Datblygu eich hun a gwella eich perfformiad mewn amgylchedd busnes

URN: INSBA003
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes
Datblygwyd gan: Skills CFA
Cymeradwy ar: 08 Chwef 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu eich hun a gwella eich perfformiad mewn amgylchedd busnes. Mae'r safon yn cynnwys cynllunio'r gwelliannau, derbyn cynlluniau a chyfrifoldeb am eich gwaith a'i gyflawni. Mae'n cynnwys cyd-drafod targedau gwaith a'r adnoddau sydd eu hangen i'w cyflawni, myfyrio ar unrhyw gamgymeriadau a dysgu oddi wrthynt, gosod targedau ar gyfer eich perfformiad a dangos ymrwymiad i'w cyflawni. Mae datblygu eich hun yn agwedd bwysig ar eich perfformiad gan ei fod yn mynd i'r afael â deallusrwydd emosiynol, eich lles, iechyd meddwl, cydbwysedd rhwng bywyd personol a phroffesiynol nid yn unig mewn amgylchedd swyddfa, ond hefyd wrth weithio o bell, neu o gartref.

Mae'r safon hon yn seiliedig ar dri phrif faes:

  1. Cynllunio eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano
  2. Cynorthwyo'r arferion gwaith
  3. Datblygu eich hun.

Mae ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn rolau gweinyddu busnes sy'n datblygu eu hunain ac yn gwella eu perfformiad eu hunain mewn amgylchedd busnes.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano

1.       nodi targedau perfformiad a chytuno arnynt a'r amserlenni ar gyfer eu cyflawni

2.       cynllunio sut i wneud y defnydd gorau o amser a nodi'r adnoddau angenrheidiol

3.       cadarnhau'r dulliau a'r arferion gweithio gyda'ch rheolwr llinell

4.       rhoi gwybod i'ch rheolwyr llinell am sut ydych yn dod yn eich blaen

5.       dilyn y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer delio â phroblemau

6.       ysgwyddo cyfrifoldeb am eich gwaith eich hun a derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau

7.       gofyn am gefnogaeth a chymorth gan eich cydweithwyr neu aelodau'r tîm lle bo angen

8.       cwrdd â'ch terfynau amser neu aildrafod targedau a chynlluniau

9.       myfyrio ar eich perfformiad a'i adolygu yn unol â'r gwersi a ddysgwyd

10.   dilyn canllawiau, gweithdrefnau a, lle bo hynny'n briodol, codau ymarfer y cytunwyd arnynt

Cynorthwyo'r arferion gwaith

11.   gosod y targedau ar gyfer eich perfformiad eich hun a dangos ymrwymiad i'w cyflawni

12.   ymdopi â phwysau a goresgyn anawsterau a phan mae pethau'n mynd o chwith

13.   chwilio am heriau newydd ac arwain y gwaith o fynd i'r afael â nhw

14.   addasu i newid a chynorthwyo cydweithwyr ac aelodau'r tîm yn ystod y broses

15.   trin cydweithwyr ac aelodau'r tîm gyda gonestrwydd, parch ac ystyriaeth

16.   cynorthwyo cydweithwyr ac aelodau'r tîm gyda thasgau gwaith

Datblygu eich hun

17.   gofyn am adborth gan eich cydweithwyr ac aelodau'r tîm

18.   coladu'r adborth a dderbyniwyd er mwyn gwerthuso'ch gwaith eich hun

19.   nodi dulliau i wella'ch gwaith, a phrofi eu heffeithiolrwydd gydag ymarfer gwaith

20.   diweddaru eich cynlluniau ar gyfer dysgu a gwella

21.   adolygu eich cynnydd gyda rheolwyr llinell yn rheolaidd

22.   nodi eich anghenion dysgu a datblygu er mwyn gwella perfformiad

23.   datblygu a dilyn cynllun dysgu sy'n diwallu eich anghenion

24.   adolygu eich perfformiad trwy hunanfyfyrio wrth weithio tuag at gyflawni eich amcanion

25.   defnyddio deallusrwydd emosiynol i gydnabod a gwerthuso eich cryfderau a'ch gwendidau, teimladau, barn a safbwyntiau eich hun a'ch cydweithwyr

26.   chwilio am ffynonellau newydd sy'n rhoi cymorth ac adborth, pan mae angen

27.   cymryd camau i gynnal eich lles, iechyd meddwl, cydbwysedd rhwng eich bywyd proffesiynol a phersonol, pan mae angen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano

1.       sut i nodi'r targedau perfformio a'r amserlenni ar gyfer cyflawni a chytuno arnynt

2.       y technegau cynllunio a rheoli amser

3.       cwmpas yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r targedau perfformio

4.       y dulliau a'r arferion gweithio yn eich rôl

5.       sut i gadw golwg ar gynnydd eich perfformiad a pham mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch rheolwr llinell am hyn yn gyson

6.       y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau neu anawsterau

7.       pwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau

8.       sut i ofyn am gefnogaeth a chymorth gan eich cydweithwyr neu aelodau'r tîm

9.       y canllawiau, y gweithdrefnau a'r codau ymarfer sy'n berthnasol i'ch gwaith

10.   manteision a gwerth gwella eich gwaith yn barhaus

Cynorthwyo'r arferion gwaith

11.   targedau eich perfformiad eich hun a phwysigrwydd eu cyflawni

12.   diben a gwerth bod yn gadarn pan fyddwch chi o dan bwysau neu'n wynebu anawsterau a rhwystrau

13.   diben a manteision bod yn bendant

14.   diben a manteision mynd ati i chwilio am heriau newydd ac addasu i newid

15.   sut i gynnig cymorth i'ch cydweithwyr ac aelodau'r tîm

16.   y mathau o ymddygiad sy'n dangos eich bod yn onest, yn barchus ac yn ystyriol

Datblygu eich hun

17.   sut i ofyn am adborth gan eich cydweithwyr ac aelodau'r tîm

18.   dulliau coladu'r adborth i werthuso'ch gwaith

19.   diben a manteision profi gwelliannau posibl i'ch gwaith

20.   sut y gall dysgu a datblygu eich helpu i wella eich gwaith, bod o fudd i'r sefydliad a rhoi hwb i'ch gyrfa

21.   sut i baratoi cynllun dysgu

22.   pam mae'n bwysig adolygu eich cynnydd gyda rheolwyr llinell yn rheolaidd

23.   y prif lwybrau sydd ar gael i chi ar gyfer symud ymlaen yn eich gyrfa

24.   y technegau hunanfyfyrio ar gyfer monitro eich perfformiad

25.   pwysigrwydd deallusrwydd emosiynol

26.   y ffynonellau cymorth ac adborth, lle bo angen

27.   eich lles, iechyd meddwl, cydbwysedd rhwng eich bywyd proffesiynol a phersonol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

  1. dadansoddi
  2. cyfathrebu
  3. coladu adborth
  4. gwneud penderfyniadau
  5. trefnu
  6. cynllunio
  7. cyflwyno gwybodaeth
  8. ymchwilio
  9. datrys problemau
  10. defnyddio technoleg

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFABAA624, CFABAA625, CFABAA626, CFABAA627

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweinyddiaeth

Cod SOC

2441

Geiriau Allweddol

Busnes; gweinyddiaeth; perfformiad personol