Dylunio a chynhyrchu dogfennau mewn amgylchedd busnes

URN: INSBA013
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chynhyrchu dogfennau proffesiynol o safon uchel yn unol â manylebau y cytunwyd arnynt. Mae'n cynnwys egluro'r gofynion ar gyfer y dogfennau, gwirio gwaith, golygu a chywiro'r rhain yn ôl yr angen.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gweinyddu busnes sy'n dylunio ac yn cynhyrchu dogfennau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno ar ddiben, cynnwys, arddull, safonau ansawdd ar gyfer y dogfennau
  2. cadarnhau'r dyddiadau ar gyfer cwblhau'r dogfennau
  3. dyrannu a pharatoi'r adnoddau gofynnol er mwyn cynhyrchu'r dogfennau
  4. ymchwilio i'r cynnwys gofynnol a'i baratoi
  5. defnyddio'r dechnoleg berthnasol er mwyn cynhyrchu'r dogfennau
  6. drafftio'r dogfennau yn unol â manylebau a'r fformat y cytunwyd arnynt
  7. adolygu'r drafftiau ac ymgorffori sylwadau adolygu
  8. gwirio'r dogfennau a'u diwygio yn ôl yr angen
  9. dylunio a chynhyrchu'r dogfennau yn yr arddull y cytunwyd arni
  10. integreiddio gwrthrychau nad ydynt yn destun yn y gosodiad y cytunwyd arno
  11. cadw a storio'r ddogfen yn ddiogel mewn lleoliadau perthnasol
  12. glynu wrth y ddeddfwriaeth berthnasol o ran diogelu data a chyfrinachedd
  13. egluro gofynion dogfennau, pan fo angen
  14. defnyddio'r dulliau perthnasol ar gyfer rheoli fersiwn y dogfennau
  15. adolygu, golygu a diweddaru'r dogfennau'n rheolaidd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben, cynnwys, arddull, safonau ansawdd y dogfennau
  2. y dyddiadau ar gyfer cwblhau'r dogfennau
  3. sut i ddyrannu a pharatoi'r adnoddau gofynnol er mwyn cynhyrchu'r dogfennau
  4. y gwahanol fformatau y gellir cyflwyno'r dogfennau ynddynt
  5. y gwahanol fathau o dechnoleg sydd ar gael ar gyfer mewnbynnu, fformatio a golygu dogfennau a'u prif nodweddion
  6. y manylebau a'r fformatau y cytunwyd arnynt ar gyfer cynhyrchu'r dogfennau
  7. sut i geisio adolygu'r dogfennau ac ymgorffori'r sylwadau
  8. sut i wirio'r dogfennau, gan gynnwys sillafu a gramadeg
  9. sut i ddylunio'r dogfennau yn yr arddull y cytunwyd arni
  10. sut i integreiddio a dylunio testun a gwrthrychau nad ydynt yn destun
  11. sut i gadw'r ddogfen a'i storio'n ddiogel
  12. y ddeddfwriaeth berthnasol o ran diogelu data a chyfrinachedd
  13. y dulliau rheoli fersiynau o'r dogfennau
  14. pam mae'n bwysig adolygu'r dogfennau a'u diweddaru'n rheolaidd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. gwirio

  2. dylunio

  3. gwrando

  4. rheoli amser

  5. cyd-drafod

  6. trefnu

  7. cwestiynu

  8. ymchwilio

  9. defnyddio technoleg

  10. rheoli fersiynau

  11. adolygu, prawfddarllen, golygu


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Cynhyrchu Dogfennau; TG; Iechyd, Diogelwch a Diogeledd Pobl, Safleoedd ac Eiddo


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAA211, CFABAA212

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; dogfennau