Ymgymryd ag arferion gwaith a’u hategu mewn amgylchedd busnes

URN: INSBA008
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgymryd ag arferion gwaith ategol mewn amgylchedd busnes. Mae'n cynnwys cefnogi diben a gwerthoedd eich sefydliad, asesu a rheoli risgiau, cynnal diogelwch a chyfrinachedd, yn ogystal â hyrwyddo amrywiaeth a chynaliadwyedd.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gweinyddu busnes sydd mewn rolau goruchwylio neu reoli ac sy'n gyfrifol am ymgymryd arferion gwaith a'u hategu mewn amgylchedd busnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cefnogi diben a gwerthoedd eich sefydliad

1.       cefnogi cenhadaeth gyffredinol eich sefydliad ac amcanion eich tîm

2.       nodi diben, polisïau, gweithdrefnau a gwerthoedd eich sefydliad

3.       rhoi gwerthoedd eich sefydliad ar waith ym mhob agwedd ar eich gwaith

4.       gweithio gyda sefydliadau a rhanddeiliaid allanol mewn ffordd sy'n gwella delwedd eich sefydliad

5.       gwella eich arferion gwaith yn unol ag amcanion, polisïau, systemau, gweithdrefnau a gwerthoedd y sefydliad

Asesu a rheoli risgiau

6.       nodi ffynonellau risg posibl

7.       asesu lefelau risgiau

8.       monitro a lliniaru risgiau

9.       nodi unrhyw risgiau posibl a'u rheoli pan mae'r rhain yn digwydd

10.   gwerthuso eich dulliau asesu a rheoli risgiau

Cynnal diogelwch a chyfrinachedd

11.   cynnal diogelwch a chyfrinachedd gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth gyfredol ynghylch diogelu data a defnyddio technolegau

12.   rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch diogelwch a chyfrinachedd i'r aelod staff neu'r asiantaeth berthnasol

Cefnogi amrywiaeth

13.   sefydlu a chynnal amgylchedd gwaith sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn parchu pob aelod staff yn eich sefydliad

14.   gweithio gyda chydweithwyr a defnyddio eu profiad i wella eich arferion gwaith a'ch dulliau cyfathrebu

15.   rhyngweithio â chydweithwyr mewn modd proffesiynol sy'n parchu eu cefndir, galluoedd, gwerthoedd, arferion a chredoau

16.   cynnal hawliau aelodau staff, pan fo angen

17.   dilyn gweithdrefnau a gofynion cyfreithiol eich sefydliad mewn cysylltiad â deddfwriaeth cydraddoldeb

Cynorthwyo cynaliadwyedd

18.   sefydlu gweithdrefnau rheoli gwastraff a'u cynnal

19.   cynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosibl a dilyn gweithdrefnau ar gyfer ailgylchu a gwaredu deunyddiau gwastraff

20.   dilyn gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cynnal a chadw offer

21.   mynd ati'n barhaus i adolygu dulliau gweithio, gan gynnwys defnyddio technoleg, a ffyrdd o wella effeithlonrwydd

22.    nodi offer a deunyddiau sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian

23.   cynorthwyo cydweithwyr i berfformio yn y ffordd orau a rhoi'r gwerth mwyaf i'r sefydliad

24.   sefydlu a chynnal gweithdrefnau ar gyfer cynnal a chadw offer

25.   gwella'ch dulliau gweithio a'r defnydd o dechnoleg i gynorthwyo cynaliadwyedd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cefnogi diben a gwerthoedd eich sefydliad

1.       cenhadaeth eich sefydliad ac amcanion y tîm

2.       diben, polisïau, gweithdrefnau a gwerthoedd eich sefydliad

3.       cylch gwaith eich cyfrifoldebau gwaith a'ch awdurdod

4.       yr arferion gweithio gyda sefydliadau a rhanddeiliaid allanol

5.       sut i wella eich arferion gwaith yn unol â nodau ac amcanion y sefydliad

Asesu a rheoli risgiau

6.       ffynonellau'r risgiau yn y gwaith rydych chi'n ei wneud

7.       sut i asesu a monitro risgiau

8.       y dulliau monitro risg a'i liniaru

9.       pwysigrwydd adolygu a gwerthuso sut i nodi risgiau

Cynnal diogelwch a chyfrinachedd

10.   diben a manteision cynnal diogelwch a chyfrinachedd

11.   gweithdrefnau eich sefydliad a'r ddeddfwriaeth gyfredol ynghylch diogelu data a defnyddio technolegau

12.   sut i roi gwybod i'r aelod staff neu'r asiantaeth berthnasol am unrhyw bryderon ynghylch diogelwch a chyfrinachedd

Cefnogi amrywiaeth

13.   beth yw ystyr amrywiaeth a pham y dylid ei werthfawrogi

14.   yr amgylchedd gwaith sy'n hyrwyddo amrywiaeth ac yn parchu pob aelod staff yn eich sefydliad

15.   diben a manteision gweithio gyda chydweithwyr a defnyddio eu profiad i wella eich arferion gwaith a'ch dulliau cyfathrebu

16.   y dulliau rhyngweithio â chydweithwyr gan barchu eu cefndir, galluoedd, gwerthoedd, arferion a chredoau

17.   manteision cefnogi amrywiaeth yn eich sefydliad

18.   sut i sicrhau bod yr amgylchedd gwaith yn cefnogi amrywiaeth ac yn gwneud y defnydd gorau o ddoniau pawb sy'n gysylltiedig

19.   sut i gynnal hawliau aelodau staff

20.   y ddeddfwriaeth berthnasol er mwyn cynorthwyo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn amgylchedd gwaith

Cynorthwyo cynaliadwyedd

21.   prif achosion gwastraff mewn amgylchedd gweinyddu busnes a sut i sicrhau bod cyn lleied o'r rhain â phosibl

22.   y gofynion cymdeithasol a chyfreithiol ar gyfer ailgylchu gwastraff a'i waredu a'r gweithdrefnau sefydliadol sydd ar waith i gynorthwyo'r rhain

23.   sut y gall cynnal a chadw offer yn rheolaidd helpu i leihau gwastraff a'r gweithdrefnau y dylech eu rhoi ar waith

24.   sut i ddefnyddio technoleg i helpu i wella arferion gwaith

25.   sut i gynnwys pob rhanddeiliad er mwyn gwella dulliau gweithio yn barhaus a'r defnydd o dechnoleg er mwyn bod mor effeithlon â phosibl

26.   sut i ddewis ffynonellau deunyddiau ac offer sy'n rhoi'r gwerth gorau am arian

27.   diben a manteision ystyried cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol wrth ddewis cyflenwyr

28.   eich dulliau gweithio a'r defnydd o dechnoleg i gefnogi cynaliadwyedd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. cyfathrebu
  2. sgiliau rhyngbersonol
  3. monitro
  4. cynllunio
  5. datrys problemau
  6. darllen
  7. gweithio mewn tîm
  8. gweithio gydag aelodau staff eraill

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Adnoddau Busnes


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAF172, CFABAF173, CFABAF174

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; amrywiaeth