Cynorthwyo prosiectau sefydliadol

URN: INSBA006
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cymorth gweinyddol i brosiectau sefydliadol. Mae'n cynnwys cynorthwyo wrth gynllunio, gweithredu a monitro prosiectau er mwyn cyflawni'r deilliannau. Mae'n cynnwys cyfathrebu â phawb sy'n ymwneud â'r prosiectau, cadw cofnodion o weithgareddau prosiectau a pharatoi adroddiadau cynnydd.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n cynorthwyo prosiectau sefydliadol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r holl randdeiliaid sy'n gysylltiedig â'r prosiect
  2. cefnogi tîm y prosiect drwy baratoi gwybodaeth sy'n cadarnhau diben y prosiect gyda'r holl randdeiliaid perthnasol
  3. cefnogi tîm y prosiect drwy baratoi gwybodaeth sy'n cadarnhau cwmpas, amserlen, nodau ac amcanion y prosiect
  4. cyfrannu at baratoi manylebau a chynlluniau'r prosiect
  5. cefnogi tîm y prosiect drwy baratoi gwybodaeth sy'n cadarnhau'r gweithgareddau a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y prosiect
  6. cyfrannu at ddatblygu cynllun wrth gefn i liniaru risgiau posibl
  7. casglu a choladu gwybodaeth i roi'r prosiect ar waith a'i fonitro i fodloni'r gyllideb a'r amserlenni y cytunwyd arnynt
  8. cyfathrebu â'r holl randdeiliaid sy'n ymwneud â'r prosiect neu sydd wedi'u heffeithio gan y prosiect
  9. nodi unrhyw broblemau y gallwch wneud rhywbeth yn eu cylch a gofyn am gyngor ynghylch y problemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd a'ch awdurdod
  10. cadw cofnodion o holl weithgareddau'r prosiect yn y fformat y cytunwyd arno
  11. cefnogi tîm y prosiect i ddarparu adroddiadau dros dro ar gynnydd y prosiect i'r rhanddeiliaid perthnasol ar yr adegau y cytunwyd arnynt
  12. cefnogi tîm y prosiect i roi gwybod i'r holl randdeiliaid perthnasol pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahaniaeth rhwng gweithrediadau a phrosiectau
  2. pwy yw'r rhanddeiliaid perthnasol sy'n ymwneud â'r prosiect neu'n cael ei effeithio ganddo
  3. diben, cwmpas, amserlen, costau, nodau ac amcanion y prosiect
  4. y mathau o weithgareddau a faint o adnoddau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau
  5. y risgiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect a lliniaru'r rhain
  6. y cyfarpar sydd ar gael i gynorthwyo'r gwaith o gynllunio prosiectau a'u rheoli
  7. y wybodaeth sydd ei hangen i fonitro prosiectau
  8. y gwahanol ffyrdd o gyfathrebu â rhanddeiliaid sy'n ymwneud â phrosiect neu'n cael ei effeithio ganddo i sicrhau ei fod yn cael ei gynnal yn ddiffwdan
  9. manteision bod yn hyblyg ac addasu cynlluniau prosiect yn ôl yr angen
  10. sut i gofnodi gweithgareddau prosiect a'r fformatau perthnasol ar gyfer y rhain

  11. y gwahaniaeth rhwng adroddiadau yn ystod prosiect ac ar ôl ei gwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. defnyddio rhifedd

  2. dadansoddi

  3. cyfathrebu:

  4. gwerthuso

  5. rheoli amser

  6. monitro

  7. trefnu

  8. rheoli adnoddau

  9. blaenoriaethu

  10. datrys problemau.

  11. cynllunio


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Systemau Cymorth i Fusnesau; Rheoli Gwybodaeth


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAA151

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; prosiectau