Prosesu'r dogfennau ar gyfer contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi uniongyrchol

URN: FSPLPI07
Sectorau Busnes (Suites): Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu dogfennaeth ar gyfer contractau bywyd, pensiynau a buddsoddi uniongyrchol. Bydd eich gwaith yn golygu eich bod yn darparu polisi neu ddogfennau eraill i gwsmeriaid yn dystiolaeth ynghylch y contract. Ar ôl i fusnes newydd neu addasiadau gael eu prosesu, rydych yn paratoi ac yn cyflwyno'r dogfennau angenrheidiol i'r cwsmer. Byddwch fel arfer yn delio gyda dogfennaeth ar gyfer polisïau sydd â geiriad safonol, h.y., y polisïau neu'r cynnyrch hynny sy'n cael eu gyrru gan y system, heb ganiatáu fawr ddim cyfle, os o gwbl, i wneud penderfyniad unigol i amrywio'r telerau a'r amodau. Bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac er lles pennaf eich cwsmer, gan roi sylw i fanylion sy'n hollbwysig i'ch gwaith.

Efallai bydd y safon hon
yn addas i chi os ydych chi'n gweithio i yswiriwr neu ddarparwr cynnyrch arall,
neu ar eu rhan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi'r wybodaeth gywir yn y man priodol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Cynhyrchu'r dogfennau cywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  3. Datrys unrhyw anghysondebau neu elfennau nad ydynt yn cyfateb yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Cyflwyno dogfennau i'r rhai sydd eu hangen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  5. Ymgorffori cymalau a geiriad safonol yn gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  6. Cadw cofnodion cywir a chyflawn bob cam, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Gwirio bod dogfennau'n gywir, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Datgelu gwybodaeth dim ond i'r rhai sydd ei hangen, ac sydd â hawl i'w derbyn yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  4. Ffynonellau gwybodaeth a chyngor a ble mae eu cyrchu
  5. Systemau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac addasu gwybodaeth
  6. Polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid
  7. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer paratoi polisïau neu ddogfennau eraill, gan gynnwys unrhyw wybodaeth gysylltiedig hanfodol sy'n ofynnol gan y cwsmer
  8. Gweithdrefnau a therfynau amser eich sefydliad ar gyfer cyflwyno polisïau neu ddogfennau eraill
  9. Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer canslo yng nghanol y cyfnod
  10. Terfynau eich awdurdod a'r camau sy'n ofynnol i dansgrifennu risg y tu allan i'ch awdurdod
  11. Gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol sy'n cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn gryno
  2. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPLPI07

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Swyddfa bywyd; tansgrifennu; busnes newydd; contract; dogfennaeth; cynnyrch ariannol; gwasanaethau ariannol; newidiadau i'r contract; risg; gwasanaeth cwsmeriaid