Derbyn a phrosesu cofnodion aelodau newydd

URN: FSPPSA1
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn a phrosesu cofnodion aelodau newydd. Ar ôl derbyn awdurdod priodol i greu neu ddiweddaru cofnodion aelodau newydd, rhaid i chi gasglu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol, gan ddatrys unrhyw fylchau neu anghysondebau yn y manylion a chadw mewn cysylltiad â chyrff allanol fel sy'n briodol i roi sylw i unrhyw ddiffygion. Rhaid i chi fewnbynnu'n gywir holl fanylion cymhwystra derbyn aelodau newydd a'u dosbarthu'n gywir, yn unol â thelerau'r cynllun pensiwn arfaethedig sy'n berthnasol iddyn nhw. Rhaid hysbysu'r aelodau newydd ynghylch eu statws pensiynadwy a'u hawliau optio allan neu ganslo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Derbyn awdurdod ar gyfer aelodau newydd cyn i'w cofnodion gael eu creu neu eu diweddaru, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Casglu'r wybodaeth sy'n ofynnol i brosesu cofnodion aelodau newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Ymchwilio i unrhyw fylchau neu anghysondebau ym manylion aelodau newydd a'u datrys, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Cysylltu â chyrff allanol i ymdrin ag unrhyw ddiffygion yn yr wybodaeth am gofnodion aelodau newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Dosbarthu pob aelod newydd yn unol â thelerau'r cynllun pensiwn arfaethedig sy'n berthnasol iddynt
  6. Mewnbynnu'r holl fanylion personol sy'n ofynnol gan y sefydliad i gofnodion aelodau newydd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Hysbysu aelodau newydd ynghylch eu statws pensiynadwy oddi mewn i'r terfynau amser gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Hysbysu aelodau newydd ynghylch eu hawliau optio allan neu ganslo, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr angen am sicrhau bod dilysu a gwirio wedi digwydd, a'r dulliau o wneud hynny
  2. Y gweithdrefnau mewnol y mae angen i chi eu dilyn er mwyn creu a diweddaru cofnodion aelodau
  3. Sut mae cymhwyso gofynion statudol a pherthnasol o ran cynlluniau pensiwn, gan gynnwys contractio allan
  4. Sut mae dilysu data aelodau o ran cyflawnder a phriodoldeb
  5. Sut mae datrys unrhyw anghysondebau neu fylchau mewn gwybodaeth
  6. Cymhwyso polisïau, ymarfer a gweithdrefnau ar gyfer llofnodwyr ac achosion o awdurdodi
  7. Y terfynau amser sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu, a chanlyniadau peidio â chydymffurfio
  8. Y ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol a'r polisïau, y gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth diweddaraf 
  9. Y meini prawf cymhwyster, y dogfennau sy'n ofynnol, a'r broses ymuno ar gyfer cynllun pensiwn
  10. Y gwahaniaeth rhwng rhoi cyngor ariannol a darparu gwybodaeth i'r aelod
  11. Yr angen am sicrhau cyfrinachedd cleientiaid a chadw cofnodion yn ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn sensitif i ddiffyg arbenigedd technegol aelodau ac yn defnyddio eich greddf a'ch profiad i'w helpu i ddeall y materion yn llawn
  2. Rydych yn casglu ac yn rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol a chan barchu cyfrinachedd
  3. Mae gennych ddealltwriaeth glir o gwmpas a therfynau eich awdurdod i wneud penderfyniadau
  4. Rydych yn nodi anghenion gwybodaeth cydweithwyr, cleientiaid ac eraill
  5. Rydych yn darparu gwybodaeth briodol i'r rhai sydd ag angen amdani ac sydd â hawl i'w derbyn
  6. Rydych yn chwilio am welliannau posibl ac yn cynnig llwybrau gweithredu sy'n amserol, yn briodol ac yn gyflawnadwy
  7. Rydych yn ymfalchïo yn ansawdd eich gwaith
  8. Rydych yn deall anghenion a chymhellion pobl eraill
  9. Rydych yn gweithio mewn modd proffesiynol, cydweithredol, gan gefnogi'ch gilydd
  10. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
  11. Rydych yn defnyddio arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer gwahanol bobl a sefyllfaoedd

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPPSA1

Galwedigaethau Perthnasol

Clercod pensiynau ac yswiriant

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweinyddu cynlluniau pensiwn; cofnodion aelodau newydd; derbyn a phrosesu gweinyddiaeth