Rheoli a datblygu'r berthynas â'r cwsmer er mwyn gwella llif busnes gwasanaethau ariannol

URN: FSPLPI06
Sectorau Busnes (Suites): Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli a datblygu'r berthynas â'r cwsmer er mwyn gwella llif busnes gwasanaethau ariannol. Byddwch yn mynd ati'n rhagweithiol i greu a chynnal cofnodion ynghylch cwsmeriaid a'u gweithgareddau o fewn eu cyfrifon. Byddwch yn creu ac yn gweithredu cynllun gweithgaredd i ddatblygu'r berthynas â'r cwsmer a chynyddu gwerthiant cynnyrch neu wasanaethau ariannol. Byddwch yn gwerthuso ac yn adolygu eich cynllun yn rheolaidd er mwyn monitro ei lwyddiant.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio bod manylion cwsmeriaid yn gyflawn, yn gywir ac wedi'u storio'n ddiogel, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  2. Diweddaru manylion cwsmeriaid i adlewyrchu newidiadau yn eu hamgylchiadau
  3. Monitro a diweddaru cofnodion gweithgaredd, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  4. Defnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid, cystadleuwyr ym maes gwasanaethau ariannol a'r farchnad gwasanaethau ariannol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch rheoli'r berthynas gyda'ch cwsmeriaid
  5. Nodi a gwerthuso ystod, natur ac amlder y gweithgareddau sy'n angenrheidiol i gyflawni targedau busnes newydd sy'n ymwneud â gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ariannol
  6. Creu a gweithredu cynlluniau gweithgaredd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  7. Nodi'r gofynion allweddol o ran adnoddau ar gyfer gweithredu eich cynlluniau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  8. Nodi problemau posibl a allai godi i herio cyflawniad eich cynlluniau, a chael hyd i atebion iddynt, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  9. Monitro a gwerthuso eich cynlluniau ar gyfer llwyddiant a nodi camau gweithredu priodol i sicrhau bod eich cynllun yn dychwelyd i'r llwybr cywir lle bo angen
  10. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, safonau moesegol, polisïau sefydliadol a chodau ymarfer proffesiynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Yr egwyddorion a'r rheoliadau cyfreithiol perthnasol sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  2. Strwythur y farchnad yswiriant a sicrwydd a rolau a chyfrifoldebau'r amrywiol bartïon sy'n rhan ohoni sy'n effeithio ar eich gweithgareddau
  3. Safonau a gweithdrefnau gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad, gan gynnwys delio gyda chwynion
  4. Ffynonellau cyngor a gwybodaeth yn y gwaith
  5. Prosesau sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion a gweithdrefnau ar gyfer cynnal cofnodion cwsmeriaid, gan gynnwys defnyddio systemau TG perthnasol
  6. Mathau a nodweddion, telerau ac amodau'r cynnyrch neu'r gwasanaethau ariannol a gynigir gan eich sefydliad
  7. Sut mae sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda chwsmeriaid a chydweithwyr, gan gynnwys defnyddio sgiliau rhyngbersonol a chysyniad darparu gwasanaeth o ansawdd
  8. Pwysigrwydd datblygu cynlluniau tymor byr, canolig a thymor hir
  9. Egwyddorion cynllunio gweithgaredd datblygu
  10. Gweithgaredd y farchnad a chystadleuwyr a datblygiadau yn eich diwydiant neu eich sector
  11. Gweledigaeth, strategaeth ac amcanion eich sefydliad
  12. Strategaethau marchnata a gwerthiant eich sefydliad
  13. Y rhwystrau posibl wrth gynllunio gweithgaredd datblygu a sut mae eu goresgyn
  14. Sut mae perthnasoedd mewnol â chwsmeriaid yn effeithio ar weithrediad llwyddiannus eich cynllun gweithgaredd datblygu
  15. Sut mae monitro a gwerthuso cynllun gweithgaredd datblygu
  16. Modelau a thempledi ar gyfer gweithgareddau gwerthiant
  17. Sut mae gofynion eich sefydliad yng nghyswllt cymhwyso codau, cyfreithiau a gofynion rheoliadol, gan gynnwys safonau moesegol a iechyd a diogelwch, yn cael effaith ar eich gweithgareddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych yn defnyddio gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
  2. Rydych yn arddangos dealltwriaeth o bobl eraill ac yn delio gyda nhw mewn modd proffesiynol
  3. Rydych yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd ei hangen ac sydd â hawl i'w derbyn yn unig
  4. Rydych yn rhoi sylw i fanylion sy'n hanfodol i'ch gwaith
  5. Rydych yn ymfalchïo mewn cyflawni rhyngweithio ansawdd uchel gyda golwg ar werthiant
  6. Rydych chi'n rhoi blaenoriaeth i'ch llwyth gwaith ac yn defnyddio gwybodaeth i roi eich cynlluniau busnes ar waith yn effeithiol
  7. Rydych yn cydweithio'n agos â'ch rheolwr llinell i sicrhau bod eich cynlluniau a'ch targed busnes newydd yn cael eu cyflawni
  8. Rydych yn cymryd cyfleoedd pan fyddant yn codi i gyflawni targedau ac amcanion o ran busnes newydd
  9. Rydych yn adolygu, yn myfyrio ar y gweithgareddau yn eich cynllun, ac yn eu diwygio ar sail mesur cyflawniad targedau
  10. Rydych yn cyflawni tasgau gan roi sylw dyledus i bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, gan gynnwys y rhai sy'n ymdrin â safonau moesegol a iechyd a diogelwch yn y gwaith

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Partneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

FSPLPI06

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Swyddfa bywyd; tansgrifennu; busnes newydd; contract; dogfennaeth; cynnyrch ariannol; gwasanaethau ariannol; newidiadau i'r contract; risg; gwasanaeth cwsmeriaid