynt i'r mynychwyr sydd wedi'u heffeithio

Trefnu'r digwyddiad a'i gynnal

6.       cytuno ar gynllun ar gyfer y digwyddiad yn unol â'r amcanion y cytunwyd arnynt

7.       nodi'r dechnoleg ddigidol berthnasol neu'r platfform cydweithredu ar gyfer cynnal digwyddiad rhithwir

8.       sicrhau bod pawb sy'n mynd i'r digwyddiad wedi cael y gwahoddiadau electronig ac yn cadarnhau eu presenoldeb

9.       rhoi gwybod i bawb sy'n mynd i'r digwyddiad am y platfform digidol rydych chi'n ei ddefnyddio ar gyfer y cyfarfod rhithwir

10.   profi'r feddalwedd ymlaen llaw gyda phawb sy'n mynd i'r digwyddiad

11.   mynd i'r afael ag unrhyw risgiau posibl a nodi cynlluniau wrth gefn

12.   dyrannu lleoliadau addas a chyfrifo eu costau yn unol â gofynion cyllideb y cytunwyd arnynt

13.   nodi a chytuno ar yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen ar gyfer y digwyddiad

14.   cysylltu ag aelodau staff y lleoliad i gadarnhau gofynion y digwyddiad

15.   dilyn y gofynion cyfreithiol a chytundebol perthnasol

16.   sicrhau bod y digwyddiad yn cydymffurfio â gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd

17.   helpu i gynhyrchu deunyddiau ar gyfer digwyddiad a'u dosbarthu

18.   rhoi cyfarwyddiadau ymuno a deunyddiau am y digwyddiad i'r rhai sy'n mynd iddo

19.   gwneud trefniadau ar gyfer cynnal ymarferion, os oes angen, i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn unol â'r cynllun

20.   dirprwyo tasgau i aelodau tîm y digwyddiad a sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu a'u hyfforddi i gyflawni eu rolau

21.   sicrhau bod yr holl gyfleusterau ac adnoddau angenrheidiol yn eu lle yn ystod y digwyddiad

22.   cydlynu gweithgareddau ac adnoddau yn ystod y digwyddiad yn unol â chynlluniau y cytunwyd arnynt

23.   ymateb i anghenion y rhai sy'n bresennol trwy gydol cyfnod y digwyddiad

24.   sicrhau bod y siaradwyr yn bresennol ac yn cyflwyno mewn trefn ac yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt

25.   sicrhau bod yr holl gynnwys gweledol yn ei le ac yn cael ei gyflwyno mewn fformat y cytunwyd arno

26.   datrys unrhyw broblemau mewn modd proffesiynol ac amserol

27.   monitro cydymffurfiad â gofynion iechyd, diogelwch a diogelwch perthnasol

Ar ôl y digwyddiad

28.   clirio'r lleoliad a'i adael yn unol â thelerau'r contract

29.   cynnal gweithgareddau dilynol, yn ôl yr angen

30.   dosbarthu'r ffurflenni adborth i bawb oedd yn bresennol

31.   dadansoddi unrhyw adborth o'r digwyddiad a'i rannu ag aelodau staff perthnasol

32.   cytuno ar bwyntiau dysgu allweddol a defnyddio'r rhain i gynnal digwyddiadau yn well yn y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y cofnodion yn y dyddiadur mewn perthynas â phob apwyntiad a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â digwyddiadau
  2. sut i ddiweddaru'r dyddiadur i adlewyrchu unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt
  3. y gwahoddiadau electronig ar gyfer y digwyddiad i bawb sy'n mynd iddo
  4. y trefniadau amgen os oes apwyntiadau yn cyd-daro
  5. y newidiadau y cytunwyd arnynt ar gyfer y mynychwyr sydd wedi'u heffeithio
  6. sut i drefnu a chydlynu cynlluniau digwyddiadau i gyflawni amcanion y brîff
  7. y gwahanol fathau o ddigwyddiadau a'u prif nodweddion
  8. y dechnoleg ddigidol berthnasol neu'r platfform cydweithredu ar gyfer cynnal digwyddiad rhithwir
  9. pam mae'n bwysig profi'r technolegau cyn y digwyddiad
  10. sut i nodi lleoliadau addas ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau
  11. y mathau o adnoddau sydd eu hangen i baratoi ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau
  12. y mathau o risgiau sy'n gysylltiedig â digwyddiadau a sut i sicrhau bod cyn lleied o'r rhain â phosibl
  13. yr offer sydd ei angen ar gyfer y digwyddiad a sut i'w brofi
  14. yr arddangosfeydd gweledol a'r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y digwyddiad
  15. y math o wybodaeth fydd ei hangen ar y rhai sy'n mynd i'r digwyddiad ac unrhyw ofynion arbennig a allai fod ganddynt
  16. sut i gydlynu'r siaradwyr sy'n cyflwyno'u hunain yn ystod y digwyddiad yn unol â threfn ymddangos ac amserlenni y cytunwyd arnynt
  17. y mathau o weithgareddau ac adnoddau y gallai fod angen eu cydlynu yn ystod digwyddiad
  18. y mathau o broblemau a allai godi yn ystod digwyddiadau a sut i ddatrys y rhain
  19. y pwyntiau i'w harsylwi wrth glirio digwyddiad a'i adael
  20. y mathau o weithgareddau dilynol y gallai fod angen eu cynnal
  21. y gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd wrth drefnu digwyddiadau
  22. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer contractau
  23. diben a gwerth gwerthuso digwyddiad a'r dulliau y gallwch eu defnyddio
  24. y mathau o bapurau y gallai fod angen eu cylchredeg ar ôl digwyddiad
  25. y cyfrifoldebau a'r gweithdrefnau cyllidebol
  26. y mathau o wybodaeth y mae'n rhaid i chi eu cael
  27. diben cadw'r cofnodion yn gyfredol
  28. diben ceisio cydbwyso anghenion pawb sy'n gysylltiedig
  29. y gwahanol fathau o broblemau a allai godi wrth wneud ceisiadau newydd a'r atebion i'r problemau hyn
  30. y ffurflenni adborth ar gyfer coladu ymatebion gwerthuso ar ôl y digwyddiad
  31. sut i ddadansoddi'r adborth a goladwyd a nodi pwyntiau i'w gwella

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. gwirio

  2. cyfathrebu

  3. gwneud penderfyniadau

  4. sgiliau rhyngbersonol

  5. rheoli adnoddau

  6. rheoli amser

  7. cynllunio

  8. monitro

  9. cyd-drafod

  10. trefnu

  11. datrys problemau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Digwyddiadau a Chyfarfodydd; Cyfathrebu


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAA311, CFABAA312, CFABAA431

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; digwyddiad, trefniadaeth, cyflwyniad, dyddiadur electronig