Gweithredu gwasanaethau gweinyddol a’u cynnal

URN: INSBA012
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu gwasanaethau gweinyddol a'u cynnal. Nod y gwasanaethau hyn yw diwallu anghenion penodol, gan argymell gwelliannau, lle bo angen. Mae'n cynnwys gweithio gyda defnyddwyr yn rhan o'r broses ddylunio, cynllunio a gweithredu, gan wneud yn siŵr bod gwasanaethau'n cael eu defnyddio o fewn manylebau wrth gael adborth i fodloni'r gofynion. Mae'n weithgaredd cylchol gyda sawl elfen yn cael ei hailadrodd, felly nid yw'r meini prawf o reidrwydd mewn trefn gronolegol. Er enghraifft, efallai y bydd angen adolygu a gwerthuso rhai gwasanaethau gweinyddol, cyn cynllunio rhai newydd.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gweinyddu busnes mewn rolau goruchwylio neu reoli sy'n gyfrifol am weithredu gwasanaethau gweinyddol a'u cynnal.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi gwasanaethau gweinyddol i'w cynllunio a'u gweithredu
  2. datblygu a chofnodi manylebau yn unol â gofynion cyfreithiol a threfniadol
  3. cytuno ar fanylebau a chyllidebau ar gyfer gwasanaethau gweinyddol
  4. creu opsiynau dylunio ar gyfer gwasanaethau gweinyddol o fewn manylebau a chyllidebau y cytunwyd arnynt
  5. cytuno ar gynlluniau ar gyfer gweithredu gwasanaethau gweinyddol
  6. gwirio bod cynlluniau'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol
  7. gweithredu gwasanaethau gweinyddol yn unol â chynlluniau y cytunwyd arnynt
  8. cynnwys defnyddwyr wrth gynllunio sut y caiff gwasanaethau gweinyddol eu gweithredu
  9. gweithio gyda defnyddwyr i fodloni gofynion ar gyfer gwasanaethau gweinyddol, systemau a gweithdrefnau i'w cynorthwyo
  10. rhoi cymorth i ddefnyddwyr i'w galluogi i ddefnyddio gwasanaethau gweinyddol
  11. cymryd camau i darfu cyn lleied â phosibl ar allbwn gwaith a'r amgylchedd gwaith wrth roi'r gwasanaeth ar waith
  12. monitro'r gwasanaethau gweinyddol i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio o fewn gofynion penodedig
  13. cymryd camau os nad yw gwasanaethau gweinyddol yn cael eu defnyddio o fewn y gofynion
  14. annog defnyddwyr i roi sylwadau ar wasanaethau gweinyddol ac awgrymu sut y gellid eu gwella
  15. casglu'r wybodaeth berthnasol ar gyfer gwerthuso gwasanaethau gweinyddol
  16. gwneud gwelliannau i'r gwasanaethau gweinyddol yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoliadol
  17. cyfleu gwelliannau'r gwasanaethau gweinyddol i bawb sy'n gysylltiedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwasanaethau gweinyddol yn eich maes cyfrifoldeb eich hun
  2. y manylebau a'r cyllidebau ar gyfer gwasanaethau gweinyddol
  3. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol ar gyfer gwasanaethau gweinyddol
  4. lefelau eich awdurdod eich hun o ran gweithredu, monitro a chynnal gwasanaethau gweinyddol
  5. sut i gytuno ar fanylebau a chyllidebau ar gyfer gwasanaethau gweinyddol
  6. sut i baratoi cynlluniau ar gyfer rhoi gwasanaethau gweinyddol ar waith
  7. y defnyddwyr perthnasol ar gyfer rhoi gwasanaethau gweinyddol ar waith a'u cynnal
  8. sut i roi cymorth wrth gynllunio gwasanaethau gweinyddol a'u rhoi ar waith
  9. y mathau o gymorth sydd ar gael a sut i ddewis y math mwyaf priodol o gymorth a'i roi i ddefnyddwyr gwasanaethau gweinyddol
  10. sut i nodi ffactorau a allai amharu ar allbwn ac amgylchedd gwaith
  11. sut i fonitro'r gwasanaethau gweinyddol o fewn gofynion penodol
  12. y camau i'w cymryd os nad yw gwasanaethau'n cael eu defnyddio o fewn y gofynion
  13. sut i annog defnyddwyr i wneud sylwadau ac awgrymu gwelliannau i'r gwasanaethau gweinyddol
  14. sut i gasglu'r wybodaeth ar gyfer gwerthuso gwasanaethau gweinyddol
  15. y newidiadau gofynnol i wasanaethau gweinyddol presennol neu roi rhai newydd ar waith
  16. sut i nodi gwelliannau posibl mewn gwasanaethau gweinyddol a'r manteision a allai ddeillio ohonynt
  17. pa aelodau staff perthnasol sydd angen cael gwybod am y gwelliannau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. gwirio

  2. cyfathrebu

  3. ymgynghori

  4. gwneud penderfyniadau

  5. gwrando

  6. rheoli gwybodaeth

  7. rheoli amser

  8. cyd-drafod

  9. cynllunio

  10. darllen

  11. ymchwilio

  12. defnyddio technoleg

  13. cwestiynu


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Gwasanaethau Cymorth i Fusnesau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAA119, CFABAA122

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth, gwasanaethau gweinyddol