Prosesu buddion marwolaeth cynlluniau pensiwn

URN: FSPPSA9
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu buddion marwolaeth cynlluniau pensiwn. Rhaid i chi hysbysu'r bobl a'r adrannau perthnasol ynghylch marwolaeth yr aelod, gan gynnwys yr adran gyflogres, yr yswiriwr a'r ymddiriedolwyr, fel sy'n briodol, a gwirio a dilysu'r cais am fuddion marwolaeth, gan gynnwys cymhwystra buddiolwyr i dderbyn y rhain yn erbyn rheolau'r cynllun. Rhaid i chi gyfrifo'r buddion marwolaeth yn unol â rheolau'r cynllun, amgylchiadau'r aelod a gweithdrefnau mewnol cyn hysbysu buddiolwyr ynghylch yr hyn y gallant ei hawlio a gwneud trefniadau talu. Rhaid i chi hefyd ddiweddaru'r holl gofnodion perthnasol yn unol â hynny.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau'r holl ddogfennau cyfreithiol perthnasol a dilysu cofnod aelodau yn erbyn yr hysbysiad marwolaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Hysbysu'r yswirwyr ynghylch marwolaeth yr aelod, a chyflwyno dogfennau perthnasol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Hysbysu'r adran gyflogres i ddod â thaliadau pensiwn i ben lle bo gofyn, a threfnu bod unrhyw ordaliadau'n cael eu hawlio'n ôl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Gwirio bod ceisiadau am fuddion marwolaeth wedi'u hawdurdodi gan y bobl briodol a'u cefnogi gan ddogfennau perthnasol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Dilysu cymhwystra buddiolwyr i dderbyn buddion marwolaeth aelodau yn erbyn rheolau'r cynllun, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Anfon yr holl wybodaeth berthnasol at ymddiriedolwyr i ymarfer disgresiwn, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Gwirio yn erbyn cofnodion aelodau bod lefel y cyflog a fydd yn sail i'r buddion yn rhesymol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau mewn ceisiadau a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cyfrifo buddion marwolaeth wrth ystyried unrhyw ddewisiadau gan aelod, yn unol â rheolau'r cynllun ac unrhyw ofynion statudol eraill sy'n berthnasol o ran cynlluniau pensiwn
  10. Rhoi unrhyw ddebydau ysgariad ar waith oddi mewn i reolau'r cynllun, amgylchiadau'r aelod, ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. Hysbysu buddiolwyr ynghylch yr hyn y gallant ei hawlio a threfnu buddion marwolaeth a phensiwn parhaus unrhyw ddibynnydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. Diweddaru cofnodion aelodau sydd wedi marw a'u dibynyddion, gan gynnwys cofnodi dyddiadau dod i ben ar gyfer pensiynau plant, a sefydlu taliadau pensiwn gan gymryd rheolau cynlluniau i ystyriaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
  2. Dehongli a chymhwyso gofynion statudol a pherthnasol cynlluniau pensiwn yn dilyn hysbysiad marwolaeth, a'r effaith ar fuddion
  3. Y gwahaniaeth rhwng buddion marwolaeth cyn-ymddeoliad ac ôl-ymddeoliad
  4. O dan ba amgylchiadau y byddai awdurdodi gan berson priodol yn ofynnol
  5. Dogfennaeth sy'n gysylltiedig â thalu buddion marwolaeth, gan gynnwys MPAVCs ac FSAVCs, a'r amgylchiadau lle mae prawf profiant/llythyrau gweinyddu yn ofynnol
  6. Sut mae defnyddio dulliau cyfrifo ac arferion safonol, fel sy'n briodol
  7. Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
  8. Y gofynion ar gyfer rhyddhau buddion a sut mae dehongli a chymhwyso rheoliadau statudol a pherthnasol, gan gynnwys contractio allan, i benderfynu ar y rhain
  9. Pryd mae cymhwyso rheolau Cynyddu Pensiwn wrth benderfynu ar y buddion marwolaeth sy'n daladwy
  10. Y gweithdrefnau mewnol y mae angen i chi eu dilyn a'r cofnodion y mae angen eu diweddaru wrth ryddhau buddion, gan gynnwys unrhyw lofnodwyr ac awdurdod gofynnol
  11. Y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
  12. Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i aelodau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
  2. Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
  3. Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
  4. Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
  5. Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
  6. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
  7. Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
  8. Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
  9. Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
  10. Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
  11. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
  12. Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPPSA9

Galwedigaethau Perthnasol

Clercod pensiynau ac yswiriant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweinyddu cynlluniau pensiwn; buddion marwolaeth; proses