Paratoi cyflwyniad a'i gyflwyno

URN: INSBA015
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi cyflwyniad a'i gyflwyno. Rydych chi'n cytuno ar ddiben, cynnwys, arddull a hyd y cyflwyniad cyn mynd ati i ymchwilio i'r cyflwyniad a'i ddatblygu i weddu i'ch cynulleidfa. Wrth wneud y cyflwyniad, rydych yn defnyddio tôn llais, cyflymder, lefel sain ac iaith y corff i atgyfnerthu neges y cyflwyniad a chynnal diddordeb y gynulleidfa. Rydych chi'n gwneud trefniadau wrth gefn ar gyfer problemau posibl a allai godi. Mae'r safon hefyd yn cynnwys myfyrio ar ddeilliannau'r cyflwyniad i nodi pwyntiau dysgu personol a gwelliannau ar gyfer cyflwyniadau yn y dyfodol.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n paratoi cyflwyniadau a'u cyflwyno.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau'r gynulleidfa fydd yn gwrando ar y cyflwyniad a'u hanghenion
  2. cytuno ar amcanion, cynnwys, arddull ac amser y cyflwyniad gyda rhanddeiliaid
  3. ymchwilio i gynnwys i'w ddefnyddio yn y cyflwyniad
  4. nodi'r offer, y feddalwedd a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer creu'r cyflwyniad a'i gyflwyno
  5. paratoi'r cyflwyniad i fodloni amcanion ac anghenion y gynulleidfa
  6. paratoi taflenni a deunyddiau i ategu'r cyflwyniad
  7. rhoi cyfle i gydweithwyr gynnig eu syniadau a'u barn ar y dyluniad
  8. paratoi cynlluniau wrth gefn rhag ofn y bydd offer yn methu neu broblemau eraill
  9. ymarfer cyflwyno'ch cyflwyniad
  10. gwneud yn siŵr bod yr offer a'r adnoddau'n gweithio'n iawn
  11. paratoi deunyddiau cyflwyno ar gyfer y gynulleidfa
  12. cyflwyno eich hun i'r gynulleidfa a datgan nodau'r cyflwyniad
  13. siarad yn glir ac yn hyderus, gan ddefnyddio iaith sy'n briodol i'r pwnc a'r gynulleidfa
  14. defnyddio'r offer neu'r cyfarpar perthnasol i gynnal y cyflwyniad
  15. amrywio tôn y llais, cyflymder a lefel y sain i bwysleisio pwyntiau allweddol a chynnal diddordeb y gynulleidfa
  16. defnyddio iaith eich corff mewn ffordd sy'n atgyfnerthu eich neges
  17. mesur ymatebion y gynulleidfa yn ystod y cyflwyniad ac addasu eich cyflwyniad yn unol â hynny
  18. crynhoi'r pwyntiau allweddol ar ôl eich cyflwyniad
  19. rhoi cyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau
  20. gwrando'n ofalus ar gwestiynau ac egluro eich dealltwriaeth
  21. diwallu anghenion y gynulleidfa wrth ateb cwestiynau
  22. casglu adborth ar y cyflwyniad
  23. myfyrio ar eich perfformiad eich hun a nodi pwyntiau i'w dysgu

  24. datrys unrhyw broblemau sy'n codi wrth ddatblygu, paratoi a chyflwyno

  25. gwerthuso'r cyflwyniad a nodi newidiadau fydd yn gwella cyflwyniadau yn y dyfodol
  26. dilyn y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gadarnhau gofynion y cyflwyniad gyda rhanddeiliaid
  2. manteision ac anfanteision defnyddio cyflwyniadau i roi gwybodaeth
  3. yr offer, y feddalwedd a'r adnoddau i'w cyflwyno
  4. sut i ymchwilio a dewis cynnwys ar gyfer cyflwyniadau
  5. y gwahanol ffyrdd o ddatblygu cyflwyniadau a'u nodweddion
  6. sut i ddewis y dull gorau ar gyfer gwneud cyflwyniadau
  7. sut i baratoi cyflwyniadau diddorol, perthnasol, addysgiadol ac sy'n ymgysylltu
  8. sut i deilwra cyflwyniadau i'r gynulleidfa i ddiwallu eu hanghenion unigol ac fel grŵp

  9. sut gellir defnyddio taflenni a deunyddiau ategol i gynorthwyo cyflwyniadau

  10. sut i deilwra'r cyflwyniad i anghenion y gynulleidfa
  11. diben a manteision ymarfer gwneud cyflwyniadau
  12. yr effaith y mae iaith, iaith y corff, tôn y llais, lefel y sain a chyflymder yn ei chael ar y gynulleidfa a sut i ddefnyddio'r rhain i sicrhau'r ymgysylltiad mwyaf
  13. sut i ymarfer gwneud cyflwyniadau o fewn yr amser a ddyrennir
  14. sut i addasu'r dull cyflwyno drwy ymarfer ymlaen llaw
  15. sut gall taflenni gynorthwyo cyflwyniadau
  16. y mathau o offer a ddefnyddir ar gyfer cyflwyniadau a'u nodweddion
  17. pwysigrwydd gwirio offer ymlaen llaw
  18. sut i ddefnyddio'r offer ar gyfer gwneud cyflwyniadau
  19. y mathau o broblemau a allai godi gydag offer cyflwyno a sut i'w datrys
  20. sut i fesur ymatebion cynulleidfa i'r cyflwyniad
  21. pwysigrwydd ymateb yn effeithiol i gwestiynau'r gynulleidfa a'r effaith y mae hyn yn ei chael
  22. y dulliau casglu adborth gan y gynulleidfa ar y cyflwyniad
  23. sut i werthuso'r cyflwyniad o safbwynt personol a sefydliadol
  24. sut i nodi newidiadau yn eich ymarfer eich hun ar gyfer cyflwyniadau yn y dyfodol
  25. y codau ymarfer a'r polisïau cyfreithiol, sefydliadol sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. cyfathrebu
  2. gwerthuso
  3. rheoli amser
  4. trefnu
  5. cynllunio
  6. cyflwyno

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAA617, CFABAA623

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; cyflwyniad; cyfathrebu