Tansgrifennu dyfynbrisiau ar gyfer busnes bywyd, pensiynau a buddsoddi newydd cymhleth

URN: FSPLPI09
Sectorau Busnes (Suites): Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu dyfynbrisiau uniongyrchol ar gyfer busnes bywyd, pensiynau a buddsoddi newydd. Mae cais yn un cymhleth os nad yw'n fater o drefn ac yn gallu cael ei wneud yn fecanyddol. Byddwch yn delio gyda cheisiadau safonol ac ansafonol, gan benderfynu a ydynt yn dderbyniol. Byddwch yn gwirio bod gennych chi'r holl wybodaeth angenrheidiol i asesu'r risg, cymhwyso telerau ac amodau priodol, a hysbysu'r cwsmer ynghylch y penderfyniad. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.

Efallai bydd y safon hon yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall, neu ar eu rhan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio bod gennych chi fanylion digonol ynghylch y cais i'ch galluogi i symud ymlaen
  2. Prosesu ceisiadau ar gyfer risgiau cymhleth yn brydlon a bwydo gwybodaeth gywir a chyflawn i'r systemau priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Gwirio gwybodaeth anghyflawn neu anghyson gyda chwsmeriaid, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Ymgynghori ag arbenigwyr os bydd angen gwneud hynny, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Cymhwyso meini prawf tansgrifennu, gan gynnwys telerau ac amodau safonol ac ansafonol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Rhoi gwybod i gwsmeriaid beth yw'r telerau a'r amodau
  7. Trefnu bod dogfennau'n cael eu cyflwyno, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Gwirio bod y bobl berthnasol yn cymryd y camau dilynol ar ôl pob dyfynbris
  9. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  4. Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
  5. Yr yswiriant sy'n cael ei ddarparu gan y polisïau rydych chi'n delio gyda nhw, gan gynnwys estyniadau a chyfyngiadau safonol ac ansafonol
  6. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch cyfathrebu â chwsmeriaid
  7. Cwestiynau safonol ac ansafonol ynghylch ceisiadau neu ymholiadau, ac atebion derbyniol
  8. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
  9. Sut mae cymhwyso meini prawf tansgrifennu i risgiau safonol ac ansafonol
  10. Y camau sy'n ofynnol os nad yw cais neu ymholiad yn bodloni'r meini prawf derbyn
  11. Systemau a gweithdrefnau ar gyfer cofnodi a chyrchu gwybodaeth cwsmeriaid
  12. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  2. Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig
  3. Rydych yn gweithredu o fewn eich awdurdod

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPLPI09

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Swyddfa bywyd; tansgrifennu; busnes newydd; contract; dogfennaeth; cynnyrch ariannol; gwasanaethau ariannol; newidiadau i'r contract; risg; gwasanaeth cwsmeriaid