Rhoi dyfynbrisiau ar gyfer buddion ymddeoliad cynlluniau pensiwn buddion diffiniedig a chyfraniadau diffiniedig

URN: FSPPSA7
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi dyfynbrisiau ar gyfer buddion ymddeoliad cynlluniau pensiwn buddion diffiniedig a chyfraniadau diffiniedig.  Ar ôl gwirio hysbysiadau ynghylch buddion ymddeoliad a manylion yr aelod, gan gynnwys gwirio am unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol ac anghysondebau yn yr wybodaeth, rhaid i chi ystyried maint y gronfa neu lefel y cyflog a fydd yn sail i’r buddion. Rhaid i chi gyfrifo'n gywir fuddion ymddeoliad yr aelod, gan eu cadarnhau i'r aelod ac ymateb i unrhyw gwestiynau o fewn y terfynau amser gofynnol. Rhaid i'ch cyfrifiadau gynnwys rhoi sylw i gymhwystra’r aelod o ran cymudiad di-nod, eu cofnod gwasanaeth ac unrhyw ddewisiadau y maent o bosibl eisoes wedi'u gwneud.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    Dilyn gweithdrefnau cywir i sicrhau bod awdurdod pob hysbysiad ynghylch buddion ymddeoliad yn cael ei wirio gan bobl briodol
2.    Gwirio dyddiad geni aelodau sy'n ymddeol i gadarnhau ei fod yn cyfateb i gofnod y cynllun presennol, a bod gennych y dogfennau cywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
3.    Canfod a oes unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol i'w dilyn
4.    Ystyried maint y gronfa neu lefel y cyflog a fydd yn sail i’r buddion o ran rhesymoldeb yn erbyn cofnod yr aelod
5.    Gwirio am unrhyw ddebydau ysgariad oddi mewn i reolau'r cynllun, amgylchiadau aelodau a gweithdrefnau mewnol
6.    Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau ym manylion yr aelod sy'n ymddeol a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
7.    Cyfrifo'r Cyfandaliad Cychwyn Pensiwn, gan gynnwys unrhyw fuddion yn sgîl cyfraniadau ychwanegol a dalwyd, a darparu dyfynbris ar gyfer yr opsiynau incwm sydd ar gael, gan roi ystyriaeth i'r canlynol:
7.1    cymhwystra’r aelod o ran cymudiad di-nod,
7.2    eu gwasanaeth
7.3    eu cofnod ac unrhyw ddewisiadau y maent eisoes wedi'u gwneud,
7.4    rheolau'r cynllun, ac unrhyw ofynion statudol a pherthnasol gor-redol o ran cynlluniau pensiwn a all effeithio ar y symiau
8.    Cadarnhau lwfansau oes i aelodau, a chasglu gwybodaeth ganddynt ynghylch buddion pensiwn eraill
9.    Ymateb i unrhyw ymholiadau gan aelodau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
  2. Sut mae penderfynu ar fuddion ac opsiynau ymddeoliad fel y pennwyd yn y rheoliadau
  3. Sut mae defnyddio dulliau dilysu i sicrhau bod data'n gywir
  4. Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
  5. Sut mae defnyddio dulliau cyfrifo ac arferion safonol cywir a phriodol
  6. Sut mae gofynion statudol gor-redol a gofynion perthnasol o ran cynlluniau pensiwn, gan gynnwys contractio allan a therfynau lwfans oes, yn effeithio ar fuddion, ac effaith bosibl buddion pensiwn eraill aelod ar eu buddion o dan y Cynllun
  7. Gofynion y Cynllun o ran tystiolaeth feddygol (os o gwbl), rhyddhau buddion a sut y cânt eu cymhwyso
  8. Pryd mae cymhwyso rheoliadau cynyddu pensiwn wrth benderfynu ar fuddion ymddeoliad
  9. Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
  10. Unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a'r ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys y polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf
  11. Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i aelodau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
  2. Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
  3. Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
  4. Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
  5. Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
  6. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn brydlon, yn glir, yn gryno ac yn gywir, ac mewn modd sy'n hybu dealltwriaeth
  7. Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
  8. Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
  9. Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
  10. Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
  11. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
  12. Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

PSA7

Galwedigaethau Perthnasol

Clercod pensiynau ac yswiriant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweinyddu cynlluniau pensiwn; budd diffiniedig; cyfraniad diffiniedig; buddion ymddeoliad